Prosiect Lluosi yn cynnig troi canolfannau cymunedol yn hybiau rhifedd
Mae Prosiect Lluosi yng Ngrŵp Llandrillo Menai yn gwahodd lleoliadau cymunedol i wneud cais am ddodrefn ac offer TG newydd i sefydlu canolfannau dysgu gydol oes effeithiol ledled siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd a Môn
Bydd Prosiect Lluosi Grŵp Llandrillo Menai yn sefydlu rhwydwaith o hybiau addysgol yn siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd a Môn.
Mae'r Grŵp yn gwahodd lleoliadau cymunedol yn y pedair sir i wneud cais am ddodrefn ac offer TG newydd i greu canolfannau addysgu a fydd yn addas ar gyfer cynnal cyrsiau rhifedd Prosiect Lluosi a chyrsiau addysgol eraill.
Bydd y prosiect, a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn cefnogi 24 lleoliad cymunedol ar draws y pedair sir er mwyn hyrwyddo dysgu gydol oes a bod o les i gymunedau lleol.
Bydd ystafelloedd mewn eiddo sy'n perthyn i'r awdurdodau lleol neu'r gymuned yn cael eu haddasu'n ystafelloedd dysgu neu ystafelloedd cynadledda pwrpasol, fel y gall oedolion sy'n dychwelyd i addysg ddilyn cyrsiau rhifedd yn ogystal â chyrsiau hyfforddi eraill.
Trwy'r gwaith hwn bydd Prosiect Lluosi yn gwneud cyfraniad parhaol yn y pedair sir, gan gefnogi datblygiad rhifedd mewn ardaloedd, ac ymysg dysgwyr, sy'n anodd eu cyrraedd.
Y targed yw gosod offer newydd i hyd at 20 o ddysgwyr mewn chwe lleoliad cymunedol ym mhob un o'r pedair sir, sef Conwy, Dinbych, Gwynedd a Môn. Bydd yr offer newydd yn cynnwys: gweithfan i diwtor, sgrin ryngweithiol ar gyfer cyflwyniadau, cadeiriau a desgiau, a Chromebooks a throlïau i gadw Chromebooks.
Bydd y gwelliannau hyn yn creu ystafelloedd pwrpasol ac ynddynt offer addas ar gyfer cynnal cyrsiau rhifedd a chyrsiau eraill ac amgylcheddau dysgu hyblyg sy’n diwallu anghenion y cymunedau lleol.
I gael eu hystyried, rhaid i'r lleoliadau:
- Fod wedi'u lleoli yn siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd neu Fôn
- Dangos sut maen nhw eisoes yn defnyddio'r lleoliad ar gyfer gweithgareddau addysgol a dysgu cymunedol, neu'n bwriadu mynd ati i wneud hynny
- Ymrwymo i gynnal ac yswirio'r offer a ddarperir a sicrhau gwasanaethau cysylltiedig fel trydan a Wi-Fi
Rhaid i'r sawl sydd â diddordeb lenwi'r ffurflen gais a'i chyflwyno erbyn hanner dydd, dydd Llun 2 Rhagfyr 2024. Gofynnir i'r ymgeiswyr ateb yr holl adrannau ar y ffurflen yn fanwl ac atodi'r dogfennau ategol y gofynnir amdanynt.
Bydd y ceisiadau'n cael eu hasesu gan banel sgorio ar sail effaith ar y gymuned, parodrwydd, cynaliadwyedd a chydweddiad a nodau'r prosiect.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, fe ddechreuir ar y gwaith o osod yr offer yn fuan er mwyn gallu dechrau defnyddio'r cyfleusterau newydd yn gynnar yn 2025.
Dywedodd Sioned Williams, Rheolwr Prosiect Lluosi: “Rydyn ni'n falch o allu cynnig yr offer yma i leoliadau cymunedol yn y pedair sir.
“Trwy gyfrwng cyrsiau rhifedd mae Prosiect Lluosi eisoes wedi rhoi hwb i hyder dros 2,300 o bobl yn siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd a Môn.
“Pan ddaw i ben bydd y prosiect wedi gwneud cyfraniad parhaol yn y pedair sir trwy sicrhau bod cyfleoedd a chefnogaeth addysgol yn parhau i fod ar gael yn yr ardaloedd, ac ymysg y dysgwyr, sydd fwyaf anodd eu cyrraedd.
“Rydw i'n annog unrhyw un sydd â diddordeb i lenwi'r ffurflen gais, gan y gallai hyn arwain at sefydlu adnodd addysgol parhaol yn eich cymuned.”
Dolen i'r ffurflen gais yma: Cymraeg/Welsh
Dolen i'r ffurflen gais yma: English/Saesneg
Cysylltwch â Chydlynwyr Ymgysylltu eich sir os oes gennych unrhyw gwestiynau neu angen cymorth i lenwi'r ffurflen, neu anfonwch e-bost i lluosi@gllm.ac.uk.
Y Cydlynwyr Ymgysylltu yn y pedair sir yw:
Gwynedd: Hanna Lewis hanna.lewis@gllm.ac.uk 07842438447
Caroline Jones caroline.jones@gllm.ac.uk 07808774924
Ynys Môn: Alaw Jones alaw.jones@gllm.ac.uk 07842429589
Sir Conwy: Joe Lloyd-Jones joseph.lloydjones@gllm.ac.uk 07842438445
Sir Ddinbych: Bethan Lloyd bethan.lloyd@gllm.ac.uk 07743961189