Bydd Bwyty a Chanolfan Gynadledda'r Orme View yn ailagor y mis hwn wrth i'r tymor academaidd newydd ddechrau.
Coleg Llandrillo’s Orme View Restaurant and Bistro will open again this month as the new academic term begins.
Bydd y Bistro ar agor o ddydd Llun 11 Medi, a bydd bwyty Orme View yn croesawu cwsmeriaid o ddydd Mawrth, 19 Medi.
Mae’r ddau fwyty sydd wedi’u lleoli ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos ac ar agor i’r cyhoedd, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr arlwyo a lletygarwch fireinio eu sgiliau mewn amgylchedd byd go iawn.
Mae gan yr Orme View enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth, ac mae ei staff a’i fyfyrwyr wedi ennill nifer o wobrau a chystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol. Yno, caiff cwsmeriaid brydau gourmet am bris sy'n dipyn rhatach na'r prisiau a godir yn y bwytai gorau.
Mae'r Bistro ar agor i staff, myfyrwyr a'r cyhoedd am goffi boreol a chinio. Caiff popeth ei goginio a'i weini gan fyfyrwyr sy'n cael eu goruchwylio gan staff profiadol ac ymroddgar, ac mae'r nifer o ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod y flwyddyn ar themâu penodol yn brawf o'u dychymyg a'u sgiliau coginio.
Dyfarnwyd y sgôr hylendid bwyd uchaf o bump i’r ddau fwyty yn dilyn arolygiad diweddar, ynghyd â Chaffi Gorwelion, sydd ar agor i fyfyrwyr a staff ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos.
Dywedodd Brian Hansen, Darlithydd yn y Celfyddydau Coginio a Lletygarwch: “Rydyn ni'n falch iawn ein bod wedi gallu parhau â’n hanes o ennill sgôr hylendid bwyd pum seren ym mwyty'r Orme View, Y Bistro, a’r Ffreutur.
“Mae’n rhaid i ni gynnal y safonau uchaf gan fod gennym ni gyfrifoldeb i roi meincnod uchel i’r myfyrwyr fynd gyda nhw i mewn i’r diwydiant.
“Mae hylendid bwyd a rheoli safonau diogelwch bwyd yn rhan hanfodol o’n hyfforddiant proffesiynol, ac maent wedi’u hymgorffori yn ein haddysg o Lefel 1 hyd at raglenni gradd blwyddyn olaf.
“Rydyn ni’n arbennig o falch bod gennym gyfleusterau cegin o’r radd flaenaf, a bod safonau masnachol a phroffesiynol yn cael eu trosglwyddo i’r myfyrwyr fel rhan o’n haddysgu. Nid mewn theori yn unig y byddwn yn ei wneud, rydyn ni’n ei wneud yn ymarferol hefyd.”
Bydd bwyty'r Orme View ar agor am ginio o ddydd Mawrth i ddydd Iau (12pm) o 19 Medi ymlaen, ac ar gyfer swper gyda'r nos o ddydd Iau (7pm) 28 Medi ymlaen. I archebu bwrdd, ffoniwch 01492 542341, anfonwch e-bost i ovr@gllm.ac.uk neu archebwch drwy'r system archebu ar-lein.
Bydd y Bistro ar agor ar gyfer coffi yn y bore, 9.45am-10.45am, ac ar gyfer cinio, 12pm-1.15pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 11 Medi ymlaen.