Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn dathlu canlyniadau rhagorol yng Ngrŵp Llandrillo Menai

Unwaith eto eleni mae dysgwyr yng Ngholeg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor yn dathlu wedi iddynt dderbyn canlyniadau rhagorol yn eu harholiadau Safon Uwch a'u cyrsiau galwedigaethol.

Mae'r cyfraddau llwyddo yng Ngrŵp Llandrillo Menai wedi codi 2% ers y llynedd i 99%. Llwyddodd 77.3% o'r dysgwyr i gael graddau A* i C (cynnydd o 3% ers 2023), gyda 23% yn cael y graddau uchaf posibl sef A* ac A (yr un fath â 2023).

Enillodd 17% o'r dysgwyr galwedigaeth y graddau uchaf posibl sef Rhagoriaeth neu Ragoriaeth*, a chafodd 290 raddau Teilyngdod, Rhagoriaeth neu Ragoriaeth*.

Llwyddodd 64 o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai, mwy nag erioed o'r blaen, i ennill y graddau angenrheidiol i fynd i brifysgolion Grŵp Russell, a bydd un yn mynd i Brifysgol Rhydychen. Mae chwech o fyfyrwyr hefyd wedi ennill y graddau i astudio Meddygaeth, sef y nifer uchaf erioed yn hanes y Grŵp.

Mae cyfradd dysgwyr y Grŵp a lwyddodd i gael graddau rhwng A* ac C yn eu harholiadau Safon Uwch yn uwch na chymaryddion cenedlaethol Cymru a'r Deyrnas Unedig a bydd hyn yn eu galluogi i fynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion blaenllaw ledled Prydain, gan gynnwys: King's College Llundain, Prifysgol Lerpwl, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caeredin, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Bangor. Bydd eraill yn dewis parhau â'u Haddysg Uwch ar un o gyrsiau gradd Grŵp Llandrillo Menai.

Derbyniwyd dysgwyr i astudio pynciau amrywiol, gan gynnwys Deintyddiaeth, Biocemeg, Seicoleg, Llenyddiaeth Saesneg, Peirianneg, y Gyfraith a Throseddeg, Ffiseg, Nyrsio, a Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Cafodd Olivia Boyd A* mewn Bioleg, Cemeg, a Mathemateg, ac A mewn Mathemateg Bellach UG. Cyn derbyn ei chanlyniadau roedd hi eisoes wedi cael cynnig diamod ac ysgoloriaeth i astudio Biocemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd:

“Rydw i wedi mwynhau fy nghyrsiau Lefel A yn y coleg yn fawr. Rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd, ac roedd y darlithwyr yn gefnogol iawn. Mae dod i'r coleg wedi fy ngwneud i'n fwy hyderus ac annibynnol – diolch i bob un o'm darlithwyr am eu cefnogaeth.”

Cafodd Olaf Niechcial o Dremadog A* mewn Mathemateg a Mathemateg Bellach ac A mewn Cyfrifiadureg a Ffiseg.

Dywedodd Olaf:

“Mae'r coleg wedi fy helpu i gyrraedd fy mhotensial. Diolch i gefnogaeth y staff a'r tiwtoriaid rydw i ar fy ffordd i Rydychen!

“Mae'r coleg yn lle anhygoel i astudio. Mae'r adnoddau gyda'r gorau yn y wlad, ac mae'r staff mor gefnogol. Diolch i chi am bopeth.”

Ar ôl cael A* mewn Ffiseg, Bioleg a Mathemateg bydd Owen Lewis, a ddilynodd ei gyrsiau ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl, yn mynd i Brifysgol Lerpwl fis Medi i astudio Meddygaeth.

Dywedodd:

“Fedra i ddim diolch digon i staff y coleg am y profiadau gwych a ges i'n astudio yma. Roedd fy narlithwyr mor uchelgeisiol ar fy rhan ac yn fy annog i wneud fy ngorau glas. Mi fydda i'n ddiolchgar iddyn nhw am byth.”

Cafodd Gwenllian Jones o Nefyn A* mewn Bioleg ac A mewn Cemeg a Ffiseg. Mae ei lle ym Mhrifysgol Bryste i astudio Biocemeg wedi cael ei gadarnhau.

