Myfyrwyr yn cael cipolwg ar weithio gyda dementia
Dywedodd dysgwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Coleg Meirion-Dwyfor fod ymweliad y tri gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn 'agoriad llygad'
Yn ddiweddar, rhoddodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n cefnogi pobl â dementia gipolwg ar eu gyrfaoedd i fyfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor.
Aeth Megan Smith, nyrs seiciatrig gymunedol, Bernie Fahy sy'n therapydd galwedigaethol a'r gweithiwr cymorth, Gareth Edwards i ymweld â dysgwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 4 campws Dolgellau.
Mae'r tri yn gweithio yn uned Meirion, Ysbyty Dolgellau. Mae Megan a Bernie hefyd yn gweithio yn y gymuned, tra bod Gareth yn weithiwr banc i’r bwrdd iechyd felly wedi cael profiad o weithio mewn lleoliadau gwahanol.
Buont yn siarad â myfyrwyr am eu taith i’w swyddi presennol, gan gynnwys pa gyrsiau prifysgol all arwain at yrfaoedd yn y Gwasanaeth Iechyd a'r gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.
Bydd rhai o’r myfyrwyr yn cael y cyfle i gael lleoliadau profiad gwaith yn yr unedau dementia yn Nolgellau, Tywyn a Blaenau Ffestiniog, a dywedodd y dysgwyr fod yr ymweliad yn addysgiadol iawn.
Dywedodd Alice Humphreys: “Roedd yn agoriad llygad, ac yn cadarnhau i mi mai dyna’r llwybr rydw i eisiau ei ddilyn.
“Rwy’n gobeithio mynd ar brofiad gwaith gyda’r tîm er mwyn cael mwy o wybodaeth a phrofiad o gwmpas iechyd meddwl.”
Dywedodd Catrin Jones: “Roedd y cyfle i gael y siaradwyr gwadd i mewn yn fanteisiol iawn i mi oherwydd mi agoron nhw fy llygaid i’r holl swyddi posib o fewn y maes, a sut i’w cyrraedd.
Roedd hefyd yn dda cael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i ddarganfod y llwybr gorau i mi.”
Meddai Kelly Kojs sy'n ddarlithydd ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Roedd yr ymweliad o fudd i’n dysgwyr oherwydd eu bod wedi derbyn ystod o wybodaeth am wahanol yrfaoedd sydd ar gael yn y Gwasanaeth Iechyd.”
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa werth chweil ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai.