Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn trafod materion diogelwch cymunedol gydag Uchel Siryf Clwyd

Daeth Karen Farrell-Thornley i gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl i gwrdd â dysgwyr sy'n paratoi ar gyfer gyrfa ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus

Daeth Uchel Siryf Clwyd, Karen Farrell-Thornley, i gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl i drafod diogelwch cymunedol gyda myfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus.

Siaradodd yr Uchel Siryf â dysgwyr sy'n dilyn y cwrs Paratoi i Weithio yn y Gwasanaethau Cyhoeddus, Lefel 2 a ⁠chwrs Lefel 3 mewn Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol, gan rannu ei phrofiad o'i thaith ei hun.

Wrth edrych yn ôl ar ei magwraeth ar stad cyngor, rhannodd Karen sut y gwnaeth ei gwaith cymunedol a’i gwaith chodi arian ei harwain i’w rôl bresennol.

Yn hanesyddol, roedd Uchel Siryfion yn cynrychioli'r Frenhines mewn materion cyfraith a threfn. Heddiw, fodd bynnag, mae'r rôl wedi esblygu i roi pwyslais ar hyrwyddo gwaith gwirfoddol, gan ganolbwyntio ar feysydd fel lleihau trosedd a meithrin cydlyniant cymdeithasol.

Siaradodd y myfyrwyr â’r Uchel Siryf am eu gwaith gwirfoddol mewn gwahanol feysydd fel sgowtio, elusennau, cadetiaid y fyddin a chadetiaid heddlu.

Yn ogystal â hyn, cyflwynodd y myfyrwyr ganfyddiadau gwaith ymchwil a gynhaliwyd fel rhan o'u cwrs, yn trafod ffyrdd arloesol o wella diogelwch cymunedol. Roedd eu gwaith yn cynnwys mentrau fel addysg diogelwch ffyrdd mewn ysgolion cynradd.

Yn ystod y sesiwn holi ac ateb a'r drafodaeth a ddilynodd yn ei sgil, rhoddodd Uchel Siryf gryn sylw i arwyddocâd gwaith cymunedol y myfyrwyr, a’r y gostyngiad mewn troseddu yn y Rhyl dros y flwyddyn ddiwethaf.

Siaradodd dysgwyr hefyd am eu cais buddugol i’r Op Bang Challenge, cystadleuaeth Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gyda’r nod o amlygu materion diogelwch cymunedol yn ystod cyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt. Enillodd myfyrwyr £500 tuag at daith ar ôl gwneud fideo TikTok i godi ymwybyddiaeth o beryglon tân gwyllt.

Yn ystod ei hymweliad â champws y Rhyl cafodd yr Uchel Siryf gyfle i gyfarfod â Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo; Sam McIlvogue, Pennaeth Cynorthwyol; Amy Thomson, Rheolwr Maes Rhaglen Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus; a Cara Baker, darlithydd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus.

Dywedodd yr Uchel Siryf Karen Farrell-Thornley: “Roeddwn wrth fy modd i gwrdd â’r myfyrwyr a’r staff ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl.

Rhoddodd y dysgwyr gyflwyniadau diddorol iawn, ac roedd yn braf gweld eu brwdfrydedd dros faterion cymunedol o ganlyniad i'w gwaith coleg, eu profiadau gwirfoddoli a gweithgareddau eraill.

Roedd pawb yn awyddus i ddysgu rhagor am rôl yr Uchel Siryf, ac mi wnes i fwynhau egluro’r cyfrifoldebau a chael trafodaethau diddorol gyda phobl ifanc wedi ymroi i'w cymunedau.”

Dywedodd y Pennaeth Cynorthwyol Sam McIlvogue: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Uchel Siryf, Karen Farrell-Thornley, am ei hymweliad â champws Coleg Llandrillo yn y Rhyl. Rhoddodd gipolwg hynod ddiddorol ar ei rôl ac at bwysigrwydd gyfraniad dysgwyr at eu cymunedau trwy gynlluniau gwirfoddoli a chadetiaid.”

Dywedodd Paul Flanagan, Pennaeth: “Yng Ngholeg Llandrillo, rydym wedi ymrwymo i arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau angenrheidiol i ffynnu yn y byd modern. Agwedd hanfodol ar hyn ydy sefydlu gwerthoedd ac ymddygiadau sy'n gwella diogelwch a lles y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae ein myfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus a Gwasanaethau Amddiffyn â Gwisg Swyddogol eisoes yn cael effaith sylweddol, ac rydym yn ymfalchïo yn eu cyfraniadau yn y gymuned.”

Ydych chi eisiau gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus/amddiffyn â gwisg swyddogol? Mae cyrsiau Grŵp Llandrillo Menai wedi'u cynllunio i'ch paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y Lluoedd Arfog, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, y Gwasanaeth Carchardai a sefydliadau cymunedol a gwasanaethau brys eraill. Cewch wybod rhagor yma

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date