Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ethol Llywyddion newydd Undeb y Myfyrwyr

Bydd y Llywyddion newydd ar gyfer Coleg Llandrillo, Coleg Menai, a Choleg Meirion-Dwyfor yn sicrhau llais i'r dysgwyr

Mae Llywyddion newydd Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai wedi eu hethol ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod.

Bydd y cynrychiolwyr newydd yn rhoi llais i fyfyrwyr dros naw campws y Grŵp ac yn gweithio i gyfoethogi eu profiad yn y coleg.

Y llywyddion newydd yw Troy Maclean (Coleg Meirion-Dwyfor), Munachi Nneji (Coleg Menai), Rhys Morris (Coleg Llandrillo) a Rhiannon Williams (Addysg Uwch).

Dyma beth oedd ganddynt i'w ddweud ar gael eu dewis i gynrychioli eu cyd-ddysgwyr:

Troy Kaydon Maclean (Llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor)

Mae Troy yn astudio Sgiliau Byw'n Annibynnol ar gampws Dolgellau. Mae'n addo gwella llesiant ac iechyd meddwl myfyrwyr, a hyrwyddo amgylchedd mwy cefnogol lle gall pob myfyriwr deimlo'n gyfforddus wrth drafod materion eu cwrs.

Dywedodd: “Mae’n bwysig cefnogi pobl a gweld beth allwch chi ei newid. Dw i eisiau gwella llesiant a chael mwy o drafodaethau rhwng y grŵp cyfan, gwrando ar syniadau ac awgrymiadau a’u rhoi ar waith.”

Munachi Nneji (Llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg Menai)

Mae Munachi yn astudio Lefel A mewn Mathemateg, Ffiseg a Chemeg ar gampws Llangefni. Mae hi'n addo hyrwyddo arferion cynaliadwy ar y campws, fel ailgylchu, lleihau gwastraff ac arbed ynni, a chreu amgylchedd campws gwyrdd ac iach.

Dywedodd: “Dw i wrth fy modd gyda'r ymdeimlad o gymuned a’r rhyddid sydd yng Ngholeg Menai. Dw i’n credu bod iechyd meddyliol ac iechyd corfforol a llesiant yn bwysig er mwyn i bobl wireddu eu potensial, a chael y gorau o’u cyfnod yn y coleg ac wrth symud ymlaen i’w gyrfaoedd.

“Dw i eisiau helpu i godi ymwybyddiaeth o’r gweithgareddau y gall pobl gymryd rhan ynddynt fel eu bod wrth eu bodd yn dod i’r coleg ac yn mwynhau dysgu.”

Rhys Morris (Llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg Llandrillo)

Mae Rhys yn astudio Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol ar gampws y Rhyl, ac ef oedd enillydd cyffredinol Gwobrau Cyflawnwyr Coleg Llandrillo am y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Yn gynharach eleni, enillodd Rhys wobr Addysg 'Ascential' Ymddiriedolaeth y Tywysog sy'n cydnabod pobl ifanc sydd wedi goresgyn rhwystrau i addysg.

Mae'n addo gwella tryloywder, cynyddu ymgysylltiad myfyrwyr a sicrhau bod llais myfyrwyr wrth wraidd popeth y mae'r coleg yn ei wneud.

Meddai Rhys: “Mae’r rôl hon yn gweddu i’r llwybr gyrfa dw i eisiau ei ddilyn, sef gwasanaethu pobl, cynrychioli pobl a gallu gwneud gwahaniaeth i fy nghyfoedion.

“Dw i eisiau rhoi llais i bobl, a dyna hanfod Undeb y Myfyrwyr. Ar hyn o bryd, dydw i ddim yn meddwl bod llawer o bobl yn gwybod bod ganddyn nhw'r llais hwnnw. Bydd cael y neges honno i bobl yn bendant yn gwneud gwahaniaeth.”

Rhiannon Williams (Llywydd Undeb Myfyrwyr Addysg Uwch)

Mae Rhiannon yn dilyn cwrs TAR ar gampws Bangor. Yn ddiweddar, roedd hi ar banel y dysgwyr ar gyfer cyfweliadau'r Penaethiaid newydd. Mae'n addo y bydd yn helpu myfyrwyr i oresgyn rhwystrau a gwireddu eu breuddwydion trwy'r cyfleoedd a gynigir gan addysg uwch.

Dywedodd: “Dw i’n mwynhau her, dw i’n mwynhau helpu pobl a gwneud gwahaniaeth, a ro'n i’n meddwl mai dyma’r ffordd i fynd ati. Dw i wedi gwneud cwrs Addysg Uwch yn barod, sef fy ngradd ar gampws Dolgellau, a ro'n i'n teimlo y gallai fod ychydig o welliannau i’r ochr Addysg Uwch felly dyma fy ffordd i o wneud gwahaniaeth i’r coleg.”

Meddai Aaron Beacher, Swyddog Cyfoethogi Profiadau Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai:

“Hoffwn longyfarch Troy, Munachi, Rhys a Rhiannon ar eu llwyddiant a phob hwyl iddynt yn ystod blwyddyn academaidd 2024/2025.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl ymgeiswyr a gyflwynodd eu hunain ar gyfer y rolau hyn. Anogir yr ymgeiswyr hynny na fu’n llwyddiannus y tro hwn i gymryd rolau gwirfoddol o fewn Undeb y Myfyrwyr i gefnogi’r Llywyddion, lle byddant yn gaffaeliad mawr."

"Cyn bo hir bydd Grŵp Llandrillo Menai hefyd yn recriwtio cynrychiolwyr dosbarth, sy'n rhan hanfodol o'r sefydliad. Mae cynrychiolwyr y dosbarth yn cyfathrebu'n uniongyrchol â thîm Undeb y Myfyrwyr ac yn mynychu Paneli Llais y Dysgwyr i sicrhau bod dysgwyr yn cyfrannu'n gadarnhaol at ddatblygiad parhaus eu cwrs, campws a phrofiad cyffredinol yn y coleg.

Yn gynharach eleni, enillodd y Grŵp wobr Llais y Dysgwyr yng nghynhadledd flynyddol UCM Cymru.

Mae’r wobr yn cydnabod ymrwymiad y Grŵp i annog a chynnwys llais y dysgwyr yn eu gwaith, yn eu cynhadledd flynyddol i Ddysgwyr a drwy ddatblygu cynlluniau cefnogi mewn cydweithrediad â'r myfyrwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai, e-bostiwch undebymyfyrwyr@gllm.ac.uk

Pagination