Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Sefydlu academi rygbi merched Grŵp Llandrillo Menai

Bydd tîm yr academi yn cystadlu yng Nghynhadledd Genedlaethol Ysgolion a Cholegau Cymru, gyda lleoedd yn dal ar gael i fyfyrwyr sydd am gyfuno eu cwrs â rygbi

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi sefydlu academi rygbi merched newydd, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr gyfuno eu hastudiaethau â chwarae i'r coleg.

Bydd tîm yr academi yn cystadlu yng Nghynhadledd Genedlaethol Ysgolion a Cholegau Cymru - y lefel uchaf y tu allan i rygbi rhanbarthol ar gyfer y grŵp oedran 16-18.

Bydd yr academi’n darparu cyswllt rhwng y coleg a’r Ganolfan Datblygu Chwaraewyr (PDC) ym Mharc Eirias, gan greu llwybr i symud ymlaen i chwarae i Rygbi Gogledd Cymru (RGC) ac o bosibl i dîm dan 18 Cymru.

Bydd chwaraewyr yn derbyn hyfforddiant technegol, tactegol a hyfforddiant fesul safle, yn ogystal â sesiynau cryfder a chyflyru yng nghampfa academi Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Mae'r academi yn chwilio am ragor o chwaraewyr cyn gêm gyntaf y tymor yn erbyn Coleg Caerdydd a'r Fro ar Barc Eirias ar 18 Medi. Gall unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu â Chydlynydd yr Academi Andrew Williams ar willia18a@gllm.ac.uk

Ymhlith y rhai sydd eisoes ar y rhestr mae Leah Stewart, Begw Ffransis Roberts a Saran Griffiths, pob un yn chwarae i dîm dan 18 RGC ac wedi chwarae eu gemau cyntaf i dîm dan 18 Cymru yn ystod y tymor diwethaf.

Mae Leah o Rhydwyn ar Ynys Môn ⁠⁠, yn astudio Lefel 3 Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yng Ngholeg Menai ac yn chwarae ar yr asgell i RGC a thîm dan 18 Cymru.

Dywedodd Leah: “Mae wedi bod yn brofiad da iawn. Rydyn ni'n canolbwyntio mwy ar sgiliau a sut rydyn ni'n gwneud pethau na mynd ati i chwarae'n syth bin. Felly rydyn ni'n gallu datblygu a chryfhau cyn i'r tymor ddechrau.

“Ro'n i'n ddigon lwcus i gael chwarae i dîm dan 18 Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y tymor diwetha’, ac roedd hynny'n brofiad gwerth chweil. Roedd o'n anhygoel 'mod i wedi cael gwneud hynny, yn enwedig gan i mi ddechrau chwarae rygbi yn ystod y cyfnod clo. Ers hynny rydw i wedi chwarae i Môn Stars, RGC a'r coleg. Wnes i ddechrau efo fy chwaer er mwyn cael 'chydig o hwyl ond wedyn mi wnes i ddechrau cymryd diddordeb go iawn.

“Rydw i'n chwarae ar yr asgell ac yn gobeithio chwarae fel canolwr hefyd er mwyn cael mwy o gyfleoedd mewn gêm.

Wrth drafod chwarae i dîm academi Grŵp Llandrillo Menai, dywedodd Leah: “Dw i'n meddwl y cawn ni fwy o gyfleoedd, mwy o gemau ac mi fydd hi'n dda cael chwarae yn erbyn timau gwahanol. Bydd cael amser yn chwarae gemau yn gwneud byd o wahaniaeth.

“Mi fydd yn gyfle da i'r genod, hyd yn oed os dydyn nhw ddim yn chwarae i RGC. Mi fyddan nhw'n cael mwy o gemau ac yn elwa ar yr hyfforddiant.”

Mae Begw Ffransis Roberts o Langefni yn dilyn cwrs Chwaraeon Lefel 3 yng Ngholeg Menai ac yn chwarae fel blaenasgellwr i dîm dan 18 oed RGC a Chymru.

