Mwy o bobl yn cael mynd ar gyrsiau mathemateg AM DDIM trwy brosiect Lluosi
Mae newid yn y meini prawf cymhwysedd yn golygu y gall hyd yn oed mwy o bobl wella eu sgiliau rhif - gyda nofio gwyllt, ffeiriau gwyddoniaeth a bingo mathemateg yn rhai o’r ffyrdd y mae Lluosi wedi helpu pobl
Rŵan, bydd hyd yn oed mwy o bobl yn gallu mynd ar gyrsiau Rhifedd Byw - Lluosi yn dilyn newid i’r meini prawf cymhwysedd.
Mae prosiect Lluosi yn helpu oedolion i wella eu hyder gyda rhifau mewn bywyd bob dydd, gan gynnig mynediad hawdd i ystod eang o gyrsiau mathemateg AM DDIM ar draws Gogledd Cymru.
I fod yn gymwys ar gyfer cyrsiau Lluosi trwy Grŵp Llandrillo Menai, y cyfan sydd angen i chi ei wneud rŵan yw bod yn 19 oed neu'n hŷn, a byw o fewn siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Conwy neu Ddinbych.
Felly os oes arnoch angen cymorth i reoli eich arian, i fod yn gefn i'ch plant gyda'u gwaith cartref, neu i wella eich cyfleoedd yn y gwaith neu symud ymlaen i hyfforddiant ar lefel uwch, gall Lluosi helpu - ac mewn mwy o ffyrdd nag y byddech yn sylweddoli.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae pobl wedi cymharu curiad y galon ar ôl bod yn y môr ym Mae Trearddur, wedi chwarae bingo mathemateg yng Nghaernarfon, ac wedi herio’u hunain gyda phosau mewn ffair wyddoniaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Mae pobl wedi datblygu eu sgiliau coginio a chyllidebu mewn ysgol pizza a sesiwn pobi cacennau, tra bod tiwtoriaid Lluosi hefyd wedi gosod tasgau mathemateg mewn Ffair Swyddi Twristiaeth a Lletygarwch yn Llangefni.
Gall unigolion hefyd weithio tuag at gymhwyster Lefel 2 (TGAU neu gymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru mewn 'Cymhwyso Rhif') i'w helpu symud ymlaen i astudiaethau pellach neu gyflogaeth. Bydd y cyrsiau'n cael eu hariannu'n llawn gan brosiect Lluosi. Gellir darparu'r gefnogaeth ar sail 1:1, i grŵp bach neu ystafell ddosbarth, a gellir addasu’r gefnogaeth i weithio o amgylch ymrwymiadau teuluol, ymrwymiadau gwaith ac ati.
Mae Lluosi yn gweithio gydag unigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau trydydd sector, ysgolion, a busnesau bach a mawr. Mae hyblygrwydd y prosiect yn golygu y gellir teilwra cymorth ar gyfer anghenion unigol neu anghenion grŵp.
Mae cynnwys y cyrsiau yn eang ac yn hyblyg, a gellir cynnal sesiynau Lluosi yn ystod yr wythnos, gyda'r nos neu ar benwythnosau.
Mae prosiect Lluosi wedi ei ariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae Grŵp Llandrillo Menai'n arwain prosiect Lluosi yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
A hoffech chi wella eich sgiliau mathemateg? I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Lluosi, cliciwch yma. I wneud cais, e-bostiwch lluosi@gllm.ac.uk, neu ffoniwch ni ar 01492 542 338 neu llenwch y ffurflen ar-lein hon.