Myfyrwyr yn profi uchafbwyntiau diwylliannol y brifddinas
Ar ymweliad â Chaerdydd cafodd dysgwyr Coleg Meirion-Dwyfor weld Portread o’r Artist gan Vincent Van Gogh, sydd yng Nghymru am y tro cyntaf
Aeth myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor ar ymweliad â Chaerdydd i brofi rhai o uchafbwyntiau bywyd celfyddydol a diwylliannol Cymru.
Roedd y daith, ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio a’r Cyfryngau, yn cynnwys ymweliad ag Amgueddfa Cymru i weld y Portread o’r Artist byd-enwog gan Vincent Van Gogh.
Ar hyn o bryd mae'r hunanbortread o 1887 gan yr arlunydd dylanwadol o'r Iseldiroedd ar fenthyg o'r Musee D'Orsay, Paris. Dyma’r tro cyntaf erioed iddo ymweld â Chymru.
Yn gyfnewid am hynny, mae Amgueddfa Cymru wedi rhoi benthyg La Parisienne, a elwir hefyd yn ‘The Blue Lady’, gan Pierre-Auguste Renoir, i’r Musee D’Orsay.
Mae’r cytundeb i fenthyca yn ddiwedd i flwyddyn 'Cymru yn Ffrainc' Llywodraeth Cymru, sydd wedi creu cysylltiadau rhwng y ddwy wlad mewn masnach, diwylliant a chwaraeon.
Meddai Iolo Tudur, darlithydd Celf a Dylunio yng Ngholeg Meirion-Dwyfor: “Mae rhoi cyfleoedd i’n myfyrwyr, fel mynd i weld celf byd enwog yn ein gwlad ein hunain, yn rhan annatod o’r addysg rydyn ni’n ei chynnig yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.
"Mae gan Amgueddfa Cymru un o'r casgliadau Argraffiadol ac Ôl-argraffiadol gorau yn y byd y tu allan i Ffrainc, sy'n gynnwys gweithiau gan Paul Cézanne, Camille Pissarro a Claude Monet.
“Mae dysgu am hanes celf Ewropeaidd trwy ymweld ag amgueddfeydd ac orielau yn bwysig iawn. Rydym ni'n falch ein bod ni fel coleg yn gallu cynnig y mathau hyn o gyfleoedd i’n myfyrwyr.”
Cafodd y myfyrwyr gyfle i ymweld ag Amgueddfa Werin Cymru yn San Ffagan, stiwdios BBC Cymru yn Llandaf, ac adrannau Celf a Dylunio Prifysgol Metropolitan Caerdydd hefyd.
Roedd y dysgwyr a ddaeth ar y daith yn astudio cyrsiau Celf a Dylunio Lefel 2 a Lefel 3 ar gampws Dolgellau, cwrs UG Celf a Dylunio (Ffotograffiaeth) yn Nolgellau a chwrs Lefel A Cyfryngau ar gampws Pwllheli.