Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Rheinallt i'w glywed ar donfeddi Môn FM

Mae Rheinallt Wyn Davies i'w glywed bob nos Sadwrn ar yr orsaf radio sy'n darlledu o Ynys Môn

Yn ddiweddar, enwyd aelod o staff Glynllifon, Rheinallt Davies, fel un o gyflwynwyr newydd Môn FM.

Mae Rheinallt, sy'n gynorthwyydd gweinyddol ar gampws Glynllifon, i'w glywed yn darlledu bob nos Sadwrn, ac yn chwarae amrywiaeth o gerddoriaeth Gymraeg a Saesneg.

Yma, mae'n sôn am ei sioe, pwysigrwydd radio Cymraeg, a sut mae myfyrwyr Glynllifon yn helpu i gadw ei gynnwys yn ddifyr.

Rwyt ti wedi cael dy gyhoeddi fel un o gyflwynwyr newydd Môn FM. Sut daeth hynny i fod?

Mi wnes i gwrdd â chadeirydd presennol yr orsaf yn ystod Eisteddfod CFfI nôl ym mis Tachwedd 2023. Mi ddaethon ni'n ffrindiau a digwydd bod mi es i i'w barti pen-blwydd yn 21 oed. Dydw i ddim wedi edrych yn ôl ers hynny - mae gwneud sioe radio yn rhywbeth ro'n i wastad eisiau rhoi cynnig arni. Mae'n rhaid bod gen i'r wyneb ar ei gyfer!

Alli di roi blas i ni o'r math o sioe rwyt ti'n ei chyflwyno?

Mae gan y sioe dipyn bach o bopeth – ychydig o sgwrsio a cherddoriaeth Gymraeg a Saesneg. Mae'r gerddoriaeth yn amrywio, ac at ddant pawb gobeithio. O'r 60au i'r newydd, ac yn ddwyieithog. Digon o fwydro a dim llawer o sylwedd!

Pa mor bwysig ydy radio cymunedol?

Mae'n andros o bwysig. Dim ond Radio Cymru ac S4C sy'n darlledu yn Gymraeg erbyn hyn - un o bob fformat yn y Gymraeg. Mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gadw’r Gymraeg yn fyw, boed hynny yn ein sgyrsiau o ddydd i ddydd neu dros y tonfeddi!

Pryd allwn ni diwnio i mewn?

Mae fy mhrif sioe ymlaen o 10pm-12am ar nos Sadwrn, ond dwi hefyd yn neidio i'r gadair yn Llangefni o bryd i’w gilydd yn ystod yr wythnos. Mae digonedd o ffyrdd i wrando - ar Monfm.co.uk, trwy seinydd clyfar, ap Môn FM, neu ar 96.8, 102.1 a 102.5 FM. Mae croeso i bawb ddilyn 'Rheinallt Davies ar MônFM' ac unrhyw dudalen MônFM yn gyffredinol i hybu'r tudalennau cymdeithasol.

Wyt ti'n meddwl y bydd gweithio yng Nglynllifon yn dy helpu yn y rôl hon?

Bydd, yn sicr. Mae bod o gwmpas rhai o'r bobl ifanc yn fy helpu i aros yn ifanc. Mae clywed am beth sy'n bwysig iddyn nhw, ac am beth sy'n ffasiynol ar hyn o bryd neu beidio â thueddiadau o ran cerddoriaeth, bob amser yn gynnwys defnyddiol i unrhyw sioe dwi'n ei chyflwyno.

Beth wyt ti'n mwynhau am weithio yng Nglynllifon?

Does dim dau ddiwrnod yr un peth - does 'na byth eiliad ddiflas yma yng Nglynllifon. Dwi'n rhan o griw ehangach o bobl sy’n gwneud Glynllifon nid yn unig yn lle gwych i weithio, ond hefyd yn goleg hynod lwyddiannus.

Campws diwydiannau'r tir, sy'n cynnwys cyfleusterau preswyl, yw Glynllifon. Saif ar Ystâd Glynllifon ger Caernarfon. Mae fferm Glynllifon yn 400 hectar, ac yn amgylchedd gwych ar gyfer astudio rheolaeth cefn gwlad ac amaethyddiaeth. I ddysgu rhagor am y cyrsiau sydd ar gael, cliciwch yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date