Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prosiect Lluosi yn adeiladu hyder a rhagolygon gyrfa i Huws Gray

Mae’r masnachwr adeiladu o ogledd Cymru wedi bod yn cynnal cyrsiau mathemateg, taenlenni a chodio ar gyfer ei staff yn ei brif swyddfa yn Llangefni

Mae Huws Gray yn cynnal cyrsiau i hybu rhagolygon gyrfa ei weithlu mewn partneriaeth ag adran Lluosi Grŵp Llandrillo Menai

Mae'r masnachwr adeiladu wedi gweld cynnydd mewn hyder ymhlith staff diolch i'r sesiynau ar fathemateg, taenlenni a chodio.

Mae Lluosi yn cynnig mynediad hawdd i ystod eang o gyrsiau mathemateg AM DDIM, gyda Grŵp Llandrillo Menai yn arwain ar y prosiect ar draws Gwynedd, Môn, Conwy a Sir Ddinbych.

Mae’r prosiect wedi gweithio gyda sefydliadau ledled Gogledd Cymru i ddatblygu hyder rhifedd y staff, cleientiaid ac aelodau o’r gymuned.

Mae Huws Gray wedi bod yn gweithio gyda Lluosi ers mis Chwefror. Ar hyn o bryd mae’n cynnig cyrsiau TGAU mathemateg, codio, a dosbarth meistr Microsoft Excel i'w staff yn ei brif swyddfeydd yn Llangefni, Ynys Môn.

Mae Dafydd Hughes, Pennaeth Gweithrediadau Canolog Huws Gray, yn credu bod y prosiect yn helpu pobl yma yng Ngogledd Cymru i wella eu sgiliau, a datblygu eu gyrfaoedd.

Dywedodd: “Fel cwmni, rydym ni'n awyddus i roi cyfle i’n holl gydweithwyr ddatblygu eu gyrfa a chyflawni eu potensial. Rydym yn ffodus yng Ngogledd Cymru - mae gennym nifer o gysylltiadau gyda cholegau, busnesau eraill a phrifysgolion yn yr ardal.

“Rydym wedi gweithio’n agosach gyda Grŵp Llandrillo Menai yn ystod y misoedd diwethaf ac rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o’r Prosiect Lluosi. Mae'n gyfle gwych sy'n darparu opsiynau amrywiol i bobl wneud eu TGAU, a gwella eu sgiliau Excel a TG.

“Mae ein cydweithwyr wedi mwynhau’r sesiynau gyda’r tiwtoriaid hynod gymwynasgar yn fawr, ac wedi datblygu sgiliau newydd a magu hyder newydd.”

Gall Lluosi adeiladu a chyflwyno cyrsiau rhifedd am ddim wedi'u teilwra i anghenion sefydliad, ei weithlu a'r bobl y mae'n eu cefnogi. Mae enghreifftiau o gyrsiau y mae’r prosiect wedi’u cynnig ar y cyd â sefydliadau eraill yn cynnwys:

  • Trin arian yn y gweithle
  • Sgiliau rhifedd ar gyfer cyflogaeth a dyrchafiad
  • Mathemateg i Gynorthwywyr Addysgu
  • Rhedeg eich Busnes eich Hun
  • Rhifedd y tu ôl i iechyd a ffitrwydd
  • Dosbarthiadau meistr Microsoft Excel
  • Rhifedd ar gyfer sgiliau digidol
  • Hyfforddi'r ymennydd i'r henoed
  • Cyrsiau ar gyfer meysydd penodol megis adeiladu, lletygarwch ac iechyd a gofal cymdeithasol

Dywedodd Kerry Barclay-Smith sy'n diwtor lluosi: “Gan fod Huws Gray yn y diwydiant adeiladu, rydyn ni wedi bod yn edrych arno mewn cysylltiad ag adeiladu a’r ffaith bod hyn yn rhywbeth maen nhw’n ei wneud yn eu bywyd bob dydd.

“Rydyn ni hefyd yn edrych ar ffyrdd y gallwn ni symleiddio'r broses fel eu bod yn gallu cael y canlyniadau sydd eu hangen yn llawer cyflymach. Felly yn hytrach na dibynnu ar fformiwla benodol, byddaf yn dangos sawl ffordd wahanol iddynt o wneud pethau oherwydd bydd pawb yn dod o hyd i ffordd sy'n iawn iddyn nhw.

“Gall mathemateg fod yn haniaethol iawn, felly mae'n bwysig iawn gwneud yr haniaethol yn rhywbeth diriaethol y gall pobl ei weld. Hefyd, mae eu hannog i dynnu llun o'r broblem yn gam mawr.

“Y fantais fawr sydd ganddon ni yma ydy mai grŵp bach ydy o. Dw i'n gallu mynd o gwmpas bob un ohonyn nhw, a dw i'n gallu gwneud yn siŵr fy mod yn gwahaniaethu ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnynt.

“Mae'r mwyafrif o'r bobl dwi'n eu dysgu wedi cael profiad negyddol pan maen nhw wedi bod mewn addysg ffurfiol neu am ba bynnag reswm. Y prif beth ydy hyder, felly mae'n rhaid deall be' maen nhw' ei gael yn anodd, ac mae angen darganfod sut maen nhw'n mynd i ddysgu.

“Mae 'na un fyfyrwraig yma ers dim ond pedair wythnos, heb unrhyw TGAU mathemateg, a dwi bellach yn ei hystyried i sefyll y papur TGAU uwch, sy’n wych.

“Maen nhw wedi dod i mewn, maen nhw eisiau gwneud hyn a dydi o ddim fel bod mewn ystafell ddosbarth, mae’n hollol wahanol. Mae wedi’i deilwra i chi, ac mi allwn ni fynd yn araf neu'n gyflymach, pa un bynnag sy’n gweithio.”

Gall Lluosi ddatblygu sgiliau a hyder eich gweithlu, neu’r bobl rydych yn eu cefnogi, trwy gyrsiau pwrpasol, wedi’u teilwra i’w hanghenion a’u dyheadau penodol. Cliciwch yma ⁠i gael rhagor o wybodaeth.