Rhun yn ennill gwobr genedlaethol am ansawdd mewn adeiladu
Mae Rhun Williams yn astudio am radd Rheoli ym maes Adeiladu a chafodd ei gydnabod yng Ngwobrau Balchder yn y Swydd 2023 y Cyngor Adeiladu Tai Cenedlaethol
Cafodd Rhun Williams, myfyriwr adeiladu o Goleg Llandrillo, ei gydnabod am ansawdd ei waith mewn seremoni wobrwyo genedlaethol.
Cyflwynwyd Gwobr Ansawdd Balchder yn y Swydd 2023 iddo yn seremoni Gwobrau Balchder yn y Swydd 2023 y Cyngor Adeiladu Tai Cenedlaethol yng Nghaerdydd.
Mae Rhun, o Gaernarfon, yn gweithio fel rheolwr safle i John Kelly Construction Services, ac yn astudio ar gyfer Gradd BSc (Anrh) mewn Rheoli ym maes Adeiladu gyda Choleg Llandrillo ar gampws Llandrillo-yn-Rhos.
Dyfarnwyd y wobr iddo am ei waith ar ddatblygiad tai Bro Eglwys yng Nghaernarfon.
Mae ei gamp yn fwy trawiadol fyth gan fod Rhun, cyn-chwaraewr rygbi gyda Gleision Caerdydd, wedi bod yn gweithio yn y diwydiant adeiladu ers llai na thair blynedd.
Mae Gwobrau Balchder yn y Swydd y Cyngor Adeiladu Tai Cenedlaethol wedi cael eu cynnal ers 43 mlynedd, ac maent yn gydnabyddiaeth haeddiannol i reolwyr safle eithriadol.
Dywedodd Alex Roebuck, tiwtor personol Rhun: “Rydym ni fel tîm yn eithriadol o falch o Rhun.
“Mae ei ddiwydrwydd a’i waith caled yn amlwg wedi talu ar ei ganfed, ac rydym yn falch ei fod wedi cael ei gydnabod yn ffurfiol. Da iawn."
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd John Kelly Construction Services: “Llongyfarchiadau i’n rheolwr safle Rhun Williams, sydd wedi derbyn Gwobr Ansawdd #NHBCPIJ 2023, yn deillio o'i waith yn ein datblygiad ym Mro Eglwys, Caernarfon. Ar ôl ymuno â’r diwydiant ddwy flynedd a hanner yn ôl yn unig, mae hwn yn gyflawniad gwych.
Mae John Kelly Construction wedi ymrwymo i gynhyrchu gwaith o safon. Hoffwn ddiolch i dîm JK yn ogystal â’n his-gontractwyr dawnus.”
Diddordeb mewn astudio Rheoli ym maes Adeiladu yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Dysga ragor am ein cyrsiau yma.