Myfyrwyr yn cael cipolwg ar yrfa bosibl yn y dyfodol gyda Babcock
Ar ymweliad â'r cwmni amddiffyn yn RAF y Fali cafodd dysgwyr Peirianneg Awyrennau Lefel 3 Coleg Menai weld awyrennau jet Hawk, a’u gwylio yn cychwyn o redfa fer
Yn ddiweddar bu'r myfyrwyr o Goleg Menai sy'n anelu at gael gyrfa ym maes hedfan yn ymweld â Babcock International yn RAF y Fali i gael cipolwg ar sut olwg allai fod ar eu dyfodol.
Cwmni Babcock sy'n cynnal a chadw fflyd yr Awyrlu o jetiau Hawk T2 yn ogystal ag awyrennau’r Red Arrows (T1 Hawks), a chafodd y dysgwyr Peirianneg Awyrennau gyfle i gael golwg y tu ôl i'r llen.
Datblygwyd cwrs Peirianneg Awyrennau Lefel 3 Coleg Menai ar y cyd â chwmni Babcock i ddarparu’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr dawnus ar gyfer y diwydiant hedfan.
Bob blwyddyn, mae Babcock yn cynnal rhaglen brentisiaeth awyrennau Hawk sy'n agored i ymgeiswyr o’r cwrs hwn yn unig, fel rhan o'u hymrwymiad i’r economi leol yng ngogledd orllewin Cymru.
Mae Babcock yn gweithio’n agos gyda’r myfyrwyr drwy gydol eu hamser ar gampws Coleg Menai yn Llangefni, gan ddarparu mentora, profiad gwaith, a chymorth arall i sicrhau bod y prentisiaid a gymerant yn gwbl barod ar gyfer y camau cyntaf tuag at yrfa gyda’r cwmni.
Mae tîm Babcock yn ymweld â’r campws yn rheolaidd i ddarparu cymorth mentora, yn ogystal ag ymweld ag ysgolion lleol i godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc yn yr ardal.
I'r rhai nad ydynt yn sicrhau lle ar raglen Babcock, mae'r cwrs Peirianneg Awyrennau Lefel 3 yn rhoi cymhwyster iddynt sy'n cael ei barchu gan arweinwyr sector eraill.
Yn ddiweddar, cafodd y dysgwyr flas o sut beth yw gweithio yn Babcock wrth dreulio diwrnod yn RAF y Fali.
Ar ôl sesiwn friffio ar ddiogelwch a'r arferion sylfaenol, cawsant ddysgu mwy am rôl hollbwysig Babcock yn RAF y Fali, cyn cael taith o amgylch yr awyrendai, lle gwelsant yr Hawks a chael cyfle i siarad â pheirianwyr am sut brofiad yw gweithio ar yr awyren.
I orffen y diwrnod, aethpwyd â’r myfyrwyr at y llwybr hedfan lle buont yn gwylio 12 Hawk T2 yn esgyn, pob un yn cael eu hedfan gan beilot dan hyfforddiant.
Bydd y dysgwyr yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan Babcock yn ystod eu hastudiaethau yng Ngholeg Menai, a gallant edrych ymlaen at gael profiad byd go iawn yn ystod lleoliadau gwaith gyda’r cwmni yn ail flwyddyn eu cwrs.
Dywedodd Mason Owen o Fryngwran, fod y diwrnod yn Babcock wedi ei ysgogi i wneud cais am gynllun prentisiaeth Hawk.
“Mae heddiw wedi bod yn ddiddorol iawn,” meddai. “Mae Babcock yn gwmni mawr, ac maen nhw wedi dangos llawer o bethau i ni o fewn yr amser oedd ar gael.
“Mae’n bendant wedi fy ysgogi i edrych yma cyn edrych yn unrhyw le arall. Maen nhw hefyd yn ein cymell mwy trwy fod mor barod i weithio'n agos gyda ni yn y coleg a bod mor gymwynasgar yn ein dysgu.”
Dywedodd Jamie Owen o Langefni: “Rydyn ni wedi cael gweld llawer o wahanol agweddau o’r cwmni, ac felly cael dealltwriaeth dda o’r hyn maen nhw’n ei wneud, a fydd yn fy helpu i ddewis beth rydw i eisiau ei wneud ar ôl y cwrs.
“Dw i'n edrych ymlaen at y lleoliadau gwaith yn Babcock a chael profiad ymarferol go iawn gyda chwmni sydd wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers amser maith.
“Oherwydd eu bod yn gwmni lleol, rydyn ni'n cael cyfathrebu mwy gyda nhw er mwyn i ni gael gwell dealltwriaeth o'r hyn y gallwn ei wneud gyda nhw. Gan fod Babcock yn y Fali, mae’n lleol iawn i bob un ohonom ni.”
Mae brawd hŷn Jamie eisoes wedi symud ymlaen drwy gynllun prentisiaeth Hawk Babcock. Yn dilyn eu dwy flynedd yng Ngholeg Menai, mae ymgeiswyr llwyddiannus yn parhau â'u haddysg yn Babcock, lle maent yn dod i gysylltiad â gwahanol feysydd o'r busnes i helpu er mwyn dod o hyd i'r llwybr cywir ar eu cyfer.
Mae pob ymgeisydd llwyddiannus i brentisiaeth Hawk wedi mynd ymlaen i gael swyddi parhaol gyda Babcock. Mae rhai bellach mewn swyddi goruchwylio, mae rhai wedi mynd ymlaen i weithio mewn lleoliadau Babcock eraill ar draws y Deyrnas Unedig, ac mae eraill wedi ymuno â chwmnïau eraill yn y diwydiant mewn lleoliadau ledled y byd.
Dywedodd Eurfon Davies, Rheolwr y Rhaglen Beirianneg yng Ngholeg Menai: “Mae ein partneriaeth â Babcock yn cynnig cipolwg amhrisiadwy ar y diwydiant hedfan i’n myfyrwyr.
“Mae profiadau fel hyn nid yn unig yn ysbrydoli'n dysgwyr ond hefyd yn rhoi’r sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnyn nhw i ragori yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
“Mae ymrwymiad Babcock i fentora a chefnogi ein myfyrwyr yn sicrhau eu bod yn barod ar gyfer y cyfleoedd sydd i ddod, boed hynny gyda Babcock neu ag arweinwyr eraill yn y diwydiant.
“Mae’r bartneriaeth sydd gennym ni fel Grŵp gyda Babcock yn gryf ac yn dangos sut y gall cydweithio rhwng addysg a diwydiant fod o fudd i bobl ifanc a chyflogwyr lleol.”
Ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant cynnal a chadw awyrennau? Mae diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Awyrennau Coleg Menai yn darparu’r sgiliau rhagarweiniol a’r wybodaeth dechnegol i’ch paratoi ar gyfer amrywiaeth o swyddi peirianneg awyrennau. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.