Campws newydd Coleg Menai yn agor!
Yr wythnos hwn bydd campws newydd Coleg Menai ym Mangor yn agor i'w ddysgwyr.
Mae'r campws modern – sydd o fewn tafliad carreg i'r adran Gelf sydd wedi'i hen sefydlu ym Mharc Menai – yn gartref i ddeg maes galwedigaethol:
Gwallt a Harddwch, Lletygarwch ac Arlwyo, Busnes, Teithio a Thwristiaeth, y Celfyddydau Perfformio, Cyfryngau (Teledu a Datblygu Gemau), Mynediad i Addysg Uwch, Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac ESOL.
Cafwyd buddsoddiad o £14 miliwn gan raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru i helpu i symud darpariaeth bresennol Coleg Menai o Ffordd Ffriddoedd a safle Friars i gampws modern sy'n cynnig yr holl gyfleusterau diweddaraf.
Yno caiff y dysgwyr brofiad ymarferol gan ddefnyddio offer a thechnoleg o'r un safon ag a geir mewn diwydiant. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae cegin hyfforddi broffesiynol, ystafelloedd Apple Mac at ddefnydd y disgyblaethau creadigol, a gwasanaethau Llyfrgell+ modern.
Yn ogystal, o fis Medi ymlaen bydd y salonau Gwallt a Harddwch yn cynnig triniaethau i'r cyhoedd, gan roi profiad i'r myfyrwyr o waith yn y byd go iawn. Bydd stiwdio 15O sedd ar gael i'r adran Celfyddydau Perfformio gynnal perfformiadau a sioeau byw, tra bydd bwyty hyfforddi ar y safle yn gyfle i'r cyhoedd fynd am bryd bwyd gwerth chweil.
Gall y staff a'r dysgwyr fanteisio ar fwyty a bar coffi mawr agored a fydd yn rhoi cyfle iddynt gymdeithasu a gweld pawb, a bydd tîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr wrth law i gynnig cyngor gyrfaol, cymorth cyfrinachol, ac amrywiol weithgareddau'n gysylltiedig â llesiant.
Meddai Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai,
“Rydyn ni'n falch o groesawu ein dysgwyr i gampws newydd modern a fydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc Gwynedd a Môn ddefnyddio offer a thechnoleg o'r radd flaenaf wrth astudio.
“Bydd y dysgwyr yn cael eu dysgu gan staff sydd â phrofiad o ddiwydiant ac sy'n edrych ymlaen yn eiddgar at gael manteisio ar yr adnoddau gwych fydd ar gael iddynt i sicrhau bod gan eu dysgwyr y sgiliau angenrheidiol i fynd ymlaen i un ai cyflogaeth neu astudiaethau uwch yn y sectorau amrywiol y mae'r campws hwn yn darparu ar eu cyfer.”
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â'r prosiect, o'r staff sydd wedi cyfrannu at natur a chynnwys yr adeilad, i raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru am wneud yn siŵr fod y cynlluniau ar gyfer y campws anhygoel hwn yn dwyn ffrwyth.”
Meddai Lynne Neagle AC – Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg,
"Mae Llywodraeth Cymru'n falch o gefnogi datblygiad campws Parc Menai a chyfrannu £16m o gronfa rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae'n bwysig bod ein dysgwyr yn elwa o'r cyfleusterau gorau posib ac yn cael mynediad at amrywiaeth o lwybrau dilyniant, llwybrau at gyflogaeth a chefnogaeth er mwyn gwireddu eu potensial. Mae hyn yn rhywbeth mae'r cyfleuster newydd hwn ym Mharc Menai yn ei gynnig ar gyfer dysgwyr Ynys Môn a Gwynedd."
Rydyn ni'n dal i wahodd ceisiadau gan ddysgwyr sy'n awyddus i astudio ar y campws newydd. I weld y dewis helaeth o gyrsiau sydd ar gael, ewch i gllm.ac.uk heddiw.