Cyflwyniad arbennig i griw myfyrwyr Peirianneg 2023
Roedd y cyflwyniad traddodiadol yn achlysur teimladwy wrth i Beirianneg symud o gampws Llandrillo-yn-Rhos Coleg Llandrillo i ganolfan ragoriaeth newydd yn y Rhyl
Cafwyd cyflwyniad arbennig i’r myfyrwyr Peirianneg diweddaraf i gwblhau eu hastudiaethau yng Ngholeg Llandrillo.
Dechreuwyd addysgu'r pwnc yng nghanolfan beirianneg o’r radd flaenaf y coleg yn y Rhyl erbyn hyn – sy’n golygu mai myfyrwyr 2023 fydd y garfan olaf i orffen eu cyrsiau ar gampws Llandrillo-yn-Rhos.
Felly roedd y cyflwyniad traddodiadol yn arbennig o deimladwy, gan ei fod yn nodi'r newid i gyfnod newydd yn y coleg.
I nodi’r achlysur, cyflwynwyd tystysgrif cwblhau'r cwrs a phecyn tŵls peirianneg llawn i 48 o ddysgwyr Perfformio Gweithrediadau Peirianneg Lefel 2, Diploma Cyntaf mewn Peirianneg Lefel 1/Lefel 2 a Diploma Sylfaen Cenedlaethol mewn Peirianneg Lefel 3.
Roedd mwyafrif y dysgwyr hefyd wedi cwblhau'r rhaglen Peirianneg Uwch, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gyflawni 45 diwrnod o brofiad gwaith.
Dywedodd Nigel Birch, cydlynydd Cwricwlwm Peirianneg BTEC yn y coleg: “Llongyfarchiadau i bob un o’r dysgwyr llwyddiannus hyn. Gobeithiwn y gwnânt yn dda iawn gyda'u gyrfaoedd yn y dyfodol.
“Rydym nawr yn edrych ymlaen at weld y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr peirianneg yn cwblhau eu cyrsiau yn llwyddiannus yma yn y Rhyl yn haf 2024.”
Addysgwyd peirianneg drydanol, peirianneg fecanyddol a pheirianneg cyffredinol yn Llandrillo-yn-Rhos ers agor y coleg yn 1965 gan Ddug Caeredin. Yn ystod bron i chwe degawd ers hynny, mae miloedd wedi dysgu eu sgiliau yno cyn mynd ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus a llawn boddhad yn y diwydiant.
Bydd y gwaddol hwnnw'n parhau yn awr yn y ganolfan ragoriaeth newydd ar gampws y Rhyl, a fydd yn darparu addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau sy’n cefnogi anghenion y diwydiant yn y dyfodol.
Mae'r cyfleuster tri llawr newydd yn 2,886m² ac yn cynnwys gwerth dros £2m o'r offer hyfforddi arbenigol diweddaraf - o ystafelloedd dylunio gyda chymorth cyfrifiaduron i beiriannau prototeipio 3D a pheiriannau torri metel diwydiannol mawr a reolir gan gyfrifiaduron.
Bydd hefyd yn cynnwys Sefydliad Technoleg Ynni Adnewyddadwy newydd, mewn partneriaeth â RWE Renewables, a fydd yn cynnwys ardal ddeulawr i wasanaethu a chynnal a chadw tyrbinau gwynt ar raddfa ddiwydiannol.
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Peirianneg Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma. Bydd digwyddiadau agored yn cael eu cynnal ledled campysau Grŵp Llandrillo Menai yn ystod mis Tachwedd. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.