Perfformio i'r Eithaf: Felicity Devey ar ‘Ennill yn Dda’ dros Gymru
Yn y seminar Perfformio i'r Eithaf nesaf yng Ngholeg Llandrillo, bydd y maethegydd Olympaidd a Pharalympaidd yn trafod sut mae Chwaraeon Cymru wedi gweddnewid y ffordd mae'n darparu gwasanaethau gwyddor chwaraeon
Y maethegydd chwaraeon blaenllaw, Felicity Devey fydd y siaradwr gwadd yn seminar 'Perfformio i'r Eithaf' nesaf Coleg Llandrillo.
Bydd sgwrs Felicity, Gwneud ‘Ennill yn Dda’ yn Fwy Tebygol yng Nghymru, yn cael ei chynnal yn y Ganolfan Brifysgol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ar 7 Ebrill (6pm).
Mae'r seminar AM DDIM ac yn agored i fyfyrwyr a'r cyhoedd. Archebwch eich lle yma.
Fel maethegydd chwaraeon mae Felicity wedi gweithio gyda phencampwyr Olympaidd a Pharalympaidd ac enillwyr medalau yng Ngemau'r Gymanwlad a chystadlaethau Ewropeaidd a Rhyngwladol, o gymnastwyr, chwim-gerddwyr a rhedwyr i chwaraewyr rygbi proffesiynol.
Cafodd ei dewis i gefnogi tîm Paralympaidd Prydain yn Tokyo 2020 gan ddefnyddio ei harbenigedd i helpu athletwyr i berfformio ar y llwyfan mwyaf posibl.
Fel Arweinydd Sefydliadau, Pobl a Gwasanaethau Chwaraeon Cymru, Felicity sy'n gyfrifol am oruchwylio sut y gall gwyddor a meddygaeth chwaraeon helpu athletwyr yng Nghymru i ffynnu.
Yn ei seminar, bydd yn trafod ei phrofiadau a sut mae Chwaraeon Cymru wedi gweddnewid y ffordd mae'n darparu gwasanaethau gwyddor a meddygaeth chwaraeon, a'r sgiliau sydd eu hangen ar ddarpar ymarferwyr yn y meysydd hyn.
Meddai Felicity: “Mae'r seminar wedi'i hanelu at unrhyw un sy'n ystyried gyrfa ym maes gwyddor chwaraeon neu wyddor meddygaeth, sy'n gweithio gyda darpar ymarferwyr, neu sy'n gyfrifol am hyfforddi chwaraeon.
“Mae ein hagwedd at wyddor chwaraeon a gwyddor meddygaeth wedi newid – rydyn ni am ddeall sut mae newid ymddygiad pobl, a sut i wneud ymyriadau'n fwy effeithiol er mwyn rhwystro problemau fel diffyg egni neu straen ar yr esgyrn rhag dod yn ôl.
“Er enghraifft, os ydych chi am i athletwyr fwyta carbohydradau, mae angen gwneud mwy na dim ond dweud wrthyn nhw am wneud hynny. Rydyn ni'n edrych ar yr holl ffactorau sy'n cyfrannu at benderfyniadau athletwyr – pwy sy'n dylanwadu arnyn nhw, beth mae eu modelau rôl yn ei ddweud, beth maen nhw'n ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol a sut y gall eu hamgylchedd chwaraeon ddatblygu eu gallu i wneud penderfyniadau. Er enghraifft, oes yna fyrbrydau sy'n cynnwys carbohydradau'n cael eu cynnig yn ystod hanner amser neu wrth iddyn nhw wneud eu hymarferion adfer.
“Ddim i'r ochr elît yn unig y mae hyn yn berthnasol. Mae'n golygu edrych ar sut i ddatblygu arferion gwirioneddol dda mewn pobl ifanc – felly erbyn eu bod nhw'n cyrraedd y lefel elît neu hŷn, maen nhw'n llai tebygol o gael anaf am eu bod nhw'n gallu symud yn dda, ac maen nhw'n llai tebygol o fynd yn sâl am eu bod nhw'n bwyta ac yn cysgu'n dda. Maen nhw'n sgiliau pwysig ar gyfer bywyd yn ogystal â chwaraeon.
“Gydag athletwyr ifanc, mae'n bwysig peidio â gwneud pethau'n rhy gymhleth. Rydyn ni am iddyn nhw gael y pethau sylfaenol yn iawn fel eu bod nhw'n gallu llwyddo yn y tymor hir.
“Os ydych chi'n mynd yn rhy broffesiynol yn 11 oed ac yn cymryd chwaraeon ormod i ddifri, mi fyddan nhw'n aml wedi cael llond bod erbyn cyrraedd 16 oed. Felly sut mae cyfrannu at wneud pethau'n hwyl fel bod pobl ifanc ddim yn troi eu cefn ar chwaraeon, ac yn cael blas ar lwyddo a datblygu?”
Gwneud 'Ennill yn Dda' yn Fwy Tebygol yng Nghymru yw'r pedwerydd seminar yn y gyfres ‘Perfformio i'r Eithaf’ i gael ei drefnu gan adran Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Coleg Llandrillo.
Y siaradwyr blaenorol oedd y triathletwr a'r torrwr recordiau byd, Sean Conway, pennaeth hyfforddi a datblygu dyfarnwyr pêl-droed Lloegr, Neil Cottrill, a'r darlithydd yng Ngholeg Llandrillo, Sam Downey, sydd hefyd yn hyfforddwr perfformiad gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
Bydd siaradwyr gwadd y dyfodol yn cynnwys Craig Knight, hyfforddwr datblygu chwaraewyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Alex Marshall-Wilson, sydd wedi chwarae pêl-fasged cadair olwyn i dîm dan 23 Prydain.
Cewch ragor o wybodaeth ac archebu eich lle yma, neu trwy fynd i gllm.ac.uk/cy/peak-performance