Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Medal arian i Noa ym Mhencampwriaethau Rhedeg Mynydd Iau Prydain ac Iwerddon

Roedd myfyriwr o adran Gwyddor Chwaraeon, Coleg Menai yn aelod o dîm Cymru a enillodd fedal efydd mewn cystadleuaeth galed yn Glendalough, Iwerddon

Enillodd Noa Vaughan, myfyriwr o Goleg Menai, fedal arian ym Mhencampwriaethau Rhedeg Mynydd Iau Prydain ac Iwerddon.

Cafodd y rhedwr 18 oed lwyddiant arbennig dros y tîm, gan orffen yn ail yn ras y dynion dan 20 yn Iwerddon.

Dywedodd Noa, sy'n dilyn cwrs Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 3 ar y campws yn Llangefni: “Roeddwn i’n hapus iawn i ddod adref gyda medal arian a helpu Cymru i fedal efydd fel tîm.

"Dw i'n falch iawn o sut redais i ac roedd cymryd rhan mewn ras o'r fath safon yn brofiad arbennig."

Llun (chwith): John Shiels / www.actionphotography.ie

Roedd yn wynebu cystadleuaeth galed yn Glendalough, yn cynnwys chwe athletwr a fu’n cystadlu dros Brydain yn ddiweddar ym Mhencampwriaethau Iau Ewrop.

Collodd Noa y gystadleuaeth honno oherwydd anaf, ond gwnaeth yn iawn amdani gyda rhediad gwych dros y cwrs anodd o 3.8 milltir o hyd, a oedd yn cynnwys mwy na 900 troedfedd o ddringo.

Mewn ras agos fe orffennodd dim ond chwe eiliad y tu ôl i’r enillydd, Samuel Bentham o Loegr, mewn amser o 23 munud 35 eiliad.

Mae Noa, o'r Felinheli, yn cystadlu dros Eryri Harriers ac enillodd Bencampwriaeth Rhedeg Mynydd dan-20 Cymru'r llynedd.

Dim ond ers 2022 y mae wedi bod yn rhedeg yn gystadleuol, pan gafodd ei ddewis i gynrychioli ei ysgol mewn ras traws gwlad. Gwellodd Noa yn gyflym iawn o dan arweiniad ei dad Alun, cyn chwaraewr rhyngwladol dros Gymru, a gorffennodd yn 21ain ym Mhencampwriaethau dan-18 y Byd yr un flwyddyn.

Hoffai Noa redeg dros Gymru a Phrydain Fawr ar lefel uwch, a dywedodd: “Fy uchelgais ydy cynrychioli Cymru yn y categori hŷn a gwisgo fest Prydain Fawr ar y ffordd, ar lwybrau neu draws gwlad. Hoffwn i gystadlu yn y marathon, yn enwedig marathon Llundain.”

Dywedodd bod ei gwrs yng Ngholeg Menai yn ei gynorthwyo i gyflawni ei uchelgais ym maes chwaraeon, ac ychwanegodd: “Dw i’n mwynhau’r cwrs yn fawr. Mae wedi fy helpu i ddatblygu fy mherfformiadau trwy ddysgu pethau fel sut i ddelio â phwysau cyn cystadlu, diet cywir a sut i leihau'r risg o anafiadau.

"Mae’r cyfleusterau yn yr adran chwaraeon, fel y gampfa, wedi fy helpu i ddatblygu llawer gan fy mod yn gwneud llawer o waith cryfder a chyflyru yno. Byddwn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sydd eisiau dilyn gyrfa ym maes chwaraeon yn y dyfodol."

Ar ôl coleg, mae Noa yn gobeithio ennill ysgoloriaeth i astudio yn UDA fel y gall barhau i ddilyn ei freuddwyd o gystadlu ar y lefel uchaf.

Meddai Gareth Griffiths, tiwtor Noa: “Rydym yn falch iawn o lwyddiant Noa a'i fod wedi gallu ymroi i'w waith cwrs a'i gyflawniadau chwaraeon.

"Mae wedi gallu cymhwyso’r hyn y mae’n ei ddysgu ar y cwrs i wella ei berfformiad chwaraeon ei hun, a defnyddio’r cyfleusterau sydd gennym yn Llangefni.

"Fel gyda phob un o'r myfyrwyr, rydym yn ystyrlon o'r angen i deithio er mwyn cystadlu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

"Pob lwc i Noa wrth iddo barhau i ymdrechu i gyflawni ei uchelgais yn academaidd ac ym maes chwaraeon.”

Dydi hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais i'r coleg! Mae llefydd ar gael o hyd ar gyrsiau llawn amser. Ewch i gllm.ac.uk/cy/courses ⁠i gael rhagor o wybodaeth

Pagination