Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Addysg Oedolion yn Arwain at Ddyfodol Mwy Disglair i Shahidah

Mae gan ddysgwr rhan-amser o Goleg Menai ddyfodol addawol o'i blaen wedi iddi gael cefnogaeth a chyfleoedd gwerthfawr yn ystod ei hamser yn y coleg.

Yn 2021, symudodd Shahidah Shanaz o India i'r Deyrnas Unedig ac mae ei phenderfyniad i lwyddo wedi talu ar ei ganfed iddi. Dechreuodd ei thaith ar gampws Coleg Menai ym Mangor lle cofrestrodd ar un o raglenni ESOL Potensial. Ymhen dim o dro roedd hi wedi cwblhau cyrsiau Lefel 1 a 2 mewn darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando.

Gan ei bod yn awyddus i wella ei chyfleoedd o gael gwaith ymhellach, ym mis Medi 2023 cymerodd Shahidah gam arall ymlaen trwy ymuno â rhaglen 'Cyflwyniad i fod yn Gynorthwyydd Addysgu' Potensial. Bwriad y cwrs yw gwella cyflogadwyedd a hyder a rhoddodd iddi hefyd sgiliau hanfodol ym maes llythrennedd digidol a chyfathrebu. Yn ystod y rhaglen, treuliodd Shahidah dair wythnos ar brofiad gwaith mewn ysgol leol, gan gael profiad ymarferol gwerthfawr.

Yn sicr, mae ei gwaith caled a'i brwdfrydedd wedi dwyn ffrwyth. Bellach mae Shahidah wedi cael cynnig gweithio'n wirfoddol yn Ysgol Ein Harglwyddes am 2 ddiwrnod yr wythnos am 12 mis tra bydd yn cael cefnogaeth tîm Dysgu Seiliedig ar Waith Busnes@LlandrilloMenai i astudio ar gyfer cymhwyster QCF/Lefel 2 mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu.

Dyma oedd gan ddarlithydd Shahidah, Louise Howe i'w ddweud,

“Nid yn unig mae Shahidah yn datblygu ei sgiliau proffesiynol ond mae hi hefyd yn dysgu Cymraeg, sef ei phedwaredd iaith ar ôl Wrdw, Hindi, a'r Saesneg. Mae ei hymrwymiad i fod yn rhan o'r gymuned leol i'w ganmol ac ar ôl iddi gwblhau ei hastudiaethau, gobaith Shahidah yw cael swydd lawn amser mewn ysgol leol.”

“Mae stori Shahidah yn brawf o fudd dysgu gydol oes, ac yn dangos sut y gall addysg ar unrhyw adeg mewn bywyd fod yn gatalydd ar gyfer twf personol, datblygiad proffesiynol, a dyfodol mwy disglair. Da iawn ti, Shahidah!”

“Mae addysg oedolion wedi agor llawer o ddrysau i mi,” meddai Shahidah. “Rydw i'n teimlo'n fwy hyderus a galluog nag erioed, ac yn gyffrous am fy nyfodol fel cynorthwyydd addysgu.”

Dywedodd Aimee Jones, Pennaeth Ysgol Ein Harglwyddes, Bangor,

“Mae brwdfrydedd ac ymroddiad Shahidah i'w rôl yn ein hysgol yn rhagorol. Nid yn unig mae hi'n darparu cefnogaeth ardderchog i’r athrawon dosbarth a’r plant, ond mae hi hefyd yn gallu ysgogi ei hun ac mae'n weithiwr caled. Mae hi wedi dod yn aelod gwerthfawr o’n teulu yn yr ysgol. Mae Shahida yn dangos diddordeb mewn dysgu am addysgeg a'r cwricwlwm i Gymru, ac mae'n mynychu cyfarfodydd y mae hi’n teimlo y gallent fod o fudd i’w datblygiad fel cynorthwyydd addysgu, yn wirfoddol . Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn i’w chael hi yn rhan o’r tîm!”

I gael rhagor o wybodaeth am raglenni addysg oedolion Potensial a sut y gallan nhw eich helpu yn eich gyrfa, ewch i gllm.ac.uk/potensial