Ned yn dechrau ar lwybr gyrfa gyffrous
Mae Ned Pugh, Myfyriwr Peirianneg y Flwyddyn 2024 newydd ddechrau prentisiaeth fel technegydd fflyd cerbydau
Mae Ned Pugh, enillydd gwobr myfyriwr y flwyddyn, yn bwrw ymlaen â'i yrfa ac wedi dechrau prentisiaeth gyda Chyngor Gwynedd.
Derbyniodd Ned, o Lwyngwril ger Dolgellau, wobr Myfyriwr Peirianneg y Flwyddyn 2024 yn noson wobrwyo myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor.
Yn ogystal â hyn enillodd Ned wobr genedlaethol am ddatblygu ei sgiliau ariannol yn y coleg, Gwobr Gwella Rhifedd Ariannol, Cwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru.
Ar ôl cwblhau ei Ddiploma Lefel 3 mewn Peirianneg Uwch y llynedd, mae Ned wedi dechrau prentisiaeth fel technegydd fflyd cerbydau gyda Chyngor Gwynedd yn Nolgellau.
Ochr yn ochr â’i rôl yn archwilio a thrwsio ystod eang o gerbydau, mae hefyd yn gweithio i gwblhau Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Trwm ar gampws Coleg Menai yn Llangefni.
Dywedodd Emlyn Evans, Darlithydd mewn Peirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, bod Ned yn 'fyfyriwr arbennig â dyfodol disglair' ym maes peirianneg.
Meddai, "Roedd Ned yn ymroi'n llwyr i'w astudiaethau. Roedd yn gwneud ei orau bob tro i gwblhau gwaith o'r safon uchaf, ac roedd yn llwyddo i ennill y graddau uchaf bob amser am ei waith cwrs.
Dilynodd gyrsiau TGAU yn Ysgol Tywyn ac yna mynd ymlaen i ddilyn cwrs Peirianneg Lefel 2 ar gampws CaMDA, Coleg Meirion-Dwyfor yn ogystal â chwrs Llythrennedd Digidol a Chymhwyso Rhif.
Canolbwyntiodd Neb yn y lle cyntaf ar feithrin sgiliau peirianneg ymarferol ar y cwrs Peirianneg Lefel 2, yna aeth ymlaen i ddatblygu sgiliau pellach ar y cwrs Lefel 2 Ffabrigo a Weldio.
Yna wedi iddo fagu hyder a gwella sgiliau dechreuodd ar y cwrs Lefel 3Peirianneg Uwch. Enillodd nifer o wobrau am ei ymdrech a'i ymroddiad fel myfyriwr ar y cwrs hwn.
Llwyddodd Ned i ennill gradd Rhagoriaeth ar ddiwedd y cwrs BTEC Lefel 3 Peirianneg Uwch, sy'n brawf o'r ymroddiad a'r gwaith caled a gyflawnodd yn gyson yn ystod y cwrs.
Byddai unrhyw diwtor yn dweud y byddai'n braf cael llond dosbarth o fyfyrwyr fel Ned ar eu cyrsiau. Mae ganddo agwedd ragorol tuag at waith, mae'n barod iawn i ddysgu ac mae ganddo wên bob amser yn y gwersi, a dweud y gwir pur anaml y gwelir Ned heb wên ar ei wyneb.
Dw i'n falch iawn fy mod i wedi chwarae rhan yn ei ddatblygiad a dw i'n dymuno'n dda iddo yn ei ddyfodol disglair yn y diwydiant peirianneg."
Dywedodd Ned: "Mae Coleg Meirion-Dwyfor wedi cael dylanwad mawr arna i. Mi ddysgais i gymaint o sgiliau, pethau fel datrys problemau a chyfathrebu.
"Roeddwn i'n rhan o grŵp ar brosiectau fel F1 mewn Ysgolion, ac mi ddysgais sut mae gweithio gydag eraill, sgil pwysig i unrhyw swydd. Yn ystod sesiynau ymarferol yn y gweithdy mi ddysgais sut i roi'r theori roeddwn i wedi'i ddysgu ar waith, ac mae hyn o gymorth wrth ddechrau gweithio.
Mi wnaeth Coleg Meirion-Dwyfor fy mharatoi drwy gyflwyno sgiliau hanfodol i mi a fy nghynorthwyo i drosglwyddo i fyd gwaith go iawn.
Eisiau dysgu rhagor am fyd cyffrous peirianneg gyda Grŵp Llandrillo Menai? Dysga ragor am ein cyrsiau yma.