Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Rhys yn ennill Gwobr Addysg Ascential Ymddiriedolaeth y Tywysog

Wrth iddo dderbyn ei wobr, cafodd y myfyriwr o Goleg Llandrillo gwrdd â’r Brenin Siarl a’i holi ar y llwyfan gan Ant a Dec

Mae Rhys Morris, sy'n fyfyriwr yng Ngholeg Llandrillo, wedi ennill Gwobr Addysg Ascential Ymddiriedolaeth y Tywysog.

Cyflwynwyd y wobr i Rhys mewn seremoni yn Llundain, a chafodd gyfle hefyd i gwrdd â'r Brenin Siarl mewn derbyniad arbennig ym Mhalas Buckingham.

Mae Gwobr Addysg Ascential Ymddiriedolaeth y Tywysog yn cydnabod pobl ifanc sydd wedi goresgyn rhwystrau ac wedi datblygu sgiliau newydd i wella eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol trwy ail ymgysylltu ag addysg.

Enillodd Rhys y clod ar ôl gweddnewid ei fywyd gyda chymorth Ymddiriedolaeth y Tywysog a Cherrig Milltir, Uned Cyfeirio Disgyblion sydd wedi'i lleoli yn Ysgol Plas Cefndy yn y Rhyl.

Bellach, mae'r bachgen 16 mlwydd oed o Abergele yn astudio cwrs Lefel 3 mewn Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl, wrth iddo weithio tuag at wireddu ei uchelgais o ymuno â'r heddlu.

Mae’n sefyll yn yr etholiad i fod yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn y coleg, yn gobeithio cael ei ethol i Senedd Ieuenctid Cymru yn ddiweddarach eleni, a hefyd yn gwirfoddoli gyda Heddlu Gogledd Cymru fel Llysgennad Ifanc, gan helpu i gryfhau’r berthynas rhwng yr heddlu a phobl ifanc.

“Dw i wastad wedi bod eisiau ymuno â'r heddlu,” meddai Rhys. “Y peth mwyaf y mae Ymddiriedolaeth y Tywysog wedi’i wneud i mi yw fy helpu i sylweddoli bod gwella fy hyder a fy hunan-barch yn allweddol i’r uchelgais hwnnw.”

Pan oedd yn 12 mlwydd oed, cafodd Rhys drafferth gyda gorbryder ac roedd yr ysgol yn anodd iddo. Cafodd ei gyfeirio at Gerrig Milltir a rhaglen Cyflawni Ymddiriedolaeth y Tywysog, a fu'n gymorth iddo ddatblygu ei sgiliau cymdeithasol, a'i sgiliau arwain a gwaith tîm.

Galluogodd y rhaglen i Rhys wthio'i ffiniau wrth iddo gwblhau ei gymwysterau TGAU a thystysgrif Ymddiriedolaeth y Tywysog cyn cael lle yn y coleg.

Yn gynharach eleni, enillodd wobr Addysg Cymru Ymddiriedolaeth y Tywysog. Yna fe'i gwahoddwyd i seremoni orlawn yn y Theatre Royal yn Llundain i dderbyn cydnabyddiaeth ledled y Deyrnas Unedig gyda Gwobr Addysg Ascential Ymddiriedolaeth y Tywysog.

Cyflwynodd yr actor Martin Freeman a'r ddarlledwraig Penny Lancaster ei wobr iddo, cyn iddo gael ei holi gan Ant a Dec am y rhaglen Cyflawni a’i uchelgais o ymuno â’r Heddlu.

“Roedd Ant a Dec yn gefnogol iawn,” meddai Rhys. “Fe ddaethon nhw â’r enillwyr at ei gilydd cyn y seremoni, gan roi croeso cynnes i ni a dweud wrthon ni beth i’w ddisgwyl. Roedden nhw’n glên iawn – rydyn ni’n dueddol o edmygu pobl enwog, ond dim ond pobl ydyn nhw fel pawb arall.”

Dywedodd Rhys fod y seremoni yn “heriol”, gan fod yn rhaid iddo roi araith o flaen 1,700 o bobl – “Rhywbeth na fyddwn i erioed wedi gallu ei wneud dwy neu dair blynedd yn ôl.”

Sgwrsiodd Rhys â’r Brenin hefyd, sef sylfaenydd Ymddiriedolaeth y Tywysog sy’n helpu pobl ifanc ddifreintiedig drwy gynnig grantiau ariannol, cyrsiau hyfforddi, a mentora.

“Roedd honno’n foment drawiadol iawn,” meddai Rhys. “Roedd siarad â'i Fawrhydi yn fendigedig. Mae'n ŵr addfwyn iawn, a gallwch ddweud wrth sgwrsio ag ef am ychydig funudau’n unig ei fod wedi ymroi'n llwyr i waith yr Ymddiriedolaeth.

“Roedd bod yn y palas yn teimlo’n bersonol ac yn arbennig iawn - yn rhyfeddol ac yn emosiynol.”

Mae Rhys yn mwynhau astudio yng Ngholeg Llandrillo, a chanmolodd ei diwtor personol, Cara Baker, am ei ysbrydoli i ddal ati i gyflawni.

Dywedodd: “Pan ddechreuais yn y coleg roeddwn i'n eithaf nerfus, doeddwn i dal ddim yn wych am gymdeithasu - ond mae bod yn y coleg wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau cymdeithasol a fy hyder.

“Mae Cara, fy nhiwtor personol, wedi bod yn help aruthrol i mi. Dw i’n aml yn gweithio gyda hi ar arolygon yn fy rôl fel Llysgennad Ifanc yr Heddlu, ac mae hi wedi fy annog i sefyll yn yr etholiadau i fod yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr ac yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru.

“Ar ôl datblygu fy sgiliau cymdeithasol, dw i’n teimlo fel defnyddio’r sgiliau hynny i helpu pobl eraill drwy gyfleu eu safbwyntiau.”

Felly pa gyngor sydd gan Rhys i bobl ifanc eraill?

“Mae yna gyfleoedd allan yna,” meddai. “Gwthiwch eich hun, manteisiwch ar y cyfleoedd pan maent yn codi a bydd yn gwella eich bywyd.

“Dw i’n gwybod nad fi yw’r unig un sy’n cael trafferth - fe wnaeth llawer o bobl yn ystod Covid. Mae ennill y wobr hon yn dangos na ddylech byth roi'r ffidil yn y to. Dysgodd Ymddiriedolaeth y Tywysog i mi y gallwch chi gyflawni unrhyw beth os byddwch chi'n penderfynu arno."

Ydych chi eisiau gweithio i'r Heddlu, y Lluoedd Arfog, y Gwasanaeth Tân neu wasanaethau cymunedol eraill? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Heddlu a Gwasanaethau Cyhoeddus Grŵp Llandrillo Menai