Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lluosi yn rhagori ar eu targedau uchelgeisiol ar draws siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd a Môn

Adran Lluosi Grŵp Llandrillo Menai wedi helpu bron i 2,000 o bobl gyda mwy na 700 o gyrsiau rhifedd ar draws y pedair sir - gan ragori ar ei dargedau tair blynedd mewn dim ond 15 mis

Mae adran Lluosi Grŵp Llandrillo Menai wedi gwella sgiliau rhifedd bron i 2,000 o bobl ar draws siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd a Môn.

Nod y prosiect Lluosi, a ariennir gan lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, yw gwella hyder oedolion o ran defnyddio rhifau, gan roi hwb i'w rhagolygon swyddi a'u cynorthwyo mewn bywyd bob dydd.

Yn wreiddiol yn brosiect tair blynedd, mae tîm Lluosi Grŵp Llandrillo Menai wedi gweithio mewn partneriaeth agos â Chronfa Ffyniant Gyffredin Gogledd Cymru a phedwar awdurdod lleol - Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych - i ragori ar dargedau uchelgeisiol ar gyfer cyrsiau hyder rhifedd o fewn ffrâm amser byrrach o 15 mis.

Hyd yn hyn, mae 1,914 o bobl wedi ymgysylltu â chyrsiau rhifedd rhad ac am ddim y Grŵp – sy’n llawer uwch na’r targed cychwynnol o 1,360. Erbyn mis Rhagfyr, mae 714 cwrs wedi eu cynnal - ⁠ yn amrywio o sesiynau grŵp i sesiynau cefnogi un i un. ⁠

Mae llwyddiant Lluosi yn deillio o’i amrywiaeth ac ymyriadau sydd wedi’u targedu. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau sylfaenol i hybu hyder, cyrsiau llythrennedd ariannol i helpu pobl i reoli eu harian, a chyrsiau rhifedd yn y gweithle a ddatblygwyd gyda chyflogwyr i fynd i’r afael â sgiliau penodol sy’n gysylltiedig â swydd.

Mae sgiliau rhif wedi cael eu haddysgu trwy sesiynau mor amrywiol â chynnal a chadw ceir, gwaith saer, coginio a llawer mwy.⁠

I lawer o ddysgwyr, mae Lluosi wedi darparu llwybr yn ôl i addysg, gyda 123 o bobl bellach wedi cofrestru ar naill ai gyrsiau TGAU mathemateg neu gyrsiau Cymhwyso Rhif o ganlyniad uniongyrchol i’w hymgysylltiad â’r prosiect.

Enillodd Gwydion Evans, o Fethesda, radd 'A' mewn TGAU Mathemateg ar ôl dim ond tri mis o hyfforddiant, ac ers hynny mae wedi cofrestru i astudio cymwysterau tebyg mewn Saesneg Iaith a Chymraeg yng Ngholeg Menai.

"Ro'n i’n meddwl bod y gwersi un i un yn ddefnyddiol iawn ar gyfer dysgu pethau’n weddol gyflym a chael cwrs wedi ei deilwra i mi a oedd yn gadael i mi gael gafael iawn arno," meddai Gwydion, sy'n bwriadu mynd ymlaen i astudio cyrsiau Safon Uwch.

Mae dysgwr arall, David Walsh, wedi defnyddio ei hyder newydd â rhifau i helpu ei wyrion gyda’u gwaith ysgol, ac mae bellach yn astudio Rhifedd Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru.

“Dw i ddim wastad wedi bod yn gyfforddus gyda mathemateg,” meddai David, o Brestatyn. “Ond mae’r tiwtoriaid ar y cyrsiau 'ma yn deall ein galluoedd yn llawn ac yn fwy na pharod i’n helpu.

"Lluosi ydy'r lle i ddod oherwydd maen nhw'n deall nad ydy mathemateg yn hawdd i bawb, ac mae'n dda i mi oherwydd mae'n gallu bod o gymorth i'ch plant hefyd. Wel, wyrion yn fy achos i!"

Mae Lluosi hefyd wedi dod yn bartneriaid â sefydliadau cymunedol i sicrhau bod y rhaglen yn ennyn diddordeb y dysgwyr anoddaf eu cyrraedd. Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi meithrin perthynas â 534 o grwpiau cymunedol, elusennau, busnesau a sefydliadau eraill, gan ddarparu cyrsiau pwrpasol wedi'u hanelu at weithwyr, cleientiaid a defnyddwyr gwasanaethau.

Enghraifft wych o hyn fu perthynas y Grŵp ag elusen Blossom & Bloom yn y Rhyl.

Ar ôl cynnal sesiynau Lluosi gyda'r nod o wella sgiliau cyllidebu a mathemateg rhieni, bu Blossom & Bloom yn cydweithio â'r Grŵp i gynnig cwrs chwe wythnos, 'Dechrau Eich Busnes Eich Hun', gan rymuso rhieni i gymryd rheolaeth o'u dyfodol ariannol.

