Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Stephanie ar frig y don ym maes diwydiant ynni gwyrdd

Dilynodd y cyn-fyfyriwr o Goleg Menai a Choleg Llandrillo gwrs Peirianneg Forol ac yna cwrs Teithio a Thwristiaeth, ac mae bellach yn hyfforddi i fod yn swyddog ar long sy’n cefnogi gwaith ffermydd gwynt

Mae Stephanie, cyn-fyfyriwr o'r coleg, yn chwarae ei rhan yn y diwydiant ynni adnewyddadwy ac yn hyfforddi i fod yn swyddog ar long.

Dilynodd y cyn-fyfyriwr 21 oed o Gaergybi gwrs Peirianneg Forol Lefel 2 ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, cyn symud ymlaen i ddilyn cwrs Teithio a Thwristiaeth, Lefel 3 ar gampws Coleg Menai ym Mangor.

Mae hi bellach ym mlwyddyn olaf ei Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Gwyddor Forol ym Mhrifysgol Solent yn Southampton, ac ar fin cwblhau pum mis ar y môr fel rhan o’i chwrs.

Dros yr wythnosau diwethaf mae Stephanie wedi bod ar fwrdd y llong Purus Horizon, llong 81 metr o hyd sy’n gweithio ar ffermydd gwynt oddi ar arfordir yr Iseldiroedd. Mae'r llong yn cefnogi gwaith ffermydd gwynt ar y môr ar draws Ewrop trwy sicrhau mynediad diogel at eneraduron tyrbinau gwynt sylfaen sefydlog a rhai sy'n arnofio er mwyn gwneud gwaith adeiladu a chynnal a chadw.

Dywedodd: “Cyn dechrau gweithio yn y diwydiant gwynt ar y môr, doeddwn i ddim yn gwybod llawer amdano. Roeddwn i’n gallu gweld fferm wynt Gwynt y Môr oddi ar arfordir Gogledd Cymru ond doeddwn i ddim yn gwybod mwy na hynny amdano. Ond rŵan dw i'n gweithio yma ac wedi dysgu rhagor, am faint o ynni y gall rhai o'r ffermydd gwynt hyn ei greu.

"Un o'r ffermydd gwynt eraill dw i wedi gweithio arni ydy Burbo Bank y tu allan i Lerpwl. Gall pob un o’r 32 tyrbin gwynt gynhyrchu 8MW o ynni bob dydd, sef cyfanswm o 256MW y dydd, sy’n ddigon i bweru miloedd o gartrefi.”

Dyma’r tro cyntaf i Stephanie weithio ar long fawr, ar ôl hwylio ar nifer o longau trosglwyddo criw llai ar y moroedd o amgylch Gwlad Belg, yr Alban ac Ynys Manaw.

“Rydw i wedi bod ar y môr ers 30 Mai ar amrywiaeth o longau bach 30m,” meddai. “Ond ychydig wythnosau yn ôl cefais y cyfle o’r diwedd i ymuno â llong fwy, Purus Horizon.

"Mae’n brofiad gwahanol iawn ac yn brofiad anhygoel. Mae llawer mwy o griw a chleientiaid ar fwrdd y llong.

"Yn ystod fy nghyfnod ar fwrdd y llong, dw i wedi bod yn cynorthwyo’r trydydd swyddog gyda’i dasgau dyddiol, sy’n cynnwys gwirio’r offer diffodd tân ym mhob rhan o’r llong, dyletswyddau gwyliadwriaeth a chynorthwyo gydag unrhyw waith papur y mae’n rhaid i ni ei gwblhau.

"Un o uchafbwyntiau fy amser ar y môr hyd yn hyn ydy cwblhau fy 'push-on' cyntaf pan oeddwn ar y llongau trosglwyddo criw llai. Yn y bôn, mae hyn yn golygu gosod y llong ar dyrbin yn ddiogel fel y gallwn drosglwyddo'r technegwyr i'r tyrbin.

"Ond yr uchafbwynt ar y llong fwy oedd llywio’r llong am y tro cyntaf, gan ei bod yn wahanol i long trosglwyddo criw.

"Yn wahanol i'r cychod llai, mae'r rheolyddion wedi eu gwrthdroi, felly i lywio i'r dde rydych chi'n eu troi i'r chwith, ac i'r gwrthwyneb. Mae hynny'n anodd ar y dechrau ond rydych chi'n dod i arfer â hynny. Mae hefyd yn llong llawer mwy i'w reoli."

Dynion ydy'r mwyafrif o weithwyr yn y diwydiant, ac mae Steph yn un o ddim ond dwy sy'n aelod o'r criw ar fwrdd ei llong bresennol - sefyllfa sydd yn gyffredin iawn iddi.

Pan ofynnwyd iddi a oes ganddi unrhyw gyngor i ferched ifanc sy’n ystyried gyrfa yn y diwydiant morwrol, dywedodd: “Peidiwch â bod ofn profi eich hun, o ofyn cwestiynau, neu dynnu sylw at bethau.

"Roedd gen i ofn tynnu sylw at bethau neu ofyn cwestiynau ar y dechrau rhag ofn fy mod yn anghywir neu’n swnio’n wirion, ond dyna’r ffordd orau i ddysgu. Cofiwch, gallwch chi fod yr un mor dda, neu'n well na unrhyw un arall sydd ar fwrdd y llong."

Bydd Steph yn dychwelyd i'r lan ddiwedd mis Hydref, yn barod i orffen ei chadetiaeth a chymhwyso fel Swyddog Gwarchod yr Wylfa.

“Ar ôl i mi orffen y cwrs y flwyddyn nesaf, dw i'n gobeithio cwblhau Cwrs Lleoli Deinamig er mwyn dychwelyd i’r llong hon a gweithio fel swyddog,” meddai. “Hoffwn i barhau i weithio o fewn y diwydiant gwynt ar y môr. Dw i wrth fy modd yn gweithio yma, a dysgu popeth am y tyrbinau gwynt a sut mae popeth yn gweithio. Mae mor ddiddorol."

Ychwanegodd Steph: “Hoffwn aros ar y llong hon neu barhau i weithio gyda'r cwmni. Y gobaith yn y dyfodol ydy cymhwyso fel capten a rheoli fy llong fy hun.”

Hoffech chi weithio yn y diwydiant morwrol? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai ym maes Technoleg Forwrol, neu ar gyfer cyrsiau Teithio a Thwristiaeth, cliciwch yma.