Cyhoeddi gwaith ysgrifennu creadigol y myfyrwyr
Lansiwyd llyfryn newydd yn cynnwys gwaith 50 o fyfyrwyr Dysgu Gydol Oes yn y llyfrgell ar gampws Coleg Menai ym Mangor
Mae darnau ysgrifennu creadigol y dysgwyr o Goleg Menai wedi cael eu cyhoeddi mewn llyfryn newydd.
Mae'r llyfryn yn arddangos gwaith 50 o fyfyrwyr sydd ar gyrsiau Dysgu Gydol Oes, gan gynnwys y cwrs Ysgrifennu Creadigol, cwrs Llythrennedd a'r cwrs Cyflwyniad i Fod yn Gynorthwyydd Addysgu.
Cafodd ei lansio yn y llyfrgell ar gampws Bangor, lle bu myfyrwyr yn darllen eu cerddi, straeon plant, ffuglen fflach, cofiannau a mwy.
Dywedodd un fyfyrwraig, Michelle Payne, fod y cwrs ysgrifennu creadigol wedi gwella ei sgiliau a'i hyder.
Disgrifiodd y tiwtor ysgrifennu creadigol Eabhan Ní Suileabháin fel “athrawes wych”, gan ychwanegu: “Dw i’n mwynhau’r dosbarth yn fawr iawn, dw i’n edrych ymlaen ato bob wythnos ac mae’n rhoi rhywbeth i mi ganolbwyntio arno wrth ysgrifennu. Mae'n fy ysbrydoli a fy helpu i gael gwared ar rwystrau i ysgrifennu
“Mae’r dosbarth wedi fy helpu i wella fy sgiliau ysgrifennu, yn ogystal â sgiliau eraill y gallwn eu defnyddio mewn bywyd a gwaith. Mae gweld pobl yn mwynhau fy ngwaith wedi rhoi hwb mawr i fy hyder yn fy ngallu.”
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y fyfyrwraig Mair Wynn Hughes, sy'n 92 mlwydd oed, ei nofel ddiweddaraf sef Y Bocs Erstalwm.
Mae Mair wedi ysgrifennu 114 o lyfrau i blant, pobl ifanc ac oedolion ac wedi ennill gwobrau niferus. Cafodd ei hysbrydoli i ysgrifennu ei llyfr newydd cyntaf ers 2008 ar ôl ymuno â'r dosbarth ysgrifennu creadigol yn Llangefni tua phum mlynedd yn ôl.
Dywedodd Mair: “Mae’n gwrs gwerth chweil, creadigol iawn – addysgiadol iawn, ond yn anad dim mae’n bleser, gydag Eabhan wrth y llyw.”
Mae’r llyfryn ysgrifennu creadigol gan yr adran Dysgu Gydol Oes ar gael rŵan ar gampysau Caergybi, Bangor a Chaernarfon.
Yn ei chyflwyniad i’r llyfryn, dywedodd Eabhan: “Mae’r llyfryn hwn yn dod a darn neu ddau o waith gan bob un o’r myfyrwyr ysgrifennu creadigol/llythrennedd ar draws campysau Coleg Menai eleni at ei gilydd.
“Fel un o diwtoriaid ysgrifennu creadigol/llythrennedd y Grŵp, dw i’n cael fy synnu'n gyson gan safon eithriadol ac amrywiaeth y gweithiau y mae’r myfyrwyr yn ei gynhyrchu.
“Yn aml dw i'n dysgu cymaint os nad mwy na'r myfyrwyr yn fy nosbarthiadau, oherwydd dw i’n cael clywed yr holl straeon a cherddi gwych, rhai ohonynt yn seiliedig ar brofiadau bywyd unigryw.
“Mae’n bleser pur ac yn anrhydedd i gael bod yn rhan o’u teithiau dysgu. Dw i'n cael fy niddanu’n bob wythnos pan fydd y myfyrwyr yn darllen eu gwaith, darnau hyfryd, adfyfyriol, weithiau’n ddigrif a bob amser yn llawn dychymyg.
“Mae’r llyfryn hwn yn rhannu – ac yn dathlu – y gweithiau y mae’r myfyrwyr wedi’i ysgrifennu drwy gydol y flwyddyn hon gyda chynulleidfa ehangach. Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser crynhoi’r cyfansoddiadau yn y llyfryn hwn yn ogystal ag annog yr awduron a bod y cyntaf i ddarllen y gweithiau hyn.
“Bydd copi ar gael am gyfnod byr yn nerbynfa campysau Caergybi, Bangor a Chaernarfon. Mae gen i gopi digidol hefyd ar gyfer unrhyw un a hoffai gael un. Mi fyddwch chi'n bendant yn mwynhau ei ddarllen!”
‘Potensial’ yw'r enw newydd ar y ddarpariaeth dysgu gydol oes yng Ngrŵp Llandrillo Menai. I gael rhagor o wybodaeth am yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael, cliciwch yma.