Osian yn targedu llwyddiant WorldSkills am y tro cyntaf i'r Adran Beirianneg
Osian Roberts fydd y prentis cyntaf i gynrychioli Coleg Menai mewn peirianneg yn rownd derfynol genedlaethol WorldSkills UK y mis hwn
Bydd Osian Roberts yn cystadlu yn rownd derfynol genedlaethol WorldSkills UK fel y prentis peirianneg cyntaf i gynrychioli Coleg Menai yn y cam hwn o’r gystadleuaeth fawreddog.
Mae’r gŵr ifanc 23 oed o Gaernarfon, sy’n brentis trydedd flwyddyn gyda chwmni gweithgynhyrchu IAQ, yn astudio ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Gyffredinol.
Bydd yn cystadlu yn y categori troi CNC yng Ngholeg Tameside ym Manceinion y mis hwn, ar ôl gorffen yn y pump uchaf yn y DU yn ystod y rhagbrofion rhanbarthol.
Gorffennodd Osian hefyd yn drydydd yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gynharach eleni - i gyd wrth astudio un diwrnod yr wythnos ochr yn ochr â'i rôl fel Gweithredwr Canolfan Troi CNC ar gyfer IAQ.
Mae ei gyflawniadau hyd yn oed yn fwy trawiadol o ystyried ei fod yn defnyddio meddalwedd hollol wahanol i Autodesk Fusion 360, a ddefnyddir yn y cystadlaethau sgiliau, wrth ei waith bob dydd.
“Mae’n wych bod yn y rownd derfynol,” meddai Osian. “Dydw i ddim yn defnyddio'r meddalwedd yn y gwaith - dim ond drwy'r coleg rydw i wedi ei ddefnyddio ac yn y digwyddiadau rhagbrofol, tra bod fy ngwrthwynebwyr yn defnyddio'r meddalwedd yn rheolaidd. Ond gobeithio y gwnaf i'n dda!”
Mae Iwan Roberts, Darlithydd Peirianneg yng Ngholeg Menai, wedi hyfforddi Osian ar gyfer y cystadlaethau sgiliau, ac mae'n dweud ei fod yn argoeli'n dda ei fod wedi gallu dysgu sut i ddefnyddio Autodesk Fusion 360 mor gyflym.
Dywedodd: “Dyma’r tro cyntaf i ni gael dysgwr seiliedig ar waith yn cyrraedd y rownd derfynol peirianneg, felly mae hynny’n glod enfawr i Osian.
“Doedd ganddo ddim gwybodaeth am Autodesk Fusion 360, ond roedd y gystadleuaeth ar y gorwel a dim ond ychydig oriau a gefais ar un diwrnod i'w ddysgu sut i ddefnyddio'r feddalwedd - a llwyddodd i ennill gwobr efydd drwy Gymru!
“Mae'n anarferol iawn llwyddo i wneud hynny ar ôl dim ond ychydig o oriau o hyfforddiant. Mi wnaeth o lwyddo i symud ymlaen i rownd derfynol WorldSkills, ar ôl dim ond ychydig o sesiynau hyfforddi wedi hynny.
“Mae wedi bod yn fyfyriwr anhygoel, ac mae gen i obeithion mawr am ei ddyfodol.
“Rwy’n meddwl bod ganddo ddisgyblaeth ac amynedd anhygoel. Mae’n gwybod i beidio â symud ymlaen nes ei fod yn hapus gyda’r hyn y mae wedi’i wneud – nid bod y cyflymaf i orffen yw'r nod.”
Mae CNC Turning yn fath penodol o Beiriannu CNC, sy'n cyfeirio at y broses beiriannu dynnu benodol lle mae'r darn olaf yn cael ei nyddu ar gyflymder uchel ac mae offeryn torri yn eillio deunydd.
Ystyr CNC yw Rheolaeth Rhifiadol Cyfrifiadurol ac mae'n cyfeirio at y term ehangach ar gyfer proses weithgynhyrchu a arweinir gan raglen gyfrifiadurol. Mae rhannau'n cael eu dylunio a'u datblygu gan ddefnyddio CAD (Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur). Yna, defnyddir y ffeil CAD hon i gynhyrchu rhaglen gyfrifiadurol sy'n rheoli'r peiriant troi CNC, gan gyfeirio'r offer torri drwy ddefnyddio llinellau hir o gôd.
Yn rownd derfynol WorldSkills UK, bydd angen i Osian wneud cydran alwminiwm i safonau diwydiannol manwl gywir. Bydd yn cael tair awr o amser i gwblhau'r rhaglennu cyfrifiadurol, a phedair awr i beiriannu'r rhan.
Bydd rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK yn cael eu cynnal o 14-17 Tachwedd mewn lleoliadau ledled Manceinion.
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Peirianneg Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma. Mae'r broses ymgeisio ar gyfer mynediad ym mis Medi 2024 yn agor fis Tachwedd.
Cynhelir nosweithiau agored ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai yn ystod mis Tachwedd - am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.