Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwobr Genedlaethol i Carys Lloyd

Carys Lloyd ydy'r cyntaf o Ogledd Cymru i gael ei hanrhydeddu yn noson Gwobrau Cenedlaethol Nyrsys Deintyddol ar ôl cwblhau diploma gyda Busnes@LlandrilloMenai

Mae adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Busnes@LlandrilloMenai'n dathlu ar ôl i Carys Lloyd ddod yn ail yn noson Gwobrau Cenedlaethol Nyrsys Deintyddol.

Cwblhaodd Carys o Abergele Ddiploma Agored Cymru Lefel 3 mewn Nyrsio Deintyddol drwy Busnes@LlandrilloMenai, adran fasnachol a busnes Grŵp Llandrillo Menai.

Hi ydy'r prentis nyrs ddeintyddol gyntaf o Ogledd Cymru i gael ei chydnabod yng ngwobrau blynyddol Cymdeithas Nyrsys Deintyddol Prydain, a daeth yn ail yng nghategori Myfyriwr/Gweithiwr Newydd.

Nicola Jones, aseswr gyda Busnes@LlandrilloMenai oedd yr un enwebodd Carys, sy'n gweithio i Belmont House Dental Practice ym mae Colwyn.

Ysgrifennodd: "Mae hi wedi bod yn wych gweld Carys yn datblygu yn ystod ei chyfnod ar y cwrs. Mae hi wedi magu hyder drwy'r cyfnod, ac yn bopeth hoffech chi weld mewn nyrs ddeintyddol."

Tynnodd Nicola sylw at brosiect arbennig Carys yn ei gweithle, sef arddangosfa i helpu addysgu rhieni am iechyd y geg ymhlith plant ifanc.

Ysgrifennodd: “Mae Carys yn teimlo'n angerddol dros addysgu pobl am iechyd y geg ac roedd hi eisiau codi ymwybyddiaeth mamau ifanc o'r siwgr a ddefnyddir mewn bwydydd babi wedi’u prosesu.

“Aeth i'r afael â hyn drwy greu arddangosfa ryngweithiol yn tynnu sylw ar y lefelau siwgr gwahanol mewn bwydydd wedi'u prosesu a fersiynau cartref ohonynt, a'r gwahaniaeth mewn pris rhwng y ddau hefyd yn ystod cyfnod digon anodd i rieni newydd."

Ychwanegodd Nicola: “Mae gan Carys yrfa addawol o'i blaen ac mae hi'n ased i'r busnes."

Roedd Carys wrth ei bodd i gael ei chydnabod, meddai: "Mi ges i dipyn o sioc! Roedd fy rheolwr wedi gwirioni, a phawb wrth eu boddau."

Diolchodd Nicola ac aelodau eraill o staff yn Grŵp Llandrillo Menai, yn cynnwys y tîm dysgu seiliedig ar waith a staff llyfrgelloedd Coleg Llandrillo oedd bob amser yn barod i'w cynorthwyo ar ei thaith i gymhwyso fel nyrs ddeintyddol.

"Roedd fy nhiwtor Nicola yn wych," dywedodd Carys. "Mae hi'n gwybod cymaint, ac mae hi'n gredyd i'r Grŵp.

“Mi es i i lyfrgell Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos nifer o weithiau oherwydd problemau gyda fy nghyfrifiadur. Mi ges i fenthyg gliniadur ac roedd hynny o gymorth mawr i mi.

“Dw i wedi cael nifer o broblemau tebyg yn ystod y cyfnod ac maen nhw wedi fy nghynorthwyo bob tro - roedd pobl ar gael i ateb cwestiynau ar e-bost bob amser, maen nhw wedi bod yn wych.

“Roedd y cwrs ei hun yn werthfawr ac yn hawdd i'w ddilyn. Roeddwn i'n ofna nad oeddwn i'r oed iawn i ddilyn y cwrs ond nid felly roedd hi. Os ydy hyn yn rhywbeth hoffech chi wneud ewch amdani - mae'n swydd arbennig.”

  • Hoffech chi ddilyn gyrfa fel nyrs ddeintyddol? I ddysgu rhagor am Agored Cymru - Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Deintyddol (Cymru) sydd ar gael drwy Busnes@LlandrilloMenai, cliciwch yma.

Mae Grŵp Llandrillo Menai'n recriwtio aseswr Dysgu Seiliedig ar Waith ym maes Nyrsio Deintyddol. ⁠I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch yma.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date