Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cwmni lleol yn rhoi offer newydd i fyfyrwyr yr Adran Beirianneg

Cyflwynwyd pecynnau tŵls gan Carl Kammerling International i ddysgwyr Coleg Meirion-Dwyfor yn ddiweddar ar ôl i'r cwmni o Bwllheli noddi tîm Coleg Meirion-Dywfor a gyrhaeddodd rownd derfynol F1 in Schools UK y llynedd

Mae myfyrwyr yr Adran Beirianneg wedi cael offer newydd gan gwmni Carl Kammerling yn dilyn cais llwyddiannus gan dîm F1 in Schools Coleg Meirion-Dwyfor.

Yn draddodiadol, mae dysgwyr ar gwrs BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Gyffredinol Uwch yn cael pecynnau tŵls newydd ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf eu hastudiaethau.

Cyflwynwyd y pecynnau i garfan eleni yn ddiweddar gan gwmni Carl Kammerling (CK) Tools o Bwllheli, ar ôl iddynt noddi Tîm 'Come and Go' o'r Coleg y llynedd.

Cyrhaeddodd Tîm 'Come and Go', sy'n cynnwys myfyrwyr peirianneg o gampws Pwllheli, rownd derfynol y DU yng nghystadleuaeth F1 in Schools y llynedd.

Ar ôl eu llwyddiant, fe wnaeth y tîm gyflwyno achos i'r coleg fuddsoddi mewn offer o safon ar gyfer myfyrwyr gan CK Tools.

O ganlyniad, mae dysgwyr bellach yn defnyddio'r offer gan y cwmni lleol wrth iddynt barhau â'u hastudiaethau ym mlwyddyn olaf eu cwrs.

Cyflwynwyd y pecynnau tŵls i Cai Jones, Math Hughes, Guto Roberts, Isabella Greenway a Jack Harte gan Marius Jones, Rheolwr y Maes Rhaglen Peirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

Dywedodd Marius: “Roedd yn bleser mawr i mi gyflwyno'r pecynnau tŵls cychwynnol i bob dysgwr a oedd yn cynnwys set clicied 39-darn, sbaner addasadwy, morthwyl, haclif, lefel a chaliper vernier o ansawdd gan yr enwog CK Tools.”

Mae'r myfyrwyr yn cwblhau'r rhaglen beirianneg uwch ym mlwyddyn gyntaf eu hastudiaethau, gan yna fynd ati i gwblhau'r diploma estynedig mewn peirianneg gyffredinol yn ystod yr ail flwyddyn.

Fel rhan o'r cwrs peirianneg uwch, mae'n ofynnol i ddysgwyr gwblhau 150 awr o brofiad gwaith ochr yn ochr â'u hastudiaethau. Bu'r myfyrwyr felly yn gweithio drwy gydol y gwyliau hanner tymor a gwyliau'r Pasg y llynedd i ennill profiad amhrisiadwy yn y byd go iawn.

Ychwanegodd Marius: “Mae staff ymroddedig Grŵp Llandrillo Menai yn gweithio'n galed y tu ôl i’r llenni i wneud hyn yn bosibl.

“Mae gennym ni dîm gwych yn cydweithio i ddarparu’r cyfleoedd a’r profiadau gorau i’n dysgwyr tra byddant yn astudio ar y cwrs BTEC mewn Peirianneg Uwch. Mae pob un ohonom yn gwerthfawrogi cyfranogiad a chefnogaeth y cyflogwyr lleol yn fawr iawn. Ni allem ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn hebddynt i gyd.”

Meddai Emlyn Evans, darlithydd peirianneg ar gampysau Pwllheli a Dolgellau: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl gwmnïau sydd wedi darparu’r cymorth hwn fel rhan o’r cynllun lleoliad gwaith, ac yn parhau i wneud hynny bob blwyddyn.

“Llongyfarchiadau i Cai, Math, Guto, Isabella a Jack, peirianwyr y dyfodol o gampws Dolgellau, sydd wedi cwblhau’r rhaglen uwch ac wedi derbyn eu pecynnau tŵls cychwynnol.”

Eisiau dysgu rhagor am fyd cyffrous peirianneg gyda Grŵp Llandrillo Menai? Dysga ragor am ein cyrsiau yma.