Artist gemau Lego a Marvel yn ysbrydoli’r myfyrwyr
Ymwelodd Ant O'Donnell, sy’n gyfarwyddwr celf i ddwy stiwdio ddatblygu ffyniannus, â Choleg Llandrillo i siarad â myfyrwyr sy’n dilyn y cwrs Datblygu Gemau
Cafodd y myfyrwyr eu hysbrydoli gan ymweliad Ant O'Donnell, cyfarwyddwr celf sydd wedi gweithio ar deitlau Lego a Marvel.
Yn ddiweddar, ymwelodd Ant â champws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos i roi cyflwyniad i ddysgwyr sy'n astudio’r cwrs Diploma Lefel 3 mewn Animeiddio 3D a Datblygu Gemau.
Rhoddodd adborth ar eu gwaith a chynnig cefnogaeth barhaus i’r myfyrwyr sydd â’u bryd ar yrfaoedd yn y diwydiant gemau.
Mae Ant yn gyfarwyddwr celf yn stiwdios datblygu ar y cyd d3t ltd a Coconut Lizard, sydd yn arbenigo mewn ychwanegu gwerth at gemau ar lwyfannau fel Xbox, Playstation a Nintendo Switch.
Mae wedi gweithio ar gemau fel Guardians of the Galaxy, Marvel Super Heroes 2, a gyda’r darlithydd Datblygu Gemau o Goleg Llandrillo, Rob Griffiths, ar deitlau fel Lego Mindstorms.
Meddai Rob: “Siaradodd â’r dysgwyr am y diwydiant, gan ddweud ambell stori i helpu i ddod â'r byd hwnnw’n fyw. Yna rhoddodd adolygiadau perfformiad i’r myfyrwyr. Rhoddodd adborth ac arweiniad iddynt, a rhoi ei gyfeiriad e-bost i’r myfyrwyr hefyd er mwyn iddo allu cadw mewn cysylltiad â nhw a chynnig cefnogaeth.”
Roedd Lucie Metters a Summer Feehan, myfyrwyr sydd â’u bryd ar fod yn artistiaid yn y diwydiant gemau, o'r farn bod cyngor Ant yn amhrisiadwy.
Dywedodd Lucy: “Roedd yn gyfle da iawn i gwrdd â rhywun o’r diwydiant. Esboniodd beth sydd angen i mi ei wneud i gyflawni’r hyn dw i am ei gyflawni.”
Ychwanegodd Summer: “Roedd yn dda cael barn rhywun gwahanol i'n tiwtoriaid ar ein gwaith, rhywun sy’n gweithio yn y diwydiant ac sy'n gallu dweud wrthym ni beth fydd yn ein helpu i gael swydd a beth fydd ddim. Rhoddodd awgrymiadau defnyddiol i ni ar ein portffolios, gan ddweud wrthym ni am fwynhau’r broses o weithio arnyn nhw.”
Mae'r Ddiploma Lefel 3 mewn Animeiddio 3D a Datblygu Gemau yn rhoi gwybodaeth ymarferol am ystod o feysydd, ac yn cyflwyno offer a thechnegau a ddefnyddir yn y diwydiant cyfryngau. Mae'r myfyrwyr yn canolbwyntio ar ddylunio 3D a gemau, ond mae'r sgiliau a ddatblygant yn berthnasol i amrywiaeth eang o yrfaoedd yn y cyfryngau.
Roedd Lucie a Summer yn llawn canmoliaeth am y cwrs. Meddai Lucy: “Dw i’n meddwl ei fod yn dda iawn. Dydi’r cwrs ddim yn rhywbeth rydych chi'n disgwyl ei gael ar garreg eich drws yma yng Ngogledd Cymru, ond mae gennym ni gyfleusterau gwych ac mae’r addysgu’n dda iawn.”
Dywedodd Summer: “Mae llawer o’r tiwtoriaid, yn enwedig Rob, wedi bod yn gweithio yn y diwydiant, felly maen nhw’n gwybod beth sy’n ddisgwyliedig. Mae hynny'n ddefnyddiol iawn, ac mae'n gallu dweud wrthym ni 'Dyma beth sydd angen i chi ei wneud, ac os na wnewch chi hynny, chewch chi ddim y swydd'. Dyna sydd ei angen arnon ni, yr adborth clir hwnnw.”
A hoffech chi gael gyrfa heriol yn y diwydiant gemau a chyfryngau newydd? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am yr ystod lawn o gyrsiau Cyfrifiadura, Technolegau Digidol a Datblygu Gemau sydd ar gael yng Ngrŵp Llandrillo Menai.