Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Glynllifon yn treialu tractor sy'n gyrru ei hun

Mewn partneriaeth ag AMRC Cymru mae Coleg Glynllifon yn profi'r AgBot sy'n dractor arloesol cwbl awtonomaidd

Yr haf hwn mae Coleg Glynllifon yn gweithio mewn partneriaeth ag AMRC Cymru i dreialu’r tractor cwbl awtonomaidd cyntaf sydd ar gael yn fasnachol yn y Deyrnas Unedig.

Yn ddiweddar, rhoddwyd yr AgBot, tractor gwerth £380,000 sy'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i yrru ei hun, ar brawf i dorri gwair ar gyfer silwair ar gae Tyn Rhos ar fferm Coleg Glynllifon.

Cafodd ei gymharu â thractor Fendt traddodiadol oedd yn cael ei lywio gan dechnoleg GPS, a'i gymharu hefyd â'r un tractor gyda'r GPS wedi'i ddiffodd.

Roedd yr arbrawf yn cymharu’r tractorau wrth eu gwaith ar ddarnau o dir oedd yn union yr un fath gan roi sylw i effeithlonrwydd amser, effeithlonrwydd tanwydd a chywirdeb. Y bwriad oedd asesu sut y gellir cymhwyso’r dechnoleg i ffermio glaswelltir mewn tirweddau unigryw fel Cymru.

Lluniau: Advanced Manufacturing Research Centre Cymru

Bydd treialon pellach yn cael eu cynnal yn ystod yr haf pan brofir yr AgBot eto yn erbyn yr un tractor Fendt wrth iddynt droi'r tir yng nghae Tyddyn Gwian Uchaf yng Ngholeg Glynllifon.

Bydd AMRC Cymru, sy'n rhan o Brifysgol Sheffield, yn llunio adroddiad ar y canfyddiadau i'w rannu â'r diwydiant ffermio.

Y gobaith yw y bydd y treialon yn dangos sut y gall technolegau newydd fel yr AgBot fod o fudd i amaethyddiaeth ar laswelltir Cymru, ac ymhlith y manteision posibl mae effeithlonrwydd tanwydd a'r gallu i ryddhau gweithwyr fferm i ganolbwyntio ar dasgau eraill.

Esboniodd Martin Jardine, Cyfarwyddwr Bwyd-Amaeth Grŵp Llandrillo Menai: “Roedd yn ddiddorol iawn cael bod yn rhan o'r treial diweddar hwn yng Ngholeg Glynllifon. Roedd yn wych gweld y tîm yn rhoi'r AgBot ar waith ar y fferm yn torri gwair ar gyfer silwair.

“Rydw i'n edrych ymlaen at weld beth fydd casgliadau'r rhaglen ymchwil unigryw hon a gwybod sut roedd y cerbyd awtonomaidd yn cymharu â'r tractor traddodiadol oedd yn cael ei yrru. Bydd yn ddiddorol gweld sut maen nhw'n cymharu o ran cyflymder, cywirdeb ac effeithlonrwydd.

“Yng Ngholeg Glynllifon mae gennym wybodaeth amaethyddol ymarferol sy'n ategu arbenigedd AMRC Cymru ym maes technoleg newydd. Rydym yn gyffrous i barhau i gydweithio ag AMRC Cymru wrth i ni geisio canfod enillion effeithlonrwydd posibl i economi amaethyddol Cymru o ran effeithlonrwydd, cynhyrchiant a chynaliadwyedd.”

Dywedodd Alex Lewis, Arweinydd Peirianneg Gweithgynhyrchu yn AMRC Cymru, bod Coleg Glynllifon yn lleoliad delfrydol i gynnal y treialon oherwydd bod gan staff ar y campws gymaint o wybodaeth ym maes diwydiannau'r tir.

Dywedodd: “Holl bwrpas y treialon yw deall cyfyngiadau a manteision posibl defnyddio technoleg awtonomaidd mewn amaethyddiaeth.

“Yn AMRC mae gennym y cefndir technolegol a’r ddealltwriaeth o awtomeiddio i asesu technolegau fel yr AgBot. Mae gan Goleg Glynllifon ddealltwriaeth a gwybodaeth ymarferol o ffermio – felly mae ein partneriaeth yn hollbwysig er mwyn gallu profi systemau awtonomaidd fel yr AgBot mewn lleoliadau gwaith go iawn.

