Myfyrwyr yn dysgu sut mae gwneud y mwyaf o'u cynnyrch bwyd
Mynychodd myfyrwyr ail flwyddyn cyrsiau Amaeth, cynhyrchwyr bwyd y dyfodol, weithdai llaeth a chigyddiaeth yng Nghanolfan Technoleg Bwyd Grŵp Llandrillo Menai yn Llangefni
Dysgodd myfyrwyr o Goleg Glynllifon sut mae gwneud y mwyaf o gynnyrch cig a llaeth yng Nghanolfan Technoleg Bwyd, Grŵp Llandrillo Menai.
Mynychodd dysgwyr Lefel 3 cyrsiau Amaeth weithdai gyda’r technolegwyr bwyd Julia Skinner a Karl Jones yn y ganolfan yn Llangefni.
Dangosodd Julia i fyfyrwyr sut i ychwanegu gwerth at ffermio llaeth trwy wneud cynhyrchion fel caws, hufen iâ ac iogwrt, a chafodd y myfyrwyr gyfle i'w cynhyrchu eu hunain mewn sesiwn ymarferol.
Dangosodd Karl, prif gigydd, y gwahanol doriadau y gallent eu gwneud o garcas cig oen, a sut y gallent gael y gorau o'u cig trwy werthu 'blwch cig oen' yn uniongyrchol i gwsmeriaid.
Dysgodd y myfyrwyr sut i arallgyfeirio, gwneud y mwyaf o'u helw a gwneud y gorau o gynnyrch tymhorol - gwybodaeth werthfawr i fynd yn ôl i'w busnesau teuluol eu hunain ac i'w gyrfaoedd yn y dyfodol.
Dywedodd Julia: “Ein nod oedd dangos sut y gall ffermwyr llaeth ychwanegu gwerth at eu llaeth trwy fynd ati i gynhyrchu ystod eang o gynnyrch fel caws, hufen iâ, iogwrt, menyn a llaeth potel.
Gyda’r holl offer llaeth ar waith, chwaraeodd y myfyrwyr rhan ymarferol yn yr holl brosesau a blasu rhai o’r cynhyrchion terfynol. Ein gobaith ydy y bydd rhai yn mynd ymlaen i ddewis llaethyddiaeth fel gyrfa i gynhyrchu incwm ychwanegol i ffermydd.”
Dywedodd Karl: “Roedd yn wych croesawu myfyrwyr a staff Glynllifon i’r Ganolfan Technoleg Bwyd ar gyfer arddangosiad cigyddiaeth ar thema gwerthu cig oen trwy gynllun bocs yn uniongyrchol i’r defnyddwyr.
Mi wnaethon ni drafod natur dymhorol cynnyrch a sut mae’r tymhorau’n effeithio ar gynaliadwyedd ac ansawdd cig oen, a’r hwylustod a’r defnydd y mae cwsmeriaid yn chwilio amdano.
Fe wnaethom hefyd edrych ar sut y gallem ddefnyddio hyn i ychwanegu gwerth at ffermydd defaid yng Nghymru. Ysbrydoli’r myfyrwyr i feddwl am ddechrau busnes cig fferm, dyna ydy'r nod.”
Fel cynhyrchwyr bwyd y dyfodol, bydd myfyrwyr Glynllifon yn gallu parhau i elwa o’r cyfleusterau o’r radd flaenaf yn y Ganolfan Technoleg Bwyd (CTB), sy’n chwarae rhan allweddol wrth drosglwyddo gwybodaeth i’r diwydiant yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Mae gan y ganolfan dair neuadd brosesu, bythau synhwyraidd, labordy dadansoddol llawn offer a chegin brofi, yn cynnwys ystod eang o offer modern ar raddfa ddiwydiannol a ddefnyddir i ddatblygu a threialu cynhyrchion newydd.
Gall cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru gael cymorth technegol gan y CTB drwy Brosiect HELIX, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Yn sicr, cafodd y myfyrwyr eu hysbrydoli gan yr hyn a ddysgon nhw yn yr CTB. Dywedodd Osian Mills: “Roedd yn ddiddorol iawn gweld ffyrdd eraill o elwa o'ch busnes. Mae’n dda dysgu sut i roi ychydig o arian yn eich poced eich hun.”
Dywedodd Cassy Jones: “Dw i wedi dysgu bod ei wneud eich hun yn ffordd wych o hyrwyddo eich brand. Os ydych yn ei hyrwyddo a’i greu eich hun, gallwch werthu i bobl leol a rhoi hwb i’r economi leol.”
Ychwanegodd Gwion Pritchard: “Roedd yn ddiddorol dysgu sut i ychwanegu gwerth at ein cynnyrch. Fe wnaeth i mi feddwl am wahanol gyfleoedd ar gyfer ein fferm ein hunain.”
Dywedodd Megan Jones: “Roedd yn dda gweld sut y gallwch chi gymryd un cynnyrch a’i droi’n rhywbeth newydd. Roedd yn ffordd dda o danio syniadau newydd.”
Esboniodd Rhodri Owen, Rheolwr y Fferm, Coedwigaeth ac Arloesi yng Ngholeg Glynllifon: “Y nod oedd dangos i’r myfyrwyr sut y gallant arallgyfeirio, gwneud y gorau o’u cynnyrch a gwneud y mwyaf o’u helw. Yna byddant yn gallu mynd â’r wybodaeth hon yn ôl i’w busnesau ffermio eu hunain ac i’w gyrfaoedd yn y dyfodol.”
Meddai Wyn Davies, Cynghorydd Amaeth yng Ngholeg Glynllifon: “Mae’r Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni yn gaffaeliad mawr i gynhyrchwyr bwyd yng Ngogledd Cymru, ac wrth gwrs i ni yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Bydd ein myfyrwyr yn gallu parhau i gael mynediad at gymorth gan y Ganolfan Technoleg Bwyd yn ystod eu gyrfaoedd eu hunain fel cynhyrchwyr bwyd, a bydd y gefnogaeth honno yno ar eu cyfer hyd at y pwynt gwerthu a thuag at ddatblygu cynnyrch newydd ar gyfer eu cwsmeriaid.”
- Os yw eich cwmni bwyd a diod wedi'i leoli yng Nghymru, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth a ariennir gan Brosiect HELIX gan y Ganolfan Technoleg Bwyd. Mae gan gwmnïau cymwys fynediad at ystod o gymorth. Ariennir Prosiect HELIX gan Lywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Canolfan Technoleg Bwyd, Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.