Cydnabod y Bartneriaeth Rhwng Busnes@LlandrilloMenai a Chwmni Babcock mewn Gwobrau Cenedlaethol
Mae partneriaeth strategol rhwng y darparwr hyfforddiant dysgu seiliedig ar waith arbenigol Busnes@LlandrilloMenai a Babcock International Group wedi’i chydnabod yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru Llywodraeth Cymru a gynhaliwyd yng Nghasnewydd.
Roedd cwmni Babcock ar y rhestr fer am y Wobr Macro Gyflogwr i bartneriaeth strategol sydd wedi defnyddio rhaglen Brentisiaeth Llywodraeth Cymru. Mae Babcock wedi hyfforddi a datblygu 171 o beirianwyr awyrennau hyd yn hyn, gyda 29 o brentisiaid eraill yn gweithio i gwblhau eu prentisiaeth ar hyn o bryd.
Ers lansio'r bartneriaeth yn 2016, gall myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu cymhwyster Lefel 3 mewn Peirianneg Awyrennau gyda Grŵp Llandrillo Menai wneud cais am le ar Raglen Brentisiaeth Peirianneg Awyrennau Babcock. Bob blwyddyn, mae'r cwmni'n recriwtio rhwng chwech ac wyth prentis Peirianneg Awyrennau. Mae’r cystadlu am brentisiaethau'n frwd ac mae’r cyfweliadau ar gyfer criw 2024-25 yn cael eu cynnal yn awr.
Mae mwyafrif y peirianwyr a gwblhaodd y Rhaglen Prentisiaeth Peirianneg Awyrennau wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn Babcock. Mae llawer yn rhan o hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o beilotiaid awyrennau ymladd trwy gynnal yr awyrennau Hawk T2 sy'n hedfan o safle RAF y Fali, tra bod eraill wedi datblygu eu gyrfaoedd gyda Babcock trwy fanteisio ar gyfleoedd byd-eang.
Esboniodd Gwenllian Roberts, Uwch Gyfarwyddwr - Datblygiadau Masnachol:
“Rydym yn falch iawn o'r berthynas rydym ni wedi'i meithrin gyda Babcock, a hoffwn longyfarch y tîm cyfan ar gyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru Llywodraeth Cymru.
“Mae’r bartneriaeth strategol gyda Babcock yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei wneud pan fydd y sector addysg a’r sector preifat yn cydweithio i sicrhau sgiliau a fydd o fudd gwirioneddol i’r rhanbarth, i'r unigolion ac i'r economi.
“Pwrpas Busnes@LlandrilloMenai yw gweithio gyda busnesau ar draws Gogledd Cymru i ddatblygu partneriaethau hirdymor a fydd yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i leoedd, pobl, yr economi a busnes – partneriaethau sy’n creu swyddi a ffyniant, fel y bartneriaeth hon gyda Babcock.”
Ychwanegodd Chloe Barker, Rheolwr Gyfarwyddwr busnes Awyrenaeth Babcock yn y Deyrnas Unedig:
“Rydym ni'n hynod falch o'r bartneriaeth rydym wedi'i hadeiladu gyda Busnes@LlandrilloMenai i gyflwyno'r rhaglen brentisiaeth ragorol hon.
“Mae Babcock wedi ymrwymo i gyfrannu at y cymunedau y mae’n gweithredu ynddyn nhw, ac mae’r rhaglen hon yn rhoi llwybr i bobl ifanc Ynys Môn i barhau â’u haddysg, wrth lunio llwybr gyrfa i'r dyfodol.
“Rydym yn edrych ymlaen at dyfu ein partneriaeth a pharhau i gefnogi’r gymuned leol nawr ac yn y dyfodol.”