Dywedodd sylfaenydd Blossom & Bloom, Vicky Welsman-Millard: “Mae yna saith busnes wedi’u creu hyd yn hyn, sy’n anhygoel oherwydd fyddai hynny ddim wedi bod yn bosibl heb Blossom & Bloom a chynllun Lluosi.

“Mae’n gyffrous oherwydd mae’r cyrsiau yn rhoi rhywbeth arall i’n grŵp ganolbwyntio arno

yn hytrach na dim ond bod yn rhiant. Dw i'n edrych ymlaen at weld beth all y dyfodol ei gynnig a pha fath o gyfleoedd y gallwn eu cynnig o'r fan hon.

Mae Lluosi wedi helpu pobl i wynebu’r argyfwng costau byw trwy ei gyrsiau cyllidebu - ond i gyfarwyddwr Hwb Cymunedol Colwyn, Tom Ward, mae hefyd yn ymwneud â chael effaith gymdeithasol.

“Ro'n i angen help i drefnu cyrsiau coginio ar gyfer ein cleientiaid,” meddai Tom, y bu ei grŵp yn cynnal 'Coginio ar Gyllideb' a 'Coginio gydag Air Fryer'.

“Mae 'na bobl yn ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd, ac mae cefnogaeth y banc bwyd yn hollbwysig. Nid dysgu sgiliau rhifedd yn unig sy'n digwydd yma, rydych chi'n dysgu gweithio mewn grŵp a sut mae siarad ag eraill."

Mae busnesau hefyd wedi elwa o Lluosi, sydd wedi adeiladu cyrsiau rhifedd wedi'u teilwra i anghenion gwahanol weithleoedd.

Cynhaliodd y masnachwr adeiladu Huws Gray sesiynau i staff yn ei brif swyddfeydd yn Llangefni, lle dysgon nhw godio a defnyddio taenlenni yn ogystal â TGAU Mathemateg.

Dywedodd pennaeth gweithrediadau canolog y cwmni Dafydd Hughes: "Dw i'n wirioneddol angerddol am yr hyn y gallwn ei wneud i ddatblygu ein cydweithwyr i roi'r cyfle gorau iddyn nhw lwyddo yn eu gyrfaoedd.

"Dyma pam mae Lluosi yn gweithio'n dda i ni - mae'r cymhwyster TGAU mathemateg yn rhoi rhywbeth iddynt gadw wrth gefn na fyddent wedi cael y cyfle i’w ennill o'r blaen.

“Rydyn ni'n falch iawn o fod yn rhan o'r Prosiect Lluosi. Mae'n gyfle gwych sy'n darparu opsiynau amrywiol i bobl wneud eu TGAU, a gwella eu sgiliau Excel a TG."

Dywedodd Fiona Murray, hyfforddwr swyddi gyda menter gymdeithasol Co-Options ym Mhrestatyn, fod ei chleientiaid wedi gweld buddion o sesiynau Lluosi.

“Mae Lluosi yn gallu addasu sesiynau ar gyfer pob dysgwr ac rydyn ni wedi gweld cynnydd mawr mewn hyder a gallu ymhlith yr holl ddysgwyr,” meddai.

"Mae’r ffaith y gall y dysgwyr ychwanegu cyrsiau Lluosi at eu CV a mynd â thystysgrifau i gyfweliadau swyddi yn wych ac mae wir yn rhoi hwb i’w rhagolygon yn y byd gwaith."

Meddai Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: “Mae prosiectau fel Lluosi sy’n ailgyflwyno oedolion i ddysgu yn hynod bwysig.

“Gan ddefnyddio technegau arloesol a pherthnasol, mae ein cyrsiau Lluosi wedi cefnogi pobl i ddatblygu eu sgiliau rhifedd ac felly gwella eu cyfleoedd gwaith a chyflogadwyedd.

“Dw i'n hynod falch o’r holl ddysgwyr sydd wedi ymgysylltu a datblygu eu sgiliau, ond hefyd yr un mor falch a diolchgar i’n timau addysgu a datblygu rhagorol, am sicrhau ein bod wedi rhagori ar y targedau mewn cyfnod byr o amser.”

Meddai Martin Walker, Rheolwr Dysgu Gydol Oes Grŵp Llandrillo Menai: ⁠ “Rydym yn falch bod cymaint o bobl ledled siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd a Môn wedi gallu datblygu eu sgiliau rhifedd trwy gynllun Lluosi.

“Mae hyn yn cael effaith drawsnewidiol ar fywydau pobl – nid yn unig yn eu helpu mewn bywyd a gwaith, ond hefyd yn agor cyfleoedd newydd iddynt trwy addysg barhaus.

“Gall dysgwyr barhau ar eu taith gyda Grŵp Llandrillo Menai trwy Potensial, ein brand dysgu gydol oes. Mae Potensial yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion ddychwelyd i ddysgu, datblygu sgiliau newydd, ennill gwybodaeth newydd mewn pwnc o ddiddordeb, a/neu eu helpu i baratoi ar gyfer addysg bellach neu gyflogaeth.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr amrywiaeth o gyrsiau dysgu gydol oes sydd ar gael drwy Grŵp Llandrillo Menai, ewch i dudalen Potensial.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date