Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y cwrs TAR oedd 'y penderfyniad gorau a wnes i erioed' meddai Keri

Mae graddedigion y cwrs TAR yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau wedi bod yn rhannu cipolwg ar y gwahaniaeth mae'r cwrs wedi'i wneud i'w bywydau

Mae Keri Lane yn dweud mai dychwelyd i fyd addysg yn ei 30au i ddilyn cwrs TAR ydy'r penderfyniad gorau iddi ei wneud erioed.

Dair blynedd ar ôl cwblhau ei chwrs addysgu yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau, mae Keri yn ddarlithydd llawn amser mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn “byw’r freuddwyd”.

Dywed Keri, sy'n dysgu ar gampysau Dolgellau a Phwllheli, mai'r rhan orau o'i swydd ydy gweld y dylanwad cadarnhaol y mae'n gallu ei gael ar fywydau dysgwyr ifanc.

“Roeddwn i’n teimlo’n eithaf nerfus am ddychwelyd i addysg yn fy 30au, fel nifer bobl eraill” meddai Keri, o Gellilydan ger Blaenau Ffestiniog. “Fodd bynnag, dewis y cwrs TAR yn Nolgellau ydy'r penderfyniad gorau i mi ei wneud er fy mwyn fy hun.

“Mi wnes i raddio o’r cwrs dair blynedd yn ôl, ac mae fy ngyrfa wedi ffynnu ers hynny. Rydw i'n ddarlithydd llawn amser yn yr adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Plant erbyn hyn, yn byw'r freuddwyd. Mae gweld yr effaith gadarnhaol y gallaf ei chael ar fywydau fy myfyrwyr trwy addysgu yn rhoi boddhad i mi.”

Yn ddiweddar, mi ges i'r fraint o gydweithio fel cydlynydd cwricwlwm yn yr adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol/Plant, cyflawniad sylweddol y mae’r cwrs wedi’i gefnogi.”

Roedd gan Keri lawer o ganmoliaeth i'w hathrawon yn Nolgellau, gan ddweud iddi fagu hyder, rhagori yn academaidd a gwneud ffrindiau newydd o ganlyniad i’r cwrs.

“Mae’r gefnogaeth gan holl staff yr adran TAR yn rhagorol,” meddai. "Roedden nhw bob amser yn barod i fynd allan o'u ffordd i helpu, a gwneud pob ymdrech i ddarparu’r gefnogaeth a’r profiadau gorau. Diolch i'w hymroddiad, gwellodd fy ngalluoedd academaidd a fy hyder yn sylweddol. Roedd gwneud ffrindiau newydd a mwynhau fy amser yn fantais ychwanegol.”

Wrth ofyn am ei chyngor i fyfyrwyr presennol, ychwanegodd Keri: “Os oes gennych ddiddordeb mawr yn y sector addysg ac eisiau cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc, byddwn yn bendant yn argymell dilyn y cwrs TAR gan ei fod yn wirioneddol werth chweil. Mi wnes i fwynhau pob eiliad o fy amser yno a byddwn yn ei wneud eto heb feddwl dwywaith.

Graddiodd Jaimee Wellings o Dalybont ger y Bermo yn ddiweddar o'r rhaglen TAR ar gampws Dolgellau.

Gweithiodd fel darlithydd trin gwallt rhan-amser yn y coleg yn ystod ail flwyddyn ei chwrs ac mae hi hefyd yn gweithio yn Elegance Hair and Beauty yn Nhalybont.

Dywedodd Jaimee: “Ro’n i wedi bod yn trin gwallt ers 14 mlynedd, ac roeddwn i eisiau newid cyfeiriad ond gwneud rhywbeth dal yn yr un maes.

“Mae gen i ffrind sy'n gweithio yn y coleg a hi wnaeth fy annog i ddilyn y cwrs TAR. Roedd yn dda iawn - yn enwedig yr ail flwyddyn pan oeddwn yn gwybod mwy am yr hyn yr oeddwn yn ei wneud. Roedd yn ddiddorol iawn, ac mi wnes i sylweddoli fy mod wrth fy modd yn addysgu.

Dw i'n hoffi'r amrywiaeth - d'oes dim dau ddiwrnod yr un fath. Dw i hefyd yn hoffi gweithio gyda’r grŵp oedran 16+ a meithrin perthynas â’r myfyrwyr.”

Gan sôn am ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol, dywedodd Jaimee: “Hoffwn i swydd addysgu amser llawn mewn trin gwallt, ond mae gen i swydd hyblyg iawn yn y salon felly rydw i'n cadw fy opsiynau ar agor.”

Hoffech chi ddechrau ar yrfa werth chweil yn dysgu pobl ifanc ac oedolion? I gael rhagor o wybodaeth am gwrs TAR Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.

Pagination