Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn bwrw ymlaen â'u hymchwil ar ôl ymweld â DMM

Disgyblion ysgol yn astudio carabiners y gwneuthurwr o Lanberis fel rhan o'u cwrs Peirianneg Lefel 2 yng Ngholeg Meirion-Dwyfor

Yn ddiweddar, aeth disgyblion ysgol sy’n astudio ar Gwrs Peirianneg Cyffredinol BTEC Lefel 2 yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ar ymweliad i DMM yn Llanberis.

Mae’r myfyrwyr o Ysgol Botwnnog ac Ysgol Ardudwy yn edrych ar garabiners amrywiol a wnaed gan y gwneuthurwr offer dringo fel rhan o’u cwrs ar gampws Hafan y Coleg ym Mhwllheli.

Mae DMM yn gwmni gweithgynhyrchu lleol sydd wedi’i leoli yn ardal gweithgareddau awyr agored Llanberis ac sydd wedi hen ennill ei blwyf gyda mwy na 40 mlynedd yn cynhyrchu offer dringo a diogelwch ar gyfer eu cleientiaid hamdden a phroffesiynol.

Croesawyd y myfyrwyr i DMM gan y rheolwr ansawdd peirianneg Cemlyn Jones a’r cyfarwyddwr marchnata Chris Rowlands, a aeth â nhw ar daith o amgylch y ffatri.

Dywedodd y darlithydd peirianneg Dylan Griffiths: “Mae’r grŵp yn astudio carabiners amrywiol a wnaed gan DMM fel rhan o’u modiwl, Archwilio Cynnyrch Peirianneg.

“Cawsant gyflwyniad trylwyr a diddorol i’r cwmni, a’u cynnyrch, a thaith addysgiadol yn dangos yr holl brosesau gweithgynhyrchu sydd ynghlwm â'r broses o wneud carabiner o ddylunio i weithgynhyrchu, archwilio a phrofi.

“Mae’r dysgwyr bellach yn ôl yn yr ystafell ddosbarth yn cymhwyso’r wybodaeth a gawsant i gwblhau pedwar aseiniad yn ymchwilio ac yn adrodd ar agweddau manyleb, dylunio, gweithgynhyrchu ac ansawdd eu carabiner DMM dewisol.

“Diolch yn fawr i Chris, Cemlyn a’r tîm yn DMM am wneud yr ymweliad hwn yn bosib, ac edrychwn ymlaen at ddychwelyd eto yn gynnar ym mis Ionawr gydag Ysgol Glan y Môr ac Eifionydd.”

Mae’r adran beirianneg ar gampws Hafan wedi ehangu ei darpariaeth ar gyfer ysgolion lleol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan greu dosbarth ychwanegol ar gyfer Gwneud Gwaith Peirianneg Lefel 1 a Dyfarniad Cyntaf BTEC Lefel 2 mewn Peirianneg.

Am un prynhawn bob wythnos, mae campws Hafan yn croesawu myfyrwyr o Ysgol Glan y Môr ym Mhwllheli, Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog, Ysgol Botwnnog ac Ysgol Ardudwy yn Harlech.

Mae Blwyddyn 10 yn astudio ar gampws Hafan ar brynhawn dydd Mercher, gan ddilyn dau fodiwl, Ymchwilio i Gynnyrch Peirianyddol a'r Byd Peirianneg.

Mae myfyrwyr Blwyddyn 11 yn dod i gampws Hafan ar brynhawn dydd Mawrth ar gyfer eu modiwlau ail flwyddyn, Cynnal a Chadw Peirianneg a Pheirianneg gyda Chymorth Cyfrifiadur.

Peirianneg gyda Chymorth Cyfrifiadur yw un o'r modiwlau fwyaf newydd a mwyaf diddorol sydd wedi'i ychwanegu at y portffolio addysgu. Mae myfyrwyr yn defnyddio eu sgiliau dylunio gyda chymorth cyfrifiadur i ddylunio a gweithgynhyrchu ceir rasio F1, ac yn cystadlu yng nghystadleuaeth ranbarthol F1 mewn Ysgolion Gogledd Cymru ym mis Chwefror bob blwyddyn.

Meddai'r darlithydd peirianneg Emlyn Evans, Arweinydd Rhaglen y ddarpariaeth ysgolion 14-16 ym Mhwllheli: “Ers i mi ymuno â’r tîm yma ym Mhwllheli, rydyn ni wedi ceisio datblygu’r cwrs i wella ymgysylltiad ein myfyrwyr â pheirianneg, gan ganiatáu iddynt ddatblygu sgiliau ymarferol i gyd-fynd ag agweddau damcaniaethol peirianneg.

“Mae cystadleuaeth F1 mewn Ysgolion yn bendant wedi ein galluogi i wella ymgysylltiad ein myfyrwyr i arddangos eu sgiliau dylunio, datblygu a gweithio mewn tîm.

“Mae twf ein darpariaeth a chymryd rhan yng nghystadleuaeth F1 mewn Ysgolion wedi bod yn gam cadarnhaol tuag at baratoi ein myfyrwyr ar gyfer y byd peirianneg go iawn.

“Mae’r myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y dosbarth mynediad wedi mynd ymlaen i’r dosbarth datblygu pan ddônt i astudio peirianneg yn llawn amser ar y cwrs BTEC Lefel 3, ac eleni mae ein tîm datblygu o’r llynedd yn cystadlu yng nghystadleuaeth y dosbarth proffesiynol.”

  • Os hoffech wybod mwy am astudio Peirianneg Gyffredinol ar Gampws Hafan Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli, cysylltwch ag Emlyn Evans drwy e-bost (evans12e@gllm.ac.uk). Mae'r Coleg yn cynnig cymwysterau Lefel 2 a 3 mewn Peirianneg Gyffredinol ym Mhwllheli a chymwysterau Lefelau 2, 3 a 4 (HNC) ar ei gampws yn Nolgellau.

Eisiau dysgu rhagor am fyd cyffrous peirianneg gyda Grŵp Llandrillo Menai? Dysga ragor am ein cyrsiau yma.