Nyrs ddeintyddol newydd gymhwyso fydd y 'cyntaf o lawer'
Mae nyrs ddeintyddol gyntaf Busnes@LlandrilloMenai wedi cwblhau ei phrentisiaeth nyrs ddeintyddol, y ‘Cymhwyster Deintyddol Cymru Gyfan’ newydd sbon y mae Grŵp Llandrillo Menai wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â’r corff dyfarnu Agored Cymru a Phrifysgol Bangor.
Busnes@LlandrilloMenai yw’r darparwr hyfforddiant cyntaf i gyflwyno’r cymhwyster newydd a ddatblygwyd ar y cyd â Grŵp Llandrillo Menai, Prifysgol Bangor ac Agored Cymru, y ddau ohonynt yn arbenigo mewn darparu cymwysterau prentisiaeth lefel 3 yng Nghymru.
Mae’r cymhwyster newydd yn ei gwneud hi’n bosibl i unigolion sy’n dymuno astudio nyrsio deintyddol, wneud hynny yn Gymraeg. Mae’n rhan o ymgyrch ehangach i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg, i amddiffyn cymunedau Cymraeg eu hiaith, ac i ddarparu gweithlu Cymraeg ei iaith yn y dyfodol.
Wrth sôn am lwyddiant y brentisiaeth nyrs ddeintyddol gyntaf, dywedodd Amy Thomas, Rheolwr Prentisiaethau - Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Rydym wrth ein bodd bod nyrs ddeintyddol gyntaf 'Cymru Gyfan' wedi llwyddo yn ei chymhwyster prentisiaeth! Does dim dwywaith mai Caitlin Etheridge, a gwblhaodd ei phrentisiaeth gyda Phractis Deintyddol Danadd Davies yng Nghaernarfon yw’r gyntaf o blith nifer o nyrsys deintyddol a fydd yn hyfforddi gyda ni.
“Ar hyn o bryd mae gennym 36 o unigolion yn ymgymryd â’u prentisiaeth gyda ni. Rydym yn bwriadu ehangu’r ddarpariaeth yn raddol yn unol â galw cynyddol am hyfforddiant seiliedig ar waith o safon mewn nyrsio deintyddol. Mae yna restr aros - cymaint yw’r galw!”
Ychwanegodd Nicola Jones, Asesydd Nyrsio Deintyddol:
“Mae nyrsio deintyddol wedi newid a datblygu llawer dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’r cymhwyster newydd yn adlewyrchu’r ffordd fodern a hyblyg hon o weithio tra’n cryfhau perthnasoedd trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Fel aseswr arweiniol y cymhwyster hwn rwyf wedi datblygu fy sgiliau a fy ymarfer fy hun mewn deintyddiaeth. Mae fy rôl fel aseswr yn fy ngalluogi i ddatblygu eraill, eu gwylio’n trawsnewid, tyfu a datblygu’n ymarferwyr hyderus.”
Canmolodd panel arolygu’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol y modd y mae Busnes@LlandrilloMenai wedi cyflwyno’r cymhwyster newydd hwn gan ddweud:
“Mae ein partner hyfforddi [Busnes@LlandrilloMenai] wedi darparu cymorth eithriadol, ac adborth adeiladol wedi’i fapio’n dda i'r dysgwyr sydd wedi’i ategu gan dystiolaeth gadarn.”
Mae gan nyrsys deintyddol sy'n cwblhau'r cymhwyster hawl i gofrestru gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol ac felly maent yn cael trwydded i ymarfer.
Pwysleisiodd Mr Martin McElvanna ymhellach, “Mae gan y Gymdeithas Ddeintyddol Gyffredinol (GDC) set o Safonau Addysg yr ydym yn disgwyl i raglenni sy'n arwain at gofrestru eu dangos. Y Safonau hyn yw fframwaith ein prosesau ac fe'u defnyddir i edrych a yw rhaglen yn cynhyrchu myfyrwyr / dysgwyr sy'n dangos ystod benodol o ddeilliannau dysgu pan fyddant wedi cwblhau eu rhaglen astudiaethau. Mae’r deilliannau dysgu ar gyfer pob un o’r proffesiynau yr ydym yn eu cofrestru wedi’u cynnwys yn y ddogfen Preparing for Practice.”
I gael rhagor o wybodaeth am y cymhwyster, ewch i: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/diploma-in-dental-nursing-level-3-wales