Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfleoedd tendro newydd a fydd yn helpu i ffurfio dyfodol twristiaeth a lletygarwch yng Ngogledd Cymru

Mae partneriaid lloeren Rhwydwaith Talent Twristiaeth Grŵp Llandrillo Menai wedi cyhoeddi cyfleoedd tendro newydd i helpu i ffurfio dyfodol y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yng Ngogledd Cymru

Mae’r Rhwydwaith Talent Twristiaeth yn bartneriaeth o fusnesau ‘lloeren’ uchelgeisiol, arloesol a thrawsnewidiol sydd wedi dod at ei gilydd i greu swyddi a buddsoddiad yn y rhanbarth o amgylch ‘Hwb’ y prosiect ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos

Mae Coleg Llandrillo, Zip World, Portmeirion, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Snowdonia Hospitality & Leisure Ltd, ynghyd â phartner ychwanegol i'w gyhoeddi'n fuan, yn anelu at wella safonau addysgol a chyfleoedd hyfforddi.

Mae Zip World, Portmeirion a Snowdonia Hospitality & Leisure bellach yn gwahodd busnesau i gyflwyno ceisiadau ar gyfer elfennau adeiladu’r prosiectau a fydd yn rhoi hwb i’r sector ac yn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i weithlu’r dyfodol yn yr oes ddigidol.

Mae’r Rhwydwaith Talent Twristiaeth (TTN) yn cael ei ariannu’n rhannol gan Cynllun Twf Gogledd Cymru a’i nod yw paratoi’r sector twristiaeth a lletygarwch yn y rhanbarth at y dyfodol.

Dywedodd Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau Uchelgais Gogledd Cymru: “Bydd y Rhwydwaith Talent Twristiaeth yn dod â Grŵp Llandrillo Menai a busnesau rhanbarthol blaenllaw at ei gilydd i drawsnewid datblygiad sgiliau yn y sector Twristiaeth a Lletygarwch yng Ngogledd Cymru a chreu llwybrau gyrfa cyffrous. Rydyn ni'n awyddus i weld y prosiect hwn yn darparu gweithlu o ansawdd uchel i'r sector gan alluogi’r twf economaidd a’r arloesedd sy'n gyrru twristiaeth gynaliadwy yn y rhanbarth.

“Fel gyda holl fuddsoddiadau’r Cynllun Twf, mae’r prosiect yn gofyn am geisiadau tendro sy’n dangos gwerth cymdeithasol cadarnhaol i'r rhanbarth ac sy’n dangos sut y byddant yn ein helpu i gyflawni'n targedau ar fioamrywiaeth a lleihau allyriadau.”

Meddai Lawrence Wood, yr Uwch Swyddog Cyfrifol a Phennaeth Coleg Llandrillo: ⁠ “Dyma gyfle cyffrous a fydd yn cefnogi twf y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yn y rhanbarth wrth i ni greu campws newydd o'r radd flaenaf mewn partneriaeth â’n Partneriaid Lloeren.”

Bydd yr adeilad dysgu ac addysgu newydd sy’n rhan o brosiect Zip World yng Ngheudyllau Llechi Llechwedd yn integreiddio’r anturiaethau cyffrous â’r byd addysg ac arloesi. Gellir gweld hysbysiad y tendr yn llawn ar GwerthwchiGymru yma.

Mae Snowdonia Hospitality & Leisure Ltd yn gwahodd tendrau i drawsnewid Acorns Accommodation ym Metws y Coed yn gyfleuster 13 ystafell wely en-suite. Bydd hyn yn gweddnewid profiad y prentisiaid, gan ehangu opsiynau recriwtio a darparu lle i’r dysgwyr fyw'n annibynnol. Gellir gweld hysbysiad y tendr yn llawn ar GwerthwchiGymru yma.

Mae Portmeirion yn sefydlu Academi Portmeirion fel rhan o'r Rhwydwaith Talent Twristiaeth. Maen nhw’n awyddus i benodi contractwr i adeiladu estyniad i adeilad Cedrwydd er mwyn creu llety i brentisiaid, a pharth dysgu ac addysgu newydd a fydd yn cynnwys cegin i hyfforddi cynhyrchu cynaliadwy ynghyd â chynnig profiad dysgu ac addysgu ymdrochol. Gellir gweld hysbysiad y tendr yn llawn ar GwerthwchiGymru yma.

Gall busnesau sydd â diddordeb mewn tendro ar gyfer unrhyw un o'r tri chyfle hyn lawrlwytho'r pecyn tendro llawn trwy ddilyn y ddolen i GwerthwchiGymru.

Gweler porth GwerthwchiGymru ar gyfer dyddiadau cau mis Mehefin.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date