Corey a Rhys yn cael cyfle i ddisgleirio
Mae'r ddau fyfyriwr o Goleg Llandrillo yn meithrin arbenigedd mewn peirianneg fanwl gyda chwmni Continental Diamond Tool
Mae Rhys Butler, myfyriwr o Goleg Llandrillo, yn ennill profiad ym myd peirianneg fanwl gyda chwmni rhyngwladol Continental Diamond Tool.
Yn rhan o'i gwrs BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy mae Rhys yn treulio un pnawn yr wythnos yn astudio Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur yng nghanolfan beirianneg newydd y coleg yn y Rhyl.
Mae hefyd yn treulio diwrnod yr wythnos ar brofiad gwaith gyda Continental Diamond Tool (CDT). Dyma gwmni sy'n cyflenwi rhannau soffistigedig ar gyfer peiriannau cynhyrchu Rolls-Royce a chwmnïau awyrofod eraill yn y Deyrnas Unedig.
Ysgrifennodd Rhys at CDT ar ôl darllen erthygl am y cwmni, sydd â chanolfan ar Stad Ddiwydiannol Tir Llwyd ym Mae Cinmel lle mae'n byw.
Dywedodd: “Gwelais y stori oedd yn dweud bod y cwmni wedi cael ei brynu gan gwmni Americanaidd a chan fy mod yn chwilio am brofiad gwaith ar gyfer fy CV, anfonais gais atynt mewn e-bost. Mi ddaethon nhw'n ôl ata i'n syth bin.
Lluniau gan Mandy Jones Photography
“Maen nhw wedi rhoi rhaglen wyth wythnos i mi felly dw i’n mynd i mewn un diwrnod yr wythnos. Rydw i’n mynd drwy’r gwahanol brosesau maen nhw’n eu gwneud ac maen nhw’n esbonio sut mae popeth yn gweithio.”
Mae CDT yn cynhyrchu pob math o offer diemwnt arbenigol iawn ar gyfer diwydiannau gweithgynhyrchu uwch, gan gynnwys y sectorau awyrofod, modurol, meddygol a lled-ddargludyddion.
Mae'n un o ddim ond dau gwmni o'i fath yn y Deyrnas Unedig, yn cyflogi 40 o staff crefftus ac yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeugain oed eleni.
Ychwanegodd Rhys: “Un dydd Mercher ges i gyfle i weithio ar y broses o roi'r diemyntau yn yr offer. Mae wedi bod yn gyfle gwych.
“Rydw i wastad wedi bod â diddordeb mewn ceir a sut mae peiriannau’n gweithio. Rydw i'n gwneud peirianneg yn y chweched dosbarth ac yn mynd i gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl bob dydd Iau, sy’n ddefnyddiol iawn.”
Mae Rhys yn aml yn gweithio gyda Corey Jones, prentis ail flwyddyn sy’n dilyn y cwrs HNC mewn Peirianneg Gyffredinol yng Ngholeg Llandrillo yn y Rhyl.
O Fae Cinmel y daw Corey hefyd ac mae yntau wedi cwblhau cwrs Lefel 3 mewn Peirianneg yn y coleg, ac fel Rhys wedi cael mynd ar brofiad gwaith i CDT.
Dywedodd Corey: “Ar ôl gwneud fy nghyrsiau Lefel A yn Ysgol Uwchradd Eirias ym Mae Colwyn mi wnes i ddilyn y cwrs Lefel 3 mewn Peirianneg yng Ngholeg Llandrillo a chael profiad gwaith yma. Wedyn mi wnaethon nhw gynnig prentisiaeth i mi.
“Roedden nhw eisiau i mi ddod i arfer efo'r gwaith felly mi wnes i weithio yma trwy'r gwyliau haf a dechrau fy mhrentisiaeth Lefel 4 mewn Peirianneg ym mis Medi.
“Roeddwn i’n gwybod bod yna lawer o fathemateg mewn peirianneg ac roeddwn i wastad wedi mwynhau hynny. Rydw i'n hoffi herio fy hun drwy ddysgu am y gwahanol beiriannau ac wrth fy modd yma.
“Coleg Llandrillo awgrymodd CDT ar ôl i mi roi cynnig ar sawl lle arall, a dydw i'n difaru dim.
“Mae pawb yma'n wych ac yn gwybod llawer. Mae ganddyn nhw lawer o brofiad ac rydw i wedi dysgu drwy weithio gyda nhw. Rydw i'n gweithio gyda rhywun sydd â phrofiad ar bob peiriant ac mae o'n help mawr i mi.
“Rydyn ni’n gweithio i fusnesau fel Rolls-Royce, felly rydw i eisiau gwneud fy ngorau glas a datblygu gyrfa dda yma.”
Dywedodd Michaela Lawton, Rheolwr Cyllid CDT: “Rydyn ni wedi bod yn cynnal cynllun prentisiaeth llwyddiannus yma ers cryn amser. Yn wir, mae dau o’r prentisiaid a symudodd ymlaen ar ôl ychydig flynyddoedd wedi dod yn ôl aton ni erbyn hyn.
“Mae gennym ni berthynas dda iawn gyda Choleg Llandrillo ac mae’n help mawr bod ganddyn nhw adran beirianneg gref ac offer o'r radd flaenaf ar eu campws yn y Rhyl.
“Mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud yma'n unigryw ac arbenigol iawn, felly rydyn ni'n disgwyl i’n prentisiaid ddysgu’r sgiliau craidd yn y coleg er mwyn cael sylfaen ar gyfer y gwaith hynod fanwl rydyn ni'n ei wneud yma.”
Mae CDT wedi cael hwb yn sgil buddsoddiad o £1.6m gan ei berchnogion Americanaidd. Gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, mae'r cwmni wedi agor ail uned gynhyrchu ar Stad Tir Llwyd ar gyfer ei weithrediadau electroplatio newydd.
Mae mwy na 60 y cant o gynhyrchion y cwmni yn cael eu hallforio i 30 o wledydd, gyda gwerthiant yn tyfu'n arbennig o gryf ar draws Ewrop ac Asia, yn ogystal â Gogledd America.
Consort Precision Diamond oedd enw'r cwmni'n wreiddiol ac yn 2018 cafodd ei brynu a'i ail-frandio gan Continental Diamond Tool, sydd wedi'i leoli yn New Haven, Indiana.
Agorodd Canolfan Beirianneg Coleg Llandrillo ar gampws y Rhyl ym mis Tachwedd 2023 ac mae'n werth £13m. Mae’n cynnig profiadau dysgu gwerth chweil ym maes peirianneg – o roboteg a pheiriannau prototeipio cyflym i beiriannau torri metel diwydiannol a reolir gan gyfrifiaduron.
Mae'n ganolfan yn gyfleuster tri llawr o’r radd flaenaf sy’n ymestyn dros 3000m² ac yn cynnwys ystod gynhwysfawr o offer hyfforddi arbenigol iawn.
Mae’n cynnwys cyfleusterau hyfforddi ym maes technoleg ynni adnewyddadwy gan gynnwys neuadd ar raddfa ddiwydiannol i wasanaethu a chynnal a chadw tyrbinau gwynt mewn partneriaeth â chwmni ynni rhyngwladol RWE.
Agorwyd Canolfan Beirianneg y Rhyl yn swyddogol gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn Chwefror 2024.
Hoffech chi ddysgu rhagor am y cyffro sydd ynghlwm â pheirianneg yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cewch ragor o wybodaeth am ein cyrsiau yma.