Canlyniadau cystadleuaeth sgiliau ynni adnewyddadwy rhanbarthol gyntaf y Deyrnas Unedig ar gampws y Rhyl ar y ffordd!
Canolfan beirianneg newydd gwerth £13m Coleg Llandrillo oedd lleoliad digwyddiad cyntaf Cystadleuaeth Sgiliau Cymru mewn ynni adnewyddadwy, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yr wythnos hon
Yn ddiweddar, cynhaliwyd cystadleuaeth sgiliau ynni adnewyddadwy rhanbarthol gyntaf erioed y Deyrnas Unedig ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl, ac mae'r canlyniadau i'w cyhoeddi'r wythnos hon.
Bu 10 o ddysgwyr o Ogledd Cymru a chwech o Dde Cymru yn cystadlu yn y digwyddiad arloesol sy’n rhan o Gystadleuaeth Sgiliau Cymru, gan danlinellu ymrwymiad Cymru i feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ynni adnewyddadwy.
Roedd y gystadleuaeth yn garreg filltir arwyddocaol wrth baratoi dysgwyr at y posibilrwydd o gynrychioli’r Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth ryngwladol WorldSkills. Cafodd ei noddi gan gwmni ynni adnewyddadwy RWE, a ddarparodd yr holl offer ar gyfer y tasgau ymarferol.
Rhannwyd y gystadleuaeth yn ddwy rownd derfynol ranbarthol – un yng Ngogledd Cymru, yng nghanolfan beirianneg newydd £13m Coleg Llandrillo, a’r llall yn Ne Cymru.
Arron Peel, darlithydd peirianneg yng Ngholeg Llandrillo, oedd yn arwain, a fo ddyluniodd yr asesiadau heriol i brofi sgiliau a gwybodaeth y dysgwyr yn drylwyr.
Dywedodd Arron: “Rydym yn hynod falch o fod wedi cynnal y gystadleuaeth arloesol hon ar gampws y Rhyl fel rhan o Gystadleuaeth Sgiliau Cymru. Roedd brwdfrydedd a dawn y myfyrwyr yn wirioneddol ysbrydoledig.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i RWE am eu nawdd hael a’u darpariaeth o offer, a oedd yn hanfodol i wneud y digwyddiad hwn yn llwyddiant. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd buddsoddi mewn addysg ynni adnewyddadwy a rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i ffynnu yn y sector hwn sy’n tyfu’n gyflym.”
Mae RWE, mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai, wedi gosod cyfleuster hyfforddi ynni adnewyddadwy yng nghanolfan beirianneg newydd Coleg Llandrillo, a agorodd yn swyddogol y llynedd. Mae RWE ar flaen y gad ym maes ynni adnewyddadwy, ac mae’n buddsoddi biliynau ledled y byd mewn prosiectau yn ymwneud ag ynni gwynt ar y môr ac ar y tir, ynni solar, technolegau storio, cynhyrchu hyblyg a hydrogen.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn y gweithdy gwasanaethu tyrbinau gwynt, sydd ar raddfa ddiwydiannol, yn y ganolfan beirianneg ar gampws y Rhyl. Roedd yn canolbwyntio ar osod paneli ffotofoltäig a chysylltu'r gwifrau, aliniad siafft a gwybodaeth adnewyddadwy gyffredinol. Gwerthuswyd y cyfranogwyr ar eu galluoedd ymarferol, eu sgiliau datrys problemau, a'u dealltwriaeth o theori systemau ynni adnewyddadwy.
Ychwanegodd Arron: “Mae’r gystadleuaeth hon, dan ymbarél Ysbrydoli Sgiliau Cymru, a chyda chefnogaeth werthfawr RWE, yn hanfodol ar gyfer datblygu llif o weithwyr proffesiynol medrus a all ysgogi’r newid i ddyfodol o ynni cynaliadwy.
"Mae Cymru yn arwain yn y maes hwn, ac rydym yn hyderus y bydd ein dysgwyr yn perfformio'n dda ar lefel carfan genedlaethol y Deyrnas Unedig."
Chris Turnbull, rheolwr tîm WorldSkills UK Renewable Squad, oedd beirniad y digwyddiad.
Dywedodd: “Roedd safon y cystadleuwyr yn eithriadol o uchel. Dangosodd yr unigolion ifanc hyn frwdfrydedd gwirioneddol dros ynni adnewyddadwy a gafael gadarn ar y sgiliau technegol angenrheidiol. Mae cystadlaethau fel hyn yn hanfodol ar gyfer darganfod a meithrin y dalent sydd ei hangen arnom i greu dyfodol cynaliadwy.”
Bydd enillwyr rowndiau terfynol rhanbarthol ynni adnewyddadwy yn cael eu cyhoeddi yn seremoni wobrwyo Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ddydd Iau, Mawrth 13. Bydd y seremoni ar gael i'w gwylio ar-lein yma.
Bydd yn cynnwys gwobrau mewn mwy na 50 o ddisgyblaethau sgiliau gwahanol mewn amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys busnes, adeiladu, digidol, peirianneg, iechyd a gofal cymdeithasol, lletygarwch a mwy.
Cynhaliodd campysau a lleoliadau Grŵp Llandrillo Menai gystadlaethau 23 o'r disgyblaethau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni - y nifer mwyaf erioed i gael eu cynnal gan un grŵp coleg.
Bydd llawer o'r cystadleuwyr o'r gwahanol ddisgyblaethau yn mynd ymlaen i gynrychioli eu coleg yn WorldSkills UK, gan gystadlu am leoedd yn y rowndiau terfynol cenedlaethol ym mis Tachwedd. Bydd y cystadleuwyr sy'n perfformio orau yn rowndiau terfynol y Deyrnas Unedig yn cael eu dewis ar gyfer y sgwadiau hyfforddi cenedlaethol cystadlaethau rhyngwladol WorldSkills a gynhelir bob dwy flynedd. Mae'r rhain yn cael eu hadnabod fel 'Gemau Olympaidd Sgiliau'.
Eisiau dysgu rhagor am fyd cyffrous peirianneg gyda Grŵp Llandrillo Menai? Dysga ragor am ein cyrsiau yma.