Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Osian yn dilyn ei freuddwyd o fod yn geidwad sw

Yn ystod ei gyfnod yn y coleg bu'r cyn-fyfyriwr o Goleg Glynllifon a Choleg Meirion-Dwyfor yn gweithio gydag eliffantod yng Ngwlad Thai ac mae bellach yn astudio BSc mewn Sŵoleg

Mae Osian Hughes yn gweithio tuag at wireddu ei freuddwyd o gael gyrfa fel ceidwad sw ar ôl dilyn cwrs yng Ngholeg Glynllifon.

Ar ôl cwblhau ei Ddiploma Lefel 3 mewn Rheoli ym maes Anifeiliaid yng Nglynllifon y llynedd, mae Osian, o Benrhyndeudraeth, bellach ym mlwyddyn gyntaf gradd Sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor.

Dechreuodd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ar gwrs cyn-alwedigaethol yn 16 oed. Nid oedd yn credu ar y pryd y gallai droi ei gariad at anifeiliaid yn yrfa.

Wedi dilyn cyrsiau pellach mewn arlwyo a phlymio, tyfodd hyder Osian, a phenderfynodd ddilyn ei galon a gwneud cais i Goleg Glynllifon.

Yn ystod ei gyfnod ar y campws diwydiannau'r tir, hogodd ei sgiliau a hyd yn oed gael cyfle, trwy'r coleg, i wirfoddoli gyda phrosiect cadwraeth eliffantod yng Ngwlad Thai.

Dywedodd: “Mi ddechreuais i wneud cwrs cyn-alwedigaethol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau ym mis Medi 2017 oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod beth roeddwn i eisiau ei wneud ar ôl gadael yr ysgol.

“Es i ymlaen i astudio cwrs Lletygarwch Lefel 1 yn Nolgellau am flwyddyn, ac wedyn Plastro Lefel 1 a Lefel 2 am fy mod i'n newid fy meddwl am yr hyn ro'n i eisiau ei wneud.

“Ro'n i wastad eisiau bod yn geidwad sw, ond wnes i erioed feddwl y byddwn i'n gwneud yn ddigon da mewn addysg i fod yn un.

“Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, mi gynyddodd fy hyder, ac felly mi wnes i feddwl rhoi cyfle i ofalu am anifeiliaid. Mi es i i Lynllifon i astudio Astudiaethau Anifeiliaid Lefel 2, ac yna mynd ymlaen i astudio cwrs diploma estynedig Rheoli ym maes Anifeiliaid Lefel 3 am ddwy flynedd. ⁠

“Roedd o'n dda iawn. Roedd yr addysgu o safon uchel, ac roedd y staff i gyd mor glên hefyd. Roedd eu synnwyr digrifwch yn gwneud ein gwersi'n hwyl ac yn diddanu'r myfyrwyr.

“Roedd Kate, Rebecca, Zoe, Sarah, Ceiran, Jayne a Judith yn gefnogol iawn bob amser, ac yn credu bod y myfyrwyr yn mynd i wneud yn dda yn eu cwrs.

“Yr hyn wnes i ei fwynhau fwyaf am y cwrs oedd dysgu am ymddygiad anifeiliaid, yn enwedig pan wnaethon ni waith ymarferol ar ymddygiad anifeiliaid, a gwneud ethogramau (catalog o ymddygiadau rhywogaeth-benodol). Mi wnes i fwynhau mynd i’r fferm hefyd.”

Cafodd Osian brofiad bythgofiadwy pan dreuliodd bythefnos yn Chiang Mai yng ngogledd Gwlad Thai, yn gweithio ar brosiect cadwraeth gyda’r nod o hybu twristiaeth eliffantod moesegol.

Dywedodd Osian ar y pryd: “Roedd cael y cyfle i fynd i wirfoddoli ar brosiect cadwraeth eliffantod yn Chiang Mai yn wych. Roedd bod yno yn y mynyddoedd yn gweithio gyda’r gymuned leol yn brofiad bythgofiadwy. Fe wnes i ffrindiau fydd yn aros hefo fi am byth.

“Mae dysgu am y math yma o gadwraeth yn bwysig iawn, ac yn atgyfnerthu’r ffaith ein bod ni i gyd yn perthyn i un ecosystem a bod rhaid i ni gydweithio gyda’n gilydd i wneud dyfodol gwell i bawb.

Ychwanegodd: “Fel hogyn ifanc yn dod i’r coleg am y tro cyntaf, wnes i erioed ddychmygu y byddwn i’n cael y cyfle i fynd i ochr arall y byd ar fy mhen fy hun i weithio gydag eliffantod. Mae’r holl brofiad a ges i gan y coleg wedi rhoi cymaint mwy o hyder i mi, a dw i bellach yn hapus yn gweithio gyda phob math o anifeiliaid.”

Bellach mae Osian yn dilyn cwrs BSc mewn Sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor, ac wedi rhoi ei fryd ar gael gradd Meistr mewn Bioleg y Môr, ac o bosib gyrfa fel cyflwynydd rhaglenni bywyd gwyllt ar y teledu.

Dywedodd: “Dw i'n gobeithio bod yn geidwad sw neu’n gyflwynydd bywyd gwyllt ar ôl gorffen fy nghwrs. Ond os ydw i’n cael trafferth dod o hyd i swydd ar ôl fy ngradd, mi hoffwn i gymryd rhan mewn mwy o wirfoddoli dramor, a gobeithio gwneud gradd meistr mewn Bioleg y Môr i agor drysau i amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa yn y sector forol. Efallai y galla' i ddod o hyd i rywfaint o hyfforddiant neu gyfleoedd i fy helpu i ddod yn gyflwynydd bywyd gwyllt ar ôl gorffen fy addysg hefyd.”

Ydych chi eisiau gyrfa werth chweil yn y sector anifeiliaid a milfeddygaeth? Dysgwch ragor am y cyrsiau amrywiol yng Ngholeg Glynllifon, o Lefel 1 hyd at brentisiaethau Nyrsio Milfeddygol

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date