Perfformio i'r Eithaf: Darlithwyr yn rhannu ymchwil gyffrous ar flinder meddyliol a gwytnwch ymenyddol
Yn yr ail mewn cyfres o seminarau yng Ngholeg Llandrillo ar chwaraeon elît, bydd Sam Downey a Steve Kehoe yn trafod effeithiau blinder meddyliol
Yn ail seminar y gyfres ‘Perfformio i'r Eithaf’ bydd y darlithwyr o Goleg Llandrillo yn trafod eu hymchwil ddiweddaraf i flinder meddyliol mewn chwaraeon.
Mae gwyddor perfformio'n faes sy'n datblygu'n gyflym a bydd Sam Downey a Steve Kehoe yn rhannu eu harbenigedd yn y pwnc ddydd Iau yma sef 13 Chwefror. Archebwch eich lle yma
Bydd y seminar, a gynhelir yn y ganolfan brifysgol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, yn edrych ar sut y gellir defnyddio hyfforddiant gwytnwch ymenyddol i wrthsefyll blinder meddyliol, gan ei gwneud yn bosibl i bobl wthio eu hunain y tu hwnt i'w gallu corfforol tybiedig.
Yn ogystal â bod yn ddarlithydd Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) yn y coleg mae Sam yn Hyfforddwr Perfformiad i grwpiau oedran dynion Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Fel rhan o'i Ddoethuriaeth, ar hyn o bryd mae'n ymchwilio i effeithiau blinder meddyliol a hyfforddiant gwytnwch ymenyddol ym maes pêl-droed.
Steve Kehoe yw arweinydd rhaglen y radd BSc mewn Gwyddor Chwaraeon (Hyfforddi Chwaraeon) yng Ngholeg Llandrillo. Mae wedi bod yn ddarlithydd addysg uwch ers dros ddegawd, ac mae ganddo ddiddordebau ymchwil eang.
Arferai'r ddau chwarae pêl-droed yn broffesiynol ac maent yn hyfforddwyr profiadol, felly bydd eu hymchwil yn cael effaith wirioneddol ar chwaraeon a gwyddor perfformiad.
Meddai Sam: “Yn y seminar byddwn yn sôn am beth yw blinder meddyliol, beth sy'n debygol o'i achosi o ddydd i ddydd, a sut mae'n effeithio ar berfformiad aerobig, anaerobig a sgiliau mewn chwaraeon a dulliau ymarfer amrywiol.
“Fel rhan o'm PhD, rydw i wedi bod yn edrych ar effeithiau blinder meddyliol ar ymarferion dwyster uchel sy'n cael eu hailadrodd. Mae'r canfyddiadau'n ddiddorol, a rŵan rydyn ni'n datblygu'r hyn a gredwn yw'r rhesymeg y tu ôl iddynt.
“Yn y seminar hefyd byddwn yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i wrthsefyll blinder meddyliol. Rydyn ni'n gweithio gyda chwmni apiau o'r enw Soma sy'n datblygu rhaglenni hyfforddi gwytnwch ymenyddol ac mae hynny'n cael ei ddefnyddio yn y PhD hefyd.
“Rydyn ni'n gwybod llawer am sut y gallwch chi hyfforddi capasiti corfforol athletwyr. Mi allwch chi eu cael nhw i berfformio hyd eithaf eu gallu o ran cyflymder, cryfder a gallu aerobig – ond allwch chi hyfforddi ymennydd athletwyr i allu gwrthsefyll blinder yn well?
“Allwch chi newid canfyddiad pobl o flinder, ac ydi hynny'n rhoi mantais gystadleuol ychwanegol i chi? Yr ateb ydi fod hynny'n bosib, ac mi fyddwn ni'n siarad am hyn yn y seminar.
“Yr hyn rydyn ni'n edrych arno'n benodol yn y coleg yw'r effaith ar chwaraeon tîm – felly rydyn ni'n edrych ar bêl-droed, ond mae hynny'n berthnasol hefyd i rygbi, pêl-rwyd a chwaraeon eraill.
“Felly mae hyn o ddiddordeb i unrhyw un sy'n chwarae neu'n hyfforddi chwaraeon tîm – ond mae'n trosglwyddo i bob math o chwaraeon. Mi fyddwn ni'n trafod ymarfer dygnwch, ymarferion dwyster uchel unigol, perfformiad siliau ac ymarferion dwyster uchel sy'n cael eu hailadrodd.
“Felly mae o ddiddordeb i'r rhai sy'n cymryd rhan yn y math yna o chwaraeon, yn ogystal â'r rhai sydd â diddordeb cyffredinol mewn gwyddor chwaraeon neu'n mynd i'r gampfa leol. Rydyn ni'n trafod yr ymchwil ar sut y gall blinder meddyliol effeithio ar faint rydych chi'n ymarfer yn y gampfa er enghraifft, faint o ‘reps’ rydych chi'n eu gwneud ac ati.
“Dw i'n meddwl mai'r hyn sy'n amlwg yw bod blinder meddyliol yn ffactor, bod yna achosion dydd i ddydd nad ydyn ni o bosib yn ymwybodol ohonyn nhw, a bod yna ffyrdd o wrthsefyll hyn.
“Dw i'n meddwl y bydd y rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â hyn ac yn ei ddeall, h.y. ‘Mae gen i brofiad o flinder meddyliol, mae gen i brofiad o'r effaith mae'n ei gael ar chwaraeon’.
“Ac mae'n berthnasol y tu hwnt i chwaraeon hefyd. Efallai fod blinder meddyliol wedi effeithio arnyn nhw yn eu gwaith, neu wrth wneud unrhyw fath o dasg wybyddol y tu allan i'r gwaith.”
Dechreuodd y gyfres Cyrraedd y Copa'r mis diwethaf gyda sgwrs gan Sean Conway, athletwr sydd wedi torri recordiau byd mewn chwaraeon dygnwch. Bydd siaradwyr gwadd y dyfodol yn cynnwys Neil Cottrill, pennaeth hyfforddi a datblygu dyfarnwyr pêl-droed Lloegr, Felicity Devey, maethegydd ym maes chwaraeon elît ac ymarfer corff, Matthew Williams, darlithydd yng Ngholeg Llandrillo a hyfforddwyr gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ac Alex Marshall-Wilson, sydd wedi chwarae pêl fasged cadair olwyn i dîm Prydain.
Bydd y seminar ‘Cyrraedd y Copa – Blinder Meddyliol mewn Chwaraeon’ yn cael ei chynnal yn y Ganolfan Brifysgol ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ddydd Iau 13 Chwefror (6pm). I archebu eich lle, ewch i: https://www.gllm.ac.uk/cy/peak...