Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Canlyniadau Addysg Uwch Rhagorol i Grŵp Llandrillo Menai yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr

Cafodd Grŵp Llandrillo Menai sgôr ardderchog o 89% am foddhad myfyrwyr ag ansawdd y ddarpariaeth Addysg Uwch yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) diweddaraf - gan ddod i’r brig fel y darparwr gorau yng Nghymru.

Gofynnwyd 28 cwestiwn i fyfyrwyr am yr addysgu ar eu cwrs, y cymorth academaidd, yr asesiadau ac adborth, a’r adnoddau dysgu - a sgoriodd grŵp y coleg yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig ym mhob cwestiwn.

Meddai Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:

“Mae ein canlyniadau diweddar yn yr ACF yn wych, ac rydyn ni'n ddiolchgar i’n dysgwyr am rannu eu profiadau o astudio addysg uwch yma yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Wrth i ni barhau i ehangu ac ymestyn ein darpariaeth addysg uwch mae'n galonogol iawn fod dysgwyr yn parhau i nodi ein bod ni'n darparu cyrsiau lefel prifysgol o'r ansawdd uchaf sydd ymhlith y gorau yng Nghymru."

Ychwanegodd,

“Mae canlyniadau'r ACF yn rhoi dealltwriaeth dda i ni o sut mae ein myfyrwyr yn teimlo am eu profiad yn y brifysgol, a dw i'n falch iawn bod myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn mynegi safbwyntiau mor gadarnhaol. Mae'r canlyniadau'n adlewyrchu gwaith caled y staff, a dw i wrth fy modd fod ein myfyrwyr yn teimlo mor gadarnhaol am eu profiad addysg uwch gyda ni."

Mae Grŵp Llandrillo Menai’n cynnig cyrsiau gradd o'r radd flaenaf mewn dros 30 maes pwnc. Darperir y rhan fwyaf o'r cyrsiau yn y ganolfan brifysgol arbenigol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, neu ar ein campysau yn Nolgellau, Llangefni a'r Rhyl. ⁠ Mae cyrsiau gradd dwyieithog ar gael yn Nolgellau a Llangefni hefyd.

P'un ai ydi darpar fyfyrwyr wedi newid eu meddwl am symud i ffwrdd i brifysgol ac yn dymuno astudio'n lleol, neu eu bod yn ystyried newid eu gyrfa - dydi hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais i ddechrau ar gwrs gradd gyda Grŵp Llandrillo Menai. Mae cyllid myfyrwyr yn parhau i fod ar gael hefyd.

I weld ein dewis o gyrsiau, ewch i'n gwefan: gllm.ac.uk/cy/degrees neu anfonwch neges e-bost i degrees@gllm.ac.uk i drafod gyda chynghorydd.