Corau Sara yn codi £850 i WaterAid
Mae’r darlithydd o Goleg Llandrillo yn gyfarwyddwr cerddorol ar ddau gôr a ddaeth at ei gilydd yn ddiweddar i gynnal cyngerdd elusennol ac sydd wedi codi dros £10,000 yn y blynyddoedd diwethaf
Helpodd Sara Brown, sy’n ddarlithydd yng Ngholeg Llandrillo, i godi mwy na £850 i WaterAid gyda chyngerdd corawl.
Sara yw cyfarwyddwr cerddorol Côr Cymunedol Bangor a chôr Coastal Voices o Abergele.
Cynhaliodd y ddau gôr gyngerdd ar y cyd yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig Llandrillo-yn-Rhos i ddathlu 20 mlynedd o Coastal Voices, a sefydlwyd gan Sara yn 2004.
Aeth yr elw o werthu tocynnau, gwerthu lluniaeth a rhoddion i WaterAid, sy'n ceisio dod â'r argyfwng dŵr, glanweithdra a hylendid byd-eang i ben. Gallwch gyfrannu drwy'r dudalen JustGiving yma.
Mae Sara a'i chorau wedi bod yn codi arian i WaterAid ers 2006, ar ôl cymryd rhan ym mhrosiect 'Sing for Water' yr elusen.
Yn y cyfnod hwnnw maent wedi codi dros £10,000 i helpu’r 771 miliwn o bobl ledled y byd nad oes ganddynt ddŵr glân yn agos at eu cartrefi, a bron i 1.7 biliwn nad oes ganddynt doiled addas.
Yn ôl WaterAid, mae mwy na 300,000 o blant dan bump oed yn marw bob blwyddyn o afiechydon a achosir gan ddiffyg dŵr glân a glanweithdra. Mae hynny'n fwy na 800 y dydd, neu un plentyn bob dau funud.
Meddai Sara: “Dw i’n falch bod ein hymdrechion yn codi arian hanfodol i WaterAid a’u gweledigaeth o fyd lle mae gan bawb fynediad at ddŵr glân, toiledau addas a hylendid da.
“Mae hi’n 2024 – pam nad oes gan bawb fynediad at ddŵr glân a diogel, toiledau diogel, a sebon i olchi eu dwylo?”
Dechreuodd Sara Coastal Voices ar ôl darganfod ei hangerdd am ganu yn ôl yn 2000.
Meddai: “Pan es i i fy ngweithdy canu cyntaf, roeddwn fel Alys yn y Wlad Hud - wedi cael hyd i ddrws i fyd nad oeddwn yn gwybod ei fod yn bodoli. Daliais ati i ganu ac yn y pendraw dechreuais roi gwersi canu hefyd.
“Rydyn ni’n canu harmonïau digyfeiliant, gan gynnwys caneuon yn y Gymraeg, cyfansoddiadau modern ar gyfer Acappella’n benodol, cerddoriaeth o Affrica, Dwyrain Ewrop - gan gynnwys cân o'r Wcráin - felly mae’n gymysgedd eclectig, gyda rhywbeth at ddant pawb.”
Mae’r corau’n perfformio nifer o gyngherddau bob blwyddyn, ac wedi codi arian at elusennau yn cynnwys Amnest Rhyngwladol a Banc Bwyd Bangor yn ogystal â WaterAid. Maent hefyd yn perfformio yng Ngardd Bodnant ar 29 Mehefin ac Eglwys Sant Tysilio ym Mhorthaethwy ar 6 Gorffennaf.
Mae Sara yn Arweinydd Rhaglen Mynediad i Addysg Uwch yng Ngholeg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos. Mae hi'n darlithio mewn Dyniaethau, Gwyddorau Cymdeithasol a Gofal Iechyd ym maes Mynediad i AU.
Meddai: “Dw i’n lwcus iawn, dw i wrth fy modd gyda fy swydd. Mae'r cwrs Mynediad i Addysg Uwch yn gwrs sy'n newid bywydau, gan agor drysau i'r brifysgol, cyflogau gwell a mwy o foddhad mewn swyddi."
I fyfyrwyr nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol ond a hoffai fynd ymlaen i astudio ar lefel prifysgol, mae cwrs Mynediad i Addysg Uwch yn ddull cyffrous a deinamig o ddysgu. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, neu yma i wneud cais.