Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dychwelyd i'r coleg yn trawsnewid bywyd Gemma

Cofrestrodd y darlithydd o Goleg Meirion-Dwyfor ar radd Rheolaeth Busnes cyn symud ymlaen i ddilyn cwrs TAR - ac erbyn hyn mae ganddi’r swydd berffaith

Gwnaeth Gemma Stone-Williams gais i Goleg Meirion-Dwyfor ar ôl bod eisiau gwneud gradd erioed, a dywedodd: “Mae wedi gweddnewid fy mywyd yn llwyr.”

Penderfynodd Gemma, o Ddyffryn Ardudwy, ei bod yn amser i fynd yn ôl i'r coleg pan orffennodd ei phlentyn ieuengaf yr ysgol gynradd.

Cofrestrodd ar y BA (Anrh) mewn Rheolaeth Busnes ar gampws Dolgellau yn 2017, a chafodd ei hysbrydoli gymaint gan ei darlithwyr fel yr arhosodd yn y coleg i ddilyn cwrs TAR.

Erbyn hyn, mae hi'n gweithio fel darlithydd rhan-amser, tra hefyd yn rhedeg ei busnes rheoli eiddo ei hun.

Mae Gemma'n dweud ei bod “wrth ei bodd” yn mynd i’w gwaith yn y coleg, ac mae’n falch iddi fentro a dychwelyd i fyd addysg.

“Y peth gorau wnes i erioed” meddai. “Mae wedi gweddnewid fy mywyd yn llwyr.

“Mae wedi fy helpu i gael swydd dw i'n ei mwynhau, swydd dw i wrth fy modd yn mynd iddi bob dydd. Mae helpu myfyrwyr gyda’u haddysg yn rhoi boddhad mawr, ac i unrhyw un sy’n ystyried gwneud cwrs TAR, ewch amdani.”

Doedd Gemma ddim yn bwriadu mynd i ddysgu pan wnaeth gais i'r coleg, gan ddewis y radd Rheolaeth Busnes gan ei bod yn teimlo y byddai'n ategu ei menter tai gwyliau.

Dywedodd: “Ro’n i ar dipyn o groesffordd – roedd fy mhlant ychydig yn hŷn, roedd fy merch yn ei blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd, felly roedd gen i ychydig mwy o amser rhydd.

“Ro’n i’n rhedeg fy musnes fy hun, ond ro’n i wastad wedi bod eisiau mynd yn ôl a gwneud gradd. Penderfynais wneud y cwrs busnes oherwydd ro’n i'n teimlo y byddai'n berthnasol i fy musnes a gallwn ei ffitio o amgylch fy ngwaith.

“Roedd y radd yn waith caled, ond fe wnes i fwynhau herio fy hun, a phan wnes i ei chwblhau ro’n i'n teimlo'n anhygoel.

“Roedd yr athrawon mor gefnogol, ac mae’r ffaith y gallwch chi ei ffitio o amgylch eich bywyd yn wych. Dim ond un diwrnod yr wythnos oedd yn rhaid i ni fynd i’r coleg felly ro’n i’n gallu ei ffitio o amgylch bywyd teuluol a rhedeg fy musnes.”

Ysbrydolwyd Gemma i gymryd ei cham nesaf gan y darlithwyr Catrin Edwards, Sioned William a Lyndsey Edwards.

Meddai: “Doeddwn i ddim wedi bwriadu gwneud y cwrs TAR, ond fel rhan o’r radd busnes cawsom ein hannog i feddwl am yr hyn roedden ni am ei wneud nesaf, a sylweddolais fy mod yn mwynhau bod mewn addysg.

“Tra roedd Catrin, Sioned a Lyndsey yn fy nysgu ro’n i'n meddwl 'Mi fuaswn i'n mwynhau gwneud y swydd yma', ac fe wnaethon nhw fy ysbrydoli i fynd i ddysgu. Fe wnaeth eu hanogaeth nhw fy helpu'n fawr iawn.”

Felly ar ôl ennill ei gradd, symudodd Gemma ymlaen i'r cwrs TAR - a gwyddai ei bod wedi gwneud y penderfyniad cywir.

“Ro'n i wrth fy modd gyda’r cwrs TAR,” meddai. “Fy nhiwtoriaid, Delyth Williams a Catrin, mor gefnogol. Fe wnes i fwynhau dysgu am addysgu a deall egwyddorion addysgu, ac mae wedi rhoi boddhad mawr i mi.”

Ers hynny, mae Gemma wedi dysgu amrywiaeth o bynciau ar wahanol lefelau yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, gan ennill ystod eang o brofiad sydd wedi gwella ei CV.

Dywedodd: “Roedd y flwyddyn gyntaf o addysgu yn dipyn o her, ond wrth i mi ddatblygu mae’n dod yn haws.

“Fe wnes i ddysgu tipyn o fusnes pan ddechreuais. Y llynedd dysgais Fagloriaeth Cymru i’r myfyrwyr peirianneg, gan ddysgu sgiliau hanfodol, cyfathrebu, llythrennedd digidol a chyflogadwyedd. Dw i hefyd yn dysgu'r uned arweinyddiaeth a rheolaeth ar y radd Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

“Mae cael cymaint o brofiad o wahanol lefelau yn fy ychydig flynyddoedd cyntaf a chael gweithio gyda’r adrannau gwahanol wedi bod yn wych.”

Hoffech chi ddechrau ar yrfa werth chweil yn dysgu pobl ifanc ac oedolion? I gael rhagor o wybodaeth am gwrs TAR Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.

Pagination