Ethol Neli i Senedd Ieuenctid Cymru
Mae Neli Rhys sy'n fyfyrwraig Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn edrych ymlaen at helpu i wneud Cymru'n wlad well i bobl ifanc
Mae Neli Rhys o Goleg Meirion-Dwyfor wedi ei hethol yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.
Mae Neli o Lanwnda ger Caernarfon yn astudio Lefel A mewn Drama, Cymraeg a'r Gyfraith yn ogystal â Chymhwyster Bagloriaeth Cymru ar gampws Pwllheli.
Bydd yn cynrychioli Dwyfor Meirionydd yn Senedd Ieuenctid Cymru, a sefydlwyd i sicrhau y clywir lleisiau pobl ifanc gan wneuthurwyr penderfyniadau'r wlad.
Dywedodd Neli: "Rydw i'n teimlo'n wirioneddol gyffrous oherwydd mae'n broses ddiddorol iawn sy'n caniatáu i leisiau pobl ifanc gael eu clywed. Mae'n gyffrous dros ben ein bod ni'n gallu helpu i newid pethau yn ein gwlad.
"Dyna'r prif nod, sef ein bod ni'n creu gwlad well i bobl ifanc."
Bwriodd pobl ifanc ar draws Cymru eu pleidlais i ethol 60 Aelod newydd i Senedd Ieuenctid Cymru, o blith dros 450 ymgeisydd.
Sefydlwyd Senedd Ieuenctid Cymru wedi i'r Senedd arwyddo'r Siarter Ymgysylltu ag Ieuenctid, sy'n nodi ei hymrwymiad i wrando ar bobl ifanc, eu parchu a gweithredu ar sail safbwyntiau pobl ifanc o bob cwr o Gymru.
Bwriad Neli yw cynnal sesiynau i roi cyfle i bobl ifanc leisio'u barn ar y materion sy'n bwysig iddynt fel ei bod hi'n gallu eu cynrychioli yn y Senedd Ieuenctid.
Bydd yn cyfarfod ei chyd-aelodau o ogledd Cymru am y tro cyntaf yn Llandudno ar 25 Ionawr, cyn bod yr holl aelodau'n teithio i Gaerdydd ar 21 Chwefror ar gyfer eisteddiad cyntaf y Senedd newydd yn y Siambr.
Yno byddant yn penderfynu ar y tri phrif fater y bwriadant weithio arnynt gyda'r Senedd dros y tair blynedd nesaf.
Mae Neli eisiau gweld rhagor o gefnogaeth i bobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl, a gwelliannau yn y systemau addysg a gofal maeth.
"Gan ein bod yn darparu gofal maeth yn ein cartref ni, rydw i'n gyfarwydd iawn â llawer o'r heriau y mae plant sy'n cael eu maethu'n eu hwynebu," meddai.
Dywedodd Bethan Lloyd Owen Hughes, Rheolwr Maes Rhaglen Addysg Gyffredinol, Coleg Meirion-Dwyfor: "Roedd yn wych clywed bod Neli wedi ei dewis i gynrychioli Gogledd Cymru ar Senedd Ieuenctid Cymru.
"Fel coleg, rydyn ni'n annog ein myfyrwyr i geisio ymestyn eu diddordebau y tu hwnt i waith academaidd yn unig, felly roeddwn wrth fy modd i dderbyn y newyddion am lwyddiant Neli.
"Mae'r Senedd Ieuenctid yn fforwm pwysig iawn yng Nghymru, ac yn gyfle i bobl ifanc leisio eu barn a ffurfio polisïau ar gyfer dyfodol ein gwlad.
"Rydw i'n sicr y bydd Neli yn aelod gweithgar a chydwybodol o'r Senedd a bod ganddi ddyfodol llwyddiannus iawn o'i blaen yn y byd cyhoeddus yng Nghymru."
Mae Neli yn gobeithio bod yn seicolegydd clinigol neu therapydd galwedigaethol ac mae hi wedi mwynhau ei hamser yn y coleg hyd yma.
Dywedodd: "Rydw i'n teimlo bod y coleg yn lle hyblyg iawn - ac maen nhw'n gwneud cymaint yma dros bobl ifanc. Rydw i'n mwynhau fy holl bynciau ac mae gen i berthynas dda gyda'r athrawon. Rydw i wedi gweld ochr wahanol i addysg ers dod i'r coleg."