Dywedodd Begw: “Rydan ni'n gobeithio y bydd mwy o genod yn gallu ymuno â ni er mwyn i ni gael mwy o gemau a mwy o gyfleoedd. Rydyn ni'n gyffrous.

“Bydd bod yn rhan o'r academi a'r tîm merched yn gwneud lles mawr i'n rygbi ni. Ar hyn o bryd rydan ni'n edrych yn fanwl ar ddatblygu sgiliau. Rydach chi'n cael sylw mwy personol ac yn cael gwybod beth i ganolbwyntio arno. Mae hynny'n sicr yn helpu.

“Rydyn ni'n hyfforddi gydag RGC ar nos Lun a nos Wener, ond rydyn ni yma ar bnawn Llun a phnawn Gwener felly mae'n rhoi mwy o amser i mi hyfforddi a chanolbwyntio ar fy natblygiad.

“Mae'r cyfleusterau fel y gampfa a'r caeau yn arbennig o dda, rydan ni'n lwcus i'w cael nhw. Dydi'r rhan fwyaf o bobl ddim yn cael cyfle i hyfforddi mewn cyfleusterau fel y rhain. Rydan ni'n lwcus iawn i'w cael nhw yn y coleg a gyda RGC.”

Lucy Brown ydy Hyfforddwr Cynorthwyol tîm merched Grŵp Llandrillo Menai ac Arweinydd Canolfan Datblygu Chwaraewyr URC ar gyfer Gogledd Cymru.

Dywedodd Lucy: “Un o'r prif bethau rydan ni wedi'i ganfod yng ngogledd Cymru ydi fod angen rhaglen a llwybr datblygu perfformiad i ferched rhwng 16 a 18 oed.

“Rydyn ni'n ddiolchgar i'r coleg am ddangos arweiniad yn hyn o beth. Ar y cyd â'r Ganolfan Datblygu Chwaraewyr mae hyn yn bendant yn mynd i wella'r cyfleoedd sydd ar gael i chwaraewyr yma yng ngogledd Cymru.

“Os ydych chi'n rhan o raglen y coleg, rydych chi eisoes yn deall sut rydyn ni'n mynd i chwarae ac am beth rydyn ni'n chwilio. Mae aliniad ar hyd y llwybr a fydd yn helpu’r chwaraewyr yn y coleg a chyda RGC.

“Yn y coleg hefyd rydych chi'n hyfforddi dair gwaith yr wythnos. Rydych chi'n cael defnyddio cyfleusterau'r gampfa ac mi fydd hynny'n eich gwneud chi'n fwy cryf, cyflym a heini. Yn sgil hynny, mi fyddwch chi'n fwy tebygol o gael eich dewis.

“Fel arweinydd sy'n gyfrifol am ddatblygiad chwaraewyr, mae'r coleg yn gam pwysig ar y llwybr.

“Rydyn ni'n chwilio am chwaraewyr fydd yn mynd ymlaen i chwarae i dîm dan 18 Cymru. Mae'r gynghrair yn un lle mae llawer o chwaraewyr wedi arfer â gweithio ar eu datblygiad corfforol a dadansoddi sut maen nhw'n chwarae o oedran cynnar.

“Rydan ni wedi gweld rhai o'n chwaraewyr yn cymryd camau breision ymlaen mewn wythnos yn unig, dim ond am eu bod nhw'n cael mwy o amser cyswllt, yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a deall pam. Mae'n bosib eu bod nhw heb gael llawer o hynny yn eu clybiau oherwydd prinder chwaraewyr neu brinder amser hyfforddwyr i ateb cwestiynau.

“O fewn chwe mis neu flwyddyn, gobeithio y bydd gennym ni fwy o chwaraewyr yn gwisgo crys Cymru.”

Hoffech chi ymuno ag academi rygbi merched Grŵp Llandrillo Menai? Cysylltwch â Chydlynydd yr Academi Andrew Williams ar willia18a@gllm.ac.uk ⁠i wybod mwy

Pagination