Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn cynorthwyo i wneud digwyddiad aml-chwaraeon y Rhyl yn llwyddiant ysgubol

Gwnaeth dysgwyr a staff o Goleg Llandrillo a Choleg Menai gwblhau deuathlon a gynhaliwyd gan Golegau Cymru yn safle Traciau'r Gors yn y Rhyl

Bu myfyrwyr o Goleg Llandrillo a Choleg Menai yn cymryd rhan mewn digwyddiad aml-chwaraeon a gynhaliwyd yn y Rhyl am y tro cyntaf.

Yn y digwyddiad cyntaf o'i fath yng Ngogledd Cymru, cwblhaodd y dysgwyr ddeuathlon a oedd yn cynnwys rhedeg/cerdded un cilometr, 4 cilometr ar feic a rhedeg/cerdded 1km arall yn Nhraciau'r Gors, ger campws Coleg Llandrillo yn y Rhyl.

Roedd y digwyddiad yn bartneriaeth rhwng Colegau Cymru, Grŵp Llandrillo Menai, Coleg Cambria, Triathlon Cymru, Beicio Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, y Bartneriaeth Awyr Agored, Actif Gogledd Cymru a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Nod y digwyddiad cynhwysol cyntaf hwn oedd annog gweithgarwch corfforol ymhlith myfyrwyr a staff, gan gynnig cyfle iddynt gymryd rhan ar ba bynnag lefel a oedd yn cyflwyno her addas iddynt.

Cymerodd mwy na 100 o bobl ran, gan gynnwys myfyrwyr a staff o gyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl, a chyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Menai, yn ogystal â dysgwyr Coleg Cambria.

Gwnaeth rhai myfyrwyr Gwasanaethau Cyhoeddus gefnogi staff y digwyddiad hefyd trwy ymgymryd â rolau fel stiwardiaid, gan ennill profiad gwirfoddoli gwerthfawr yn y broses.

Y gobaith yw y bydd y ddeuathlon yn cael ei gynnal yn flynyddol yn dilyn llwyddiant y digwyddiad agoriadol.

Dywedodd Phil Jones, Pennaeth y Gwasanaethau i Ddysgwyr a Marchnata Grŵp Llandrillo Menai: “Am ddigwyddiad gwefreiddiol oedd y ddeuathlon yn y Rhyl!

"Mae'n galonogol gweld myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn dod at ei gilydd i ddangos eu penderfyniad, eu dyfalbarhad a'u sbortsmonaeth. Mae'r ymdeimlad o gyflawniad roedd y cyfranogwyr yn ei deimlo wrth iddynt groesi'r llinell derfyn yn rhywbeth i'w drysori.

“Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath i Ogledd Cymru a hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o wneud y ddeuathlon yn gymaint o lwyddiant. Mae’n dyst i bwysigrwydd chwaraeon a ffitrwydd mewn addysg.

“Gadewch i’r digwyddiad hwn ein hatgoffa, gydag ymroddiad gan ddysgwyr a threfnwyr ac ysbryd ‘gallwn wneud’, y medrwn gyflawni pethau gwych. Edrychwn ymlaen at fwy o ddigwyddiadau ysbrydoledig o'r fath yn y dyfodol! Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.”

Meddai Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Egnïol a Chwaraeon Colegau Cymru: “Mae llwyddiant y digwyddiad hwn yn seiliedig ar gynnig sy’n addas ar gyfer pob lefel o weithgarwch ac sy’n gwbl gynhwysol ei natur.

“Mae angen ymgysylltu â’r dysgwyr llai egnïol hynny o hyd i hybu gwerth gweithgarwch corfforol.

“Mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym fod datblygu arferion cymdeithasol ac emosiynol cadarnhaol ar gyfer y grŵp oedran hwn, gan gynnwys gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, yn cyfrannu at well lles meddyliol. Bydd mwy o ddigwyddiadau o’r natur hon hefyd yn helpu i greu gwell dealltwriaeth o werth lles gweithgar ar draws y sector.”