Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dysgwyr Prosiect SEARCH yn dathlu mewn seremonïau graddio arbennig

Cynhaliwyd seremonïau yng Ngholeg Menai a Choleg Llandrillo ar ôl i’r dysgwyr gwblhau interniaethau’n llwyddiannus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai wedi graddio ar ôl interniaethau ar Brosiect SEARCH gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Buont yn dathlu gyda’u teuluoedd balch mewn seremonïau yng Ngholeg Menai yn Llangefni a Choleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Mae Prosiect SEARCH/Interniaethau â Chymorth yn rhaglen 12 mis sy'n helpu oedolion a'r rhai ifanc sy'n gadael addysg ac sydd ag anableddau dysgu neu awtistiaeth i sicrhau gwaith.

Mae Grŵp Llandrillo Menai ac asiantaeth gyflogaeth Agoriad yn cynnig yr interniaeth mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ar safleoedd Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd.

Cynhaliwyd seremoni raddio Cymuned Iechyd Integredig y Gorllewin ar gampws Coleg Menai yn Llangefni. Roedd un ohonynt, Mair, hefyd yn dathlu ar ôl cael swydd fel prentis cynorthwyydd gofal iechyd â chymorth yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn dilyn yr interniaeth.

Meddai Mair: “Mae bod ar y Rhaglen Interniaethau â Chymorth wedi bod yn dda iawn oherwydd rydych chi’n ennill mwy o sgiliau gwaith fel cyfathrebu, gwaith tîm a hyder.

“Rydych chi'n dod ychydig yn fwy annibynnol trwy deithio ar eich pen eich hun ar gludiant cyhoeddus ac yn dod i arfer â bod yn y gwaith a'r newidiadau. Mae pawb fel teulu mawr yn cefnogi ei gilydd trwy'r da a'r drwg.”

Cynhaliwyd seremoni raddio’r Gymuned Iechyd Integredig Canolog yng Ngholeg Llandrillo ar gampws Llandrillo-yn-Rhos. Roedd rhieni Josh ymhlith y rhai a fynychodd. Fe wnaethon nhw ganmol y prosiect ar ôl i Josh gael ei gyflogi fel porthor banc yn Ysbyty Glan Clwyd.

“Rydyn ni wedi gweld newid mawr ynddo ers iddo ddechrau gweithio gyda’r porthorion,” meddai rhieni Josh. “Mae wedi mynd o fod yn hynod o dawel ac amharod i ymuno mewn sgyrsiau gartref, i fod yn siaradus a hyderus iawn.

“Mae bob amser yn hapus i siarad am ei ddiwrnod, rhywbeth nad oedd byth yn ei wneud pan oedd yn yr ysgol.

“O ran ei hyder, mae’r newid rydyn ni wedi’i weld yn rhyfeddol. Mae’n braf iawn clywed ei fod yn cymryd rhan mewn sgyrsiau gyda staff a chleifion a'i fod hefyd yn dechrau cychwyn sgyrsiau - eto, rhywbeth y mae bob amser wedi ei chael yn anodd.”

Yn genedlaethol, mae cyfradd diweithdra oedolion sydd ag anableddau a/neu awtistiaeth yn tua 90%.

Mae prosiect SEARCH/Interniaethau â Chymorth yn cefnogi datblygiad sgiliau ac ymddygiad sy'n cynorthwyo oedolion ifanc ag anableddau a/neu awtistiaeth i ddod o hyd i waith ystyrlon. Mae gan BIPBC gyfradd llwyddiant o 70% hyd yma o ran sicrhau swyddi yn fewnol ac yn allanol.

Dywedodd Tracey Amos, arweinydd gweithredol Prosiect Search/Interniaethau â Chymorth yn y bwrdd iechyd: “Dw i'n falch iawn bod y bwrdd iechyd wedi cael blwyddyn anhygoel arall yn cefnogi ac yn dysgu gan ein interniaid.

“Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio'n agos gyda phobl ifanc a allai fod angen y cymorth ychwanegol hwnnw i ymuno â'n gweithlu. Roedd yn hyfryd cwrdd â’n interniaid a’u teuluoedd yn ein seremonïau graddio. Gallwn weld pa mor falch yw pawb ohonyn nhw.

“Hoffwn ddiolch i'n holl bartneriaid sy'n cefnogi Prosiect SEARCH/Interniaethau â Chymorth ar draws Gogledd Cymru. Ni fyddai’r rhaglenni’n gymaint o lwyddiant hebddynt.”

Meddai Dyfed Edwards, cadeirydd BIPBC: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi Prosiect SEARCH/Interniaethau â Chymorth o fewn y bwrdd iechyd, y cynghorau lleol a phartneriaid eraill, yn ogystal â rhieni/gofalwyr ein graddedigion sydd wedi bod yno ac wedi cefnogi’r oedolion ifanc hyn yn ystod eu hinterniaethau.

“Yn bwysicaf oll, hoffwn ddiolch i’n graddedigion. Maen nhw wedi rhoi cyfle i ni weld y byd fel lle gwell, a’n helpu ni i ganolbwyntio ar gydraddoldeb, cyfle cyfartal a thegwch.”

I gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth Sgiliau Byw'n Annibynnol Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.

Pagination