Noa yn ennill medal efydd yn ras dygnwch pencampwriaethau cenedlaethol cymdeithas y colegau
Dewiswyd y myfyriwr o Goleg Menai i fod yn gapten tîm Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Chwaraeon AoC yn Nottingham
Enillodd myfyriwr o Goleg Menai, Noa Vaughan, fedal efydd yn ras dygnwch pencampwriaethau cenedlaethol y colegau, gan gystadlu yn erbyn rhai o athletwyr ifanc gorau'r Deyrnas Unedig.
Cafodd Noa, sy’n astudio cwrs Lefel 3 mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ar gampws Llangefni, ei dewis i fod yn gapten tîm Chwaraeon Colegau Cymru ar gyfer Pencampwriaethau Chwaraeon Cenedlaethol AoC (Cymdeithas y Colegau).
Gorffennodd Noa y ras aml-dirwedd 5.1km mewn 16 munud a phedair eiliad, dim ond wyth eiliad y tu ôl i’r enillydd, Owen Ulfig, a phum eiliad y tu ôl i Sam Plummer, a ddaeth yn ail.
Hefyd yn cystadlu dros Gymru roedd Elis Jones, o Goleg Llandrillo, orffennodd yn 28ain mewn 18:11, a Tomos Morgan o Goleg Meirion-Dwyfor (41ain, 18:58). Gorffennodd 71 o redwyr mewn maes o ansawdd uchel.
Mae Pencampwriaethau Cenedlaethol Chwaraeon AoC yn cynnwys amrywiaeth o chwaraeon gan gynnwys badminton, pêl-fasged, boccia, criced, pêl-droed, hoci, pêl-rwyd, rygbi 7 bob ochr, tennis a phêl-foli.
Cariodd Noa'r faner dros Gymru yn seremoni agoriadol y digwyddiad, gyda chapten y merched, Olivia Llewellyn, o Goleg y Cymoedd.
Dywedodd Noa: “Roedd hi’n anrhydedd, fel bob amser, cael cynrychioli Cymru – ond hyd yn oed yn fwy felly i gael y cyfle i fod yn gapten ar dîm y dynion a cherdded i lawr y llwybr gyda baner Cymru. Roedd awyrgylch y seremoni agoriadol yn anhygoel ac mi wnaeth fy ngwneud yn gyffrous i gael rhedeg y ras.
“Roedd y ras ei hun yn galed iawn. Roedd 'na lawer o fryniau drwyddi draw, ac roedd hi'n gynnes iawn. Roedd yn ganlyniad positif iawn i mi oherwydd mi ges i ddangos fy mod i'n gallu cystadlu gyda rhai o athletwyr ifanc gorau’r Deyrnas Unedig.”
Er ei fod yn teimlo'n sâl ar ddiwrnod y gystadleuaeth, sicrhaodd Noa fedal efydd i ychwanegu at ei restr drawiadol o gyflawniadau athletaidd dros y misoedd diwethaf.
Yn aelod o glwb rhedeg Eryri Harriers, enillodd fedal aur ym Mhencampwriaeth Traws Gwlad Dan-20 Cymru yng Nghaerdydd ym mis Ionawr, ychydig wythnosau ar ôl iddo gipio teitl Gogledd Cymru.
Enillodd Noa Bencampwriaeth Traws Gwlad Ryngranbarthol Cymru ym mis Tachwedd, ac yn ôl ym mis Medi daeth yn ail wrth gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Rhedeg Mynydd Iau Prydain ac Iwerddon.
Dywedodd: “Mae gwybod bod gen i bellach ddwy fedal o rasys unigol Prydeinig yn rhoi hyder i mi.
“Mae fy nod am weddill y tymor yn cynnwys gwneud fy nhymor cyntaf ar y trac, yn rhedeg pellteroedd o 3km i 10km. Mi fydda i hefyd yn gwneud rhai rasys ffordd (5000m a 10000m) i geisio gwella rhai o fy amseroedd er mwyn fy helpu i ddatblygu fel athletwr.”
Dywedodd Marc Lloyd Williams, Arweinydd Maes Rhaglen Chwaraeon a Chydlynydd Academi Coleg Menai: “Rydyn ni'n falch iawn bod Noa wedi’i ddewis i fod yn gapten ar Chwaraeon Colegau Cymru mewn digwyddiad fel hwn, sydd fel Gemau Olympaidd bach.
“Roedd Noa yn erbyn athletwyr elitaidd yn ei grŵp oedran, a gwnaeth yn arbennig o dda mewn ras agos iawn, er nad oedd yn teimlo’n dda ar y diwrnod.
“Cymerodd ran yn y digwyddiad ychydig flynyddoedd yn ôl, a oedd yn dda i ennill profiad, ac mae bellach yn elwa o'i waith caled a’i ymroddiad. Da iawn Noa!"
Oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn chwaraeon, ymarfer corff a ffitrwydd? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau o Lefel 1 hyd at lefel Gradd. Dysgwch ragor yma.