Profiad gwaith Owena and Chayika gyda chyfreithwyr Caerdydd a Llundain
Dewiswyd y myfyrwyr o Goleg Meirion-Dwyfor ar gyfer cynllun LEDLET sy'n cefnogi pobl ifanc o Gymru sydd eisiau gweithio ym maes y gyfraith
Treuliodd dau o fyfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor wythnos yn gweithio gyda chyfreithwyr fel rhan o gynllun haf LEDLET.
Dewiswyd Owena Williams a Chayika Jones gan Lord Edmund Davies Legal Educational Trust (LEDLET) i gael profiad uniongyrchol o’r proffesiwn.
Mae Owena a Chayika yn dilyn cyrsiau Lefel A ar gampws Pwllheli, ac am wneud cais i astudio'r gyfraith yn y brifysgol ym mis Medi 2025.
Cafodd Owena ei dewis ar gyfer y cynllun LEDLET yng Nghaerdydd, ac mi dreuliodd Chayika yr wythnos ar y cynllun yn Llundain.
Mae Owena, o Forfa Nefyn, yn dilyn cwrs Lefel A yn y Gyfraith, Astudiaethau Busnes a Seicoleg.
Dywedodd: "Mi ges i gyfle unigryw i gymryd rhan yn y cynllun LEDLET yng Nghaerdydd dros yr haf. Yno hefyd roedd 11 myfyriwr Blwyddyn 12 o bob cwr o Gymru. Doedd dim profiad blaenorol o weithio yn y sector gyfreithiol gan yr un ohonom.
"Mi gawson ni gyfle i ymweld â, a gweithio gyda nifer o gwmnïau cyfreithiol a chysgodi gwahanol fargyfreithwyr.
"Mi ges i amser gwych gyda Blake Morgan Solicitors a gyda Lucy King, bargyfreithiwr o Civitas Law. Yn ystod y cyfnod hwn, mi ges i brofiad uniongyrchol o weithio o fewn gwahanol feysydd y gyfraith, roedd hynny'n ddiddorol iawn.
"Hefyd, mi aethon ni i Lys y Goron Caerdydd, a gwrando ar nifer o achosion pwysig a chwrdd â nifer o farnwyr. Ar ddiwedd y dydd mi drefnwyd sesiwn holi ac ateb i drafod eu rolau.
"I gloi’r wythnos, fe wnaethon ni gymryd rhan mewn ffug dreialon ym Mhrifysgol Caerdydd, a chymryd rolau bargyfreithwyr erlyn ac amddiffyn, er mwyn rhoi profiad i ni o'r rolau hyn mewn byd gwaith. Roedd hyn yn ffordd braf o orffen yr wythnos ac mi gawson ni adborth gan farnwr uchel ei barch ar ein perfformiadau.”
Ychwanegodd Owena: “Mae’r rhaglen LEDLET yn un o’r cyfleoedd profiad gwaith gorau sydd ar gael i bobl ifanc sy’n dymuno dilyn gyrfa ym maes y gyfraith. Mi faswn i'n ei hargymell i unrhyw un sy’n ystyried dewis y gyfraith fel gyrfa.”
Mae Chayika, o'r Ffor, yn dilyn cyrsiau lefel A yn y Gyfraith, Hanes ac Iaith a Llenyddiaeth Saesneg.
Dywedodd: "Mi ges i'r cyfle drwy LEDLET i gael profiadau gwerthchweil yn Llundain, yn trafod materion a gweithio gyda chyfoedion a phobl broffesiynol.
"Yn ogystal â hynny mi wnes i gwrdd â'r Arglwydd Lloyd Jones a Phrif Swyddog Gweithredol Linklaters, profiad cwbl unigryw ac mi ddysgais i lawer ganddynt. Mae’r cynllun hwn wedi cadarnhau fy niddordeb ac wedi ysgogi f'uchelgais i weithio yn y maes.”
Mae LEDLET yn elusen annibynnol a sefydlwyd yn 2013 i wasanaethu pobl ifanc sy’n byw yng Nghymru neu sydd â chysylltiad â Chymru sydd â diddordeb mewn ymuno â’r proffesiwn cyfreithiol.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa yn y gyfraith? Dilynwch y dolenni i ddarllen rhagor am gyrsiau Lefel A/AS Grŵp Llandrillo Menai a chyrsiau Cyfraith Gymhwysol Lefel 3.