Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ffotograffiaeth Oskar wedi’i ddewis ar gyfer arddangosfa fawreddog yn Llundain

Dewiswyd gwaith y myfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor ar gyfer Origins Creatives 2024 o blith mwy na 500 o gyflwyniadau ledled y wlad

Mae Oskar Jones, myfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor, wedi cael ei ddewis i arddangos ei ffotograffiaeth mewn arddangosfa fawreddog yn Llundain.

Yr wythnos hon bydd gwaith Oskar yn cael ei arddangos yn Origins Creatives 2024, a gynhelir gan UAL (University of the Arts London) yn Orielau Mall ger Palas Buckingham.

⁠Mae'r hyn a gyflwynodd, College Days, yn llyfr lluniau sy'n defnyddio ffotograffiaeth arbrofol i gyfleu unigoliaeth a rhyddid ei gyfoedion i fynegi eu hunain yn eu hamgylchedd coleg newydd.

Cafodd ei ddewis gan UAL o blith mwy na 500 o gyflwyniadau. UAL yw'r corff dyfarnu ar gyfer cwrs Celf a Dylunio Lefel 3 Coleg Meirion-Dwyfor.

Mae Oskar newydd gwblhau ei flwyddyn gyntaf o’r cwrs ar gampws Dolgellau, lle mae hefyd yn astudio cwrs UG Ffotograffiaeth.

Dywedodd: "Rwy'n llawn cyffro fod fy ngwaith yn cael ei arddangos. Mi wnes i lyfr o bortreadau arbrofol, gyda'r nod o arddangos yr ystod o bobl fy oedran i sydd ar eu ffordd i wneud rhywbeth ohonyn nhw eu hunain yn y byd 'ma.

“Dwi'n falch o'r hyn rydw i wedi gallu ei gyflawni, mae cael y cyfle i arddangos fy ngwaith i gymaint o bobl yn rhoi boddhad mawr. Mae hefyd yn hwb i fy hyder - os galla' i fynd mor bell â hyn gyda’r sgiliau sydd gen i rŵan, yna pwy a ŵyr beth alla i wneud yn y dyfodol gyda blynyddoedd yn fwy o brofiad?”

Canmolodd Oskar y tiwtoriaid yng Ngholeg Meirion-Dwyfor am feithrin ei dalent, gan ddweud: "Allwn i ddim bod wedi gwneud y prosiect yma heb bob dim dwi wedi ei ddysgu yn ystod y flwyddyn.

“Mae gwneud y cwrs hwn wedi bod yn un o’r penderfyniadau gorau i mi ei wneud, a dydw i ddim yn meddwl y byddwn i mor gyfforddus yn unman arall.

“Mae’r gefnogaeth a’r adnoddau y mae’r coleg wedi’u darparu wedi bod yn anhygoel. Nid yn unig ar gyfer fy ngwaith coleg, ond hefyd ar gyfer fy mhrosiectau personol fy hun sydd wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau y byddaf yn eu defnyddio yn fy ngyrfa. Mae'r cwrs wedi fy ngwthio i arbrofi gyda chyfryngau nad oeddwn i erioed wedi meddwl eu defnyddio o'r blaen.

⁠“Un o’r pethau gorau yw gallu siarad â staff sy’n brofiadol yn eu harbenigedd. Mae trafod gwaith a chael adborth ganddynt yn werthfawr iawn. Dwi wedi treulio llawer o amser yn yr ystafell dywyll eleni, yn ceisio deall hyd a lled y cyfrwng. Fodd bynnag, dwi am archwilio ymhellach y flwyddyn nesaf, i weld beth y galla i gyflawni mewn gofod 3D.”

Hefyd yn cael eu harddangos yn Origins Creatives mae lluniau o sioe celfyddydau perfformio 2024 Coleg Llandrillo, Chicago. Perfformiwyd y sioe gan fyfyrwyr Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Lefel 3 yn Theatr Fach y Rhyl ym mis Mai.

Dywedodd Jon Crowther, darlithydd Celfyddydau Perfformio: “Mae prosiect mawr olaf eleni wedi bod yn un o’n prosiectau mwyaf uchelgeisiol a llwyddiannus o bell ffordd. Cyfarfu Chicago â brwdfrydedd gan bawb a gymerodd ran - roedd yn ymdrech tîm llawn i sicrhau bod y cynhyrchiad hwn yn llwyddiannus.

“Roedd adborth y gynulleidfa yn gadarnhaol iawn, gyda sylwadau fod y cynhyrchiad ar lefel broffesiynol bron, rhywbeth yr ydym yn anelu ato ar gyfer ein holl brosiectau. Fel tîm cwrs rydym yn falch iawn o egni ac angerdd yr holl fyfyrwyr yn y prosiect hwn, a dymunwn bob lwc i’r holl ymadawyr yn eu camau nesaf.”

Mae Origins Creatives yn arddangosfa rad ac am ddim a drefnir gan Gorff Dyfarnu UAL. Mae’n cynnig cyfle unigryw i'r rhai sy'n frwdfrydig dros gelf, beirniaid celf, a gweithwyr proffesiynol y diwydiant ddarganfod talent wreiddiol a dathlu ymroddiad a gwaith caled pobl ifanc greadigol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Mae’r arddangosfa’n amlygu gwaith eithriadol myfyrwyr o ganolfannau ar draws y Deyrnas Unedig, gan arddangos eu talent ar draws meysydd pwnc UAL sef Celf a Dylunio, Busnes Ffasiwn a Manwerthu, Cyfryngau Creadigol, Perfformio a Chynhyrchu Cerddoriaeth, a’r Celfyddydau Perfformio.

Dywedodd curadur yr arddangosfa, Charlie Levine: “Mae Orielau Mall yn mynd i fod â naws hollol wahanol i arddangosfa’r llynedd yn Shoreditch oherwydd ei leoliad yng nghanol Llundain, ar garreg drws yr Oriel Genedlaethol ac ardal oriel fasnachol Mayfair.

“Bydd yn gyffrous i'r artistiaid dan sylw weld eu gwaith yn cael ei arddangos ar yr un lefel a'u cymdogion celf, yn ogystal â gallu profi canolfan greadigol Llundain pan fyddant yn ymweld â’r sioe.”

Mae Origins Creatives yn lansio gyda noson agoriadol i wahoddedigion yn unig ar 16 Gorffennaf (6pm). Bydd ar agor i'r cyhoedd o 17-20 Gorffennaf, ochr yn ochr ag arddangosfa ar-lein.

Mae amseroedd agor yr arddangosfa i’r cyhoedd fel a ganlyn:

  • Dydd Mercher 17 Gorffennaf, 10am - 5pm
  • Dydd Iau 18 Gorffennaf, 10am - 5pm
  • Dydd Gwener 19 Gorffennaf, 10am - 5pm
  • Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf, 10am - 5pm

Ydych chi wedi gwirioni ar gelf a dylunio? Hoffech chi weithio yn y maes hwn? I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Celf a Dylunio, a Ffotograffiaeth, Grŵp Llandrillo Menai cliciwch yma

Pagination