“Mae'r AgBot yn cael ei ddefnyddio'n fasnachol ar dir âr ledled y byd, ond hyd y gwyddom nid yw ei ddefnyddio ar laswelltir wedi cael ystyriaeth hyd yma.

“Un o'r prif bethau mae AMRC yn ei wneud yw lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â thechnolegau newydd. Yn sgil y treialon hyn gall ffermwyr wneud penderfyniadau mwy gwybodus ynghylch a ydyn nhw am ddefnyddio technoleg o’r fath, un ai'n awr neu wrth i bethau ddatblygu yn y dyfodol.

“Mae hyn hefyd yn ein rhoi mewn sefyllfa wych i gefnogi datblygiad datrysiadau technolegol pellach er budd defnyddwyr.”

Y tractor traddodiadol sy'n cael ei ddefnyddio yn y treialon yw'r Fendt 516, sy'n defnyddio'r un injan disel â'r AgBot. Emyr Evans a'i Gwmni, cyflenwr peiriannau amaethyddol wedi’i leoli yn Ninbych a Gaerwen, sydd wedi darparu'r tractor Fendt ar gyfer y treialon.

Dywedodd Gwynedd Evans, cyfarwyddwr Emyr Evans a’i Gwmni, fod y cwmni'n gyffrous i fod yn rhan o dreialu'r dechnoleg ffermio ddiweddaraf.

Meddai: “Daeth y coleg atom ni am fod y robot a'r tractor Fendt yn defnyddio'r un injan, felly'n naturiol roedd defnyddio un o'n tractorau ni yn dda ar gyfer cymharu.

“Mae’n rhywbeth cyffrous, newydd a chwbl wahanol, ac roedden ni'n awyddus iawn i fod yn rhan o'r prosiect.

“Bydd yn ddiddorol gweld beth fydd canlyniad y treialon. Dw i'n gobeithio mai'r tractor fydd yn perfformio orau! Ond mae'n rhaid i ni groesawu technoleg newydd. Mae'r tractor sydd gennym ni'n awr yn cynnwys llawer o dechnoleg – mae'n gywir iawn ac rydw i'n gobeithio y bydd hi'n agos iawn rhwng y ddau.”

Mae’r AgBot wedi cael ei brynu gan AMRC Cymru, ar ôl cael ei ddatblygu gan gwmni technoleg amaethyddol AgXeed. Cafodd ei ariannu trwy grant prynu cyfalaf o £1.5m gan Lywodraeth Cymru i AMRC Cymru.

Ariennir AMRC Cymru gan Lywodraeth Cymru ac mae wedi'i leoli mewn canolfan ymchwil gymhwysol gwerth £20m ym Mrychdyn, Sir y Fflint. Fe'i rheolir gan Brifysgol Sheffield ac mae’n aelod o’r High Value Manufacturing Catapult, consortiwm o ganolfannau ymchwil blaenllaw ym maes gweithgynhyrchu a phrosesu a gefnogir gan Innovate UK.

Bydd Pennaeth Bwyd, Diod ac Amaeth-dechnoleg AMRC Cymru, Andrew Martin, yn siarad am yr AgBot yn Sioe Frenhinol Cymru. Testun y sgwrs fydd 'Amaethyddiaeth – Heriau Technoleg y Genhedlaeth Nesaf' a bydd yn cael ei chynnal yn y Pentref Garddwriaethol ddydd Llun, 22 Gorffennaf am 11am.

Campws diwydiannau'r tir, sy'n cynnwys cyfleusterau preswyl, yw Coleg Glynllifon. Saif ar Ystâd Glynllifon ger Caernarfon. Mae fferm Glynllifon, gan gynnwys y coetir, yn 300 hectar, ac yn amgylchedd gwych ar gyfer astudio rheolaeth cefn gwlad, amaethyddiaeth, gofal anifeiliaid, coedwigaeth a pheirianneg amaethyddol.

Hoffech chi gael gyrfa ym maes amaethyddiaeth neu goedwigaeth? Mae Coleg Glynllifon yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, gan gynnwys Amaethyddiaeth (Lefel 3)a Diploma Estynedig Technegol Uwch mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth (Lefel 3). I ddysgu rhagor am y cyrsiau sydd ar gael, cliciwch yma

Pagination