Dywedodd: "Mi wnes i fwynhau astudio gwyddoniaeth yng Ngholeg Meirion-Dwyfor. Roedd brwdfrydedd fy narlithwyr dros eu pynciau’n amlwg ac roedd eu gwersi'n ddiddorol iawn.

Mae'r labordai'n fodern ac mi wnaeth y gwaith ymarferol roedden ni'n ei wneud ynddynt danio fy niddordeb mewn Biocemeg.”

Ar ôl cael graddau A mewn Seicoleg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, a Bagloriaeth Cymru yng Ngholeg Menai mae Charley Lewis o Gaergybi wedi sicrhau lle i astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl.

Dywedodd:

“Mae fy ngraddau a safon fy ngwaith yng Ngholeg Menai o gymharu â'r ysgol yn llawer gwell ac yn dangos pa mor dda ydi'r darlithwyr.

“Cefais lawer o brofiadau da wrth astudio yng Ngholeg Menai, gan gynnwys taith wych i Lundain.

“Mae'r holl staff yn gefnogol iawn ac yn fwy na pharod i helpu pan fo angen. Mae'n amlwg bod y staff yn frwd dros y pynciau maen nhw'n eu dysgu a'u bod yn awyddus i'r myfyrwyr lwyddo.”

Mae Rose Hobdell ar ei ffordd i astudio Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Northumbria ar ôl cael A* mewn Celf a Dylunio Graffig, A mewn Llenyddiaeth Saesneg a B mewn Iaith Saesneg.

Dywedodd:

“Roedd y coleg a’r tiwtoriaid yn gefnogol iawn, ac roedd y profiad yn wahanol iawn i TGAU. Diolch i fy holl ddarlithwyr!”

Dyma ddywedodd Dylan Alford, a enillodd dair gradd rhagoriaeth seren yn ei Ddiploma Lefel 3 mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff: “Roedd y tiwtoriaid yn barod iawn i helpu, ac roedd dilyn y cwrs a bod yn rhan o'r academi rygbi'n gweithio'n dda. Mi helpodd fi i wneud yn dda iawn ar y cwrs a gwella fy sgiliau rygbi ymhellach. Mi wnes i fwynhau fy amser yn y coleg. Mae'n lle cyfeillgar ac rydw i'n edrych ymlaen at y dyfodol rŵan ac yn gobeithio cyflawni mwy ym myd rygbi.”

Cafodd Llinos Evans o Goleg Menai dair gradd Rhagoriaeth* mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. ⁠Mae ei graddau tan gamp wedi ennill lle iddi astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl.

Dywedodd:

“Rydw i'n hapus iawn gyda'r canlyniadau ges i heddiw. Allwn i ddim bod wedi gwneud hyn heb gymorth fy nhiwtoriaid, yn enwedig Gareth Griffiths, fy nghyd-fyfyrwyr, a'm teulu. Diolch i chi i gyd am fy helpu i gyflawni hyn.”

Meddai Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:

“Rydyn ni wrth ein bodd yn dathlu llwyddiant ein dysgwyr, sydd unwaith eto wedi cael graddau Lefel A rhagorol. Mae ein dysgwyr galwedigaethol wedi cael graddau ardderchog hefyd, ac mae llawer o'r dysgwyr hyn wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.

“Mae'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni yng Ngrŵp Llandrillo Menai yn agor drysau i gyfleoedd newydd, boed hynny'n brifysgol, prentisiaeth neu gyflogaeth, ac yn gosod sylfaen ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus a gwerth chweil.

“Mae'r llwyddiant yma'n dysteb i ymroddiad a gwaith caled ein dysgwyr a'n staff, ac i gefnogaeth gadarn rhieni a gwarcheidwaid. Llongyfarchiadau calonnog i bawb a diolch yn fawr iawn i chi.

“Rydyn ni'n hynod falch o'n dysgwyr a dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw i gyd yn y dyfodol.”

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan lwyddiant ein dysgwyr ac yn awyddus i wella eich dyfodol drwy ddechrau cwrs yn y coleg, cysylltwch â ni i sicrhau eich lle.

01492 546 666 am Goleg Llandrillo, 01341 422827 am Goleg Meirion-Dwyfor, a 01248 383348 am Goleg Menai.

gllm.ac.uk

Pagination