Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwaith ar gig Taylor Swift i’r myfyriwr cerdd James

Mae'r dysgwr o Goleg Menai yn rhan o'r criw llwyfan wrth i daith Eras, y daith fwyaf llwyddiannus erioed, ymweld â Stadiwm Anfield yn Lerpwl am dair noson

Mae'r myfyriwr cerdd o Goleg Menai, James Hopkins, yn gweithio ar sioeau taith Eras Taylor Swift yn Lerpwl yr wythnos hon.

Bydd mwy na 150,000 o Swifties yn gwylio'r seren yn perfformio yn stadiwm pêl-droed Anfield nos Iau, nos Wener a nos Sadwrn.

Mae James, sy'n dilyn cwrs Lefel 3 mewn Technoleg Cerddoriaeth ar gampws Coleg Menai, yn gweithio fel criw llwyfan yn ystod y tair sioe.

Mae wedi bod yn adeiladu’r llwyfan yr wythnos hon, a bydd wrth law i helpu gydag unrhyw faterion goleuo, sain neu faterion cynhyrchu eraill unwaith y bydd Tay-Tay yn camu i’r llwyfan.

Mae James wedi gweithio i Liverpool Stage Crew ers 2018, ac wedi gweithio ar sioeau gan gynnwys P!nk, Take That a Bon Jovi yn Anfield.

Dywedodd: “Mae'n anhygoel dydi. Rydych chi'n cael gweld sut mae'r holl beth yn gweithio. Mae gennych chi dasgau i’w gwneud yn ystod y sioeau ond weithiau rydych chi’n cael gwrando ar y gerddoriaeth hefyd.”

Mae’r bachgen 25 oed, sy’n dod yn wreiddiol o’r Hen Golwyn, yn chwarae gitâr ac weithiau i’w weld yn bysgio yng Nghaer.

Cofrestrodd ar gwrs Lefel 2 mewn Technoleg Cerddoriaeth yng Ngholeg Menai yn 2021 ac mae bellach ar ail flwyddyn ei gwrs Lefel 3. Mae ganddo drac o’r enw ‘Reverie’ ar yr albwm gan adran Cerddoriaeth Coleg Menai eleni, sef Cerdd Menai Music 23/24. Mae’r albwm ar gael ar Spotify yma.

Meddai James: “Dw i'n gerddor, ac roeddwn i eisiau ennill bywoliaeth yn gwneud rhywbeth dw i’n ei fwynhau.”

Hoffech chi gael gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth? Mae cyrsiau Cerddoriaeth a Thechnoleg Cerddoriaeth Grŵp Llandrillo Menai yn rhoi profiad ymarferol i chi mewn stiwdios recordio proffesiynol lle y ceir offer cyfoes o'r un safon ag a geir yn y diwydiant. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.