Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn cynnal twrnamaint pêl-droed er budd The Joshua Tree

Trefnodd y dysgwyr Busnes gystadleuaeth 5-bob-ochr ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos i gefnogi'r elusen ganser i blant

Trefnodd myfyrwyr Coleg Llandrillo dwrnamaint pêl-droed i godi ymwybyddiaeth ar gyfer The Joshua Tree, elusen canser plant.

Mae'r Joshua Tree yn cefnogi teuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan ganser plentyndod yng Ngogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr, gan ganolbwyntio ar wella lles emosiynol ac iechyd meddwl y teulu agos ac ehangach.

Cymerodd dysgwyr ran ar ôl i weithwyr cymorth i deuluoedd o'r elusen ymweld â champws Llandrillo-yn-Rhos i siarad am eu gwaith.

Trefnodd Jaani Lane, Jack Owens, Josh Jones, Haydon Newman a Jack Weaver, sydd i gyd yn astudio Busnes Lefel 3, gystadleuaeth 5-bob-ochr ar gaeau chwaraeon 3G y coleg, gyda’r elw yn mynd at The Joshua Tree.

Rhoddodd y myfyrwyr mentrus gyhoeddusrwydd i'r digwyddiad o amgylch y campws, gan ddarbwyllo'r darlithwyr i chwarae yn erbyn y tîm buddugol yn y rownd derfynol.

Tîm Bryn's Babies oedd y buddugol o'r chwe thîm a gofrestrodd ar gyfer y gystadleuaeth, ac aethant ymlaen i guro tîm y staff 3-1.

Dywedodd Jack Owens ar ôl y twrnamaint: “Mae wedi bod yn wych bod allan yma heddiw yn codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer elusen mor haeddiannol. Mae’r Joshua Tree yn cefnogi teuluoedd sydd â phlant yn dioddef â chanser, felly mae’n elusen dda iawn i’w chefnogi.”

Dywedodd Sara King, gweithiwr cymorth i deuluoedd The Joshua Tree: “Yr hyn sy’n wirioneddol dda i ni yw cael mwy o ddigwyddiadau ar draws Gogledd Cymru i godi ymwybyddiaeth. Mae wedi bod yn wych bod y coleg wedi rhoi'r cyfle hwn i ni.

“Daethon ni i mewn i siarad â’r myfyrwyr am The Joshua Tree ac roedd ganddyn nhw lawer o syniadau ar sut y gallent helpu i godi ymwybyddiaeth. Maen nhw wedi gwneud yn dda iawn yn trefnu’r digwyddiad hwn, ac wedi bod yn wirioneddol frwdfrydig.”

Dywedodd Sian Longley, sy'n ddarlithydd busnes: “Mae’r ffordd y mae’r myfyrwyr wedi trefnu a chynnal y digwyddiad hwn wedi gwneud argraff fawr arna i. Mae wedi bod yn llwyddiant mawr, ac maen nhw wedi datblygu sgiliau busnes rhagorol.

“Rydyn ni’n gobeithio parhau â’n partneriaeth gyda’r elusen y flwyddyn nesaf a chynnal digwyddiad tebyg arall.”

Dywedodd Conor Merrick, Rheolwr Maes Rhaglen ar gyfer Safon Uwch, Mynediad, Busnes ac Addysg: “Roedd yn ddigwyddiad ardderchog, a gwnaeth y dysgwyr lawer o ymdrech wrth drefnu i sicrhau ei fod yn llwyddiant i elusen haeddiannol. Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan yn y gweithgaredd chwaraeon a drefnwyd ganddynt.”

Cafodd y myfyrwyr y cyfle i fod yn bresennol mewn diwrnod teuluol a gynhaliwyd gan The Joshua Tree yn RSPB Conwy hefyd, lle gwahoddwyd teuluoedd a gefnogwyd gan yr elusen i gymryd rhan mewn crefftau a thaith gerdded lles.

Meddai Stephanie Harding, Arweinydd Rhaglen BTEC Lefel 3 Busnes: “Roeddwn yn ffodus i fod yn rhan o’r diwrnod teuluol yn RSPB Conwy lle'r oedd tystiolaeth glir o ymrwymiad y myfyrwyr i gefnogi achos mor deilwng, a sicrhau bod y plant i gyd yn cael diwrnod hyfryd.”

I gael rhagor o wybodaeth am The Joshua Tree, ewch i'r wefan thejoshuatree.org.uk

Ydych chi'n anelu at gael gyrfa mewn busnes, y gyfraith, cyllid, manwerthu, rheoli neu farchnata? Os felly, gallai Diploma Estynedig BTEC Busnes Lefel 3 (cyfwerth â thair Lefel A) fod yn addas i chi. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.