Rapid Rebels yn gwibio i'r llinell derfyn gyda chefnogaeth Suzuki a Harbour Marine Services
Myfyrwyr peirianneg Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli yn cystadlu yng nghystadleuaeth F1 in Schools
Mae myfyrwyr peirianneg Coleg Meirion-Dwyfor yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth F1 in Schools gogledd Cymru a gynhelir yng Nghanolfan Hamdden Dinbych yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae Tom Williams, Osian Griffiths, Ben Griffiths a Toby Topham wedi ffurfio'r Rapid Rebels – un o ddau dîm o fyfyrwyr y cwrs Peirianneg Estynedig Lefel 3 ar gampws Pwllheli - a fydd yn cystadlu yn y categori canolradd ar 18 Chwefror.
Wythnos diwethaf aeth Ben, Osian a Tom ar ymweliad i weithdy pwrpasol eu noddwyr Harbour Marine Services, ar Stad Ddiwydiannol Glandon ym Mhwllheli.
Yn y llun isod o'r chwith i'r dde: Ben, Osian a Tom yn Harbour Marine Services, Pwllheli.
Cyflwynodd Robert Walker, perchennog a chyfarwyddwr Harbour Marine Services, ddillad a roddwyd yn arbennig i'r tîm gan Suzuki Marine .
Yn ystod eu hymweliad, cafodd y dysgwyr hefyd gip o gwmpas gweithdy Harbour Marine Services a'r ystod eang o GRAND RIBs a llongau sy'n cael eu pweru gan beiriannau o'r radd flaenaf Suzuki.
Yn y llun isod o'r chwith i'r dde: Tom, Ben ac Osian yn dangos yn falch iawn gyda'r hwdis a ddarparwyd gan eu noddwr Suzuki Marine a Harbour Marine Services.
Dywedodd Emlyn Evans, darlithydd ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli. “Mae’n wych cymryd rhan yn y gystadleuaeth F1 in Schools. Mae’r prosiect a’r tasgau adeiladu tîm sy’n rhan o’r gystadleuaeth yn cyd-fynd yn dda â’r Cymhwyster Peirianneg Lefel 3.”
Ychwanegodd Emlyn: “Yn ddisgwyliedig mewn cystadleuaeth o'r fath, mae ymrwymiad ariannol i brynu deunyddiau, talu ffioedd mynediad a chludiant i’r lleoliad. Felly, mae’r gefnogaeth gan Suzuki Marine a Harbour Marine Services wedi galluogi'r Rapid Rebels i gystadlu yn Rowndiau Terfynol Rhanbarthol gogledd Cymru eleni.
“Rydyn ni'n falch iawn gyda’r cydweithrediad a’r nawdd y mae Suzuki Marine a Harbour Marine Services wedi’u rhoi i’n dysgwyr ac edrychwn ymlaen at adrodd yn ôl yn yr wythnosau nesaf ar eu llwyddiannau yn y gystadleuaeth.”
Os ydych wedi’ch ysbrydoli gan y stori hon ac os hoffech wybod rhagor am ein cyrsiau Peirianneg a’r cyfleoedd sydd ar gael, cysylltwch â evans12e@gllm.ac.uk neu ewch i https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/engineering